Archifau Categori: Agora2

Agora Mai 2016

Golygyddol

Golygyddol

gan Enid R. Morgan

‘What do you think of all this immigration then?’ gofynnodd y lletywraig Gymreig yn Sir Fflint i mi (hyn ryw flwyddyn yn ôl). Teimlwn fy ngwrychyn yn codi wrth ateb, ‘We’ve been coping with immigration in Wales for many years.’ Edrychodd yn reit syn tuag ata i wrth sylweddoli nad oedd y ddwy ohonom yn sefyll ar yr un tir. Profiad anghysurus y dyddiau hyn ydi gwrando ar y Saeson hynny sy’n dadlau yn erbyn caniatáu i estroniaid ddod i mewn a newid natur cymunedau Seisnig. Ac os oes yna linyn sbeitlyd ynom, mae ’na demtasiwn i wenu’n gam wrth weld ein cymdogion hyderus yn diodde’r un ofn â ninnau. Mae newid yn aml yn boenus.

Ac mae’n codi ngwrychyn i (ydi, digon hawdd ei godi, mae arna i ofn!) pan fydd gwleidyddion yn crybwyll y Kindertransport fel enghraifft o groeso Seisnig. Ymateb unigolion tanbaid oedd y Kindertransport i’r ffaith fod y llywodraeth yn gwrthod croesawu oedolion Iddewig oedd yn ceisio ffoi rhag amcanion llofruddiol Hitler. Gwn am ŵr fu’n warant ariannol i nifer o Iddewon ddaeth i Brydain yn y tridegau. Roedd un ohonyn nhw’n gorfod mynd i gofrestru yn swyddfa leol yr heddlu bob dydd – a’r rheini, chwarae teg iddyn nhw, yn swil o embaras o’i gweld dro ar ôl dro, a hithau’n fygythiad i neb.

Nid yr un peth yw’r ‘mewnlifiad’ i Gymry ag yw ‘immigration’ i Saeson, ar waethaf y tebygrwydd arwynebol. Nid tlodion digartref mewn unrhyw berygl oedd yn prynu ail dai yng Nghymru. Yr oedd, ac y mae, llawer o fewnfudwyr sy’n dod i fyw’n barhaol mewn pentrefi Cymraeg yn dod â digon o arian ac egni i ailadeiladu tai sydd ar fin dadfeilio. Mae rhai’n dymuno bod yn rhan o’r gymdeithas leol ond yn gorfod sylweddoli bod perthyn yn golygu gwaith caled, a thipyn o wyleidd-dra.

_81157048_mered2

Meredydd Evans

A doedd neb wedi llefaru’n fwy eglur yn erbyn peryglon y mewnlifiad na Merêd. Tybiwyd gan rai nad oedd yn ei adnabod, ond a glywodd am ei anerchiad fel Llywydd yn Eisteddfod Abergwaun, ei fod yn eithafwr hiliol. Ond er ei wrthwynebiad i her economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y mewnlifiad, yr oedd Merêd ar lefel bersonol yn rhoi croeso i bawb.

 

Ar ddiwrnod llym-awel ei angladd yng Nghwmystwyth yr oedd y ffyrdd yng ngogledd Ceredigion i gyd yn arwain i gapel Cwmystwyth. Rhoddais innau bàs i wraig reit anghenus ei golwg; ie, mynd i angladd Merêd yr oedd hi. ‘Lovely man,’ meddai hi. ‘I know I won’t understand anything much, but I’ve got to come to say goodbye.’ Mewnfudwraig (heb lwyddo i ddysgu fawr ddim Cymraeg) oedd wedi syrthio dan gyfaredd y gŵr oedd yn rhoi nid yn unig groeso personol iddi hi, ond croeso i’r diwylliant Cristnogol Cymraeg yr oedd ef yn ei amddiffyn a’i feithrin gyda’r fath arddeliad. Roedd ganddo ddiddordeb croesawus, cariadus, gwerthfawrogol o bawb, hyd yn oed y mewnfudwyr – efallai’n arbennig y mewnfudwyr! Roedd yna nifer sylweddol ohonyn nhw yn yr angladd – roedden nhw’n meddwl y byd ohono. Roedd Merêd yn hyderus gyfleu i ddieithriaid y cynhesrwydd agored sydd weithiau’n nodweddu ein byd bach Cymraeg ni. Rydyn ni’n gallu bod yn gul, yn amheus ac yn ochelgar o bobl ‘wahanol’ – yn union fel ein cymdogion Seisnig. Roedd e’n dangos i ni ein bod yn gymdeithas werth gwneud ymdrech i berthyn iddi. Roedd yn amddiffyn heb fod yn amddiffynnol. Gwers i ni i gyd: gwers i ni, Gymry, gwers i Saeson ac i Ewrop gyfan wrth i ni dalu’r pris am ormes a chelwydd ymerodraethau sydd wedi edwino.

Yn y cyd-destun yma mae stori Iesu’n iacháu ‘gwas y canwriad’yn werth talu sylw iddi. (Roedd yn hysbys bod ‘gwas canwriad’ yn aml yn wrthrych serch rhywiol swyddogion y fyddin Rufeinig orthrymus.) Nid yw Iesu’n gosod unrhyw amod, na deddfol grefyddol na chenedlaethol, ar ffordd haelioni a thrugaredd. Ymateb trugarog yw ymateb Iesu i bopeth ac eithrio rhagrith hunangyfiawn. Dynwared yr haelioni penagored hwnnw yw’r alwedigaeth anodd i ni i gyd.

 

 

Trychiad, Tylluan a Nadolig Durham gan Meg Elis

Trychiad, Tylluan a Nadolig Durham

Gwyn Thomas: Bardd, Athro, Diacon (1936–2016)

gan Meg Elis

Gweyn Tom

Gwyn Thomas

Darluniodd y darlithydd gysyniad llenyddol y ‘trychiad’ i’w ddosbarth trwy gyfeirio at un o erchylleiriau Williams Pantycelyn – “Constant-fawr-inople”. Ond er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod y ffurf yn dal yn gynhyrchiol, fe gyfeiriodd hefyd at ebychiad gyrrwr bws yn y Blaenau pan gamodd cerddwraig ddiofal allan i’r lôn o’i flaen – “Ddaru hi ddim hesi-blydi-tetio”.

A dyna Gwyn Tom. Yn medru esbonio dyfais lenyddol o ddyddiau Dafydd ap Gwilym drwodd at yr hen Bant, ond gan gysylltu hefyd ag ieithwedd ei bobl ei hun. Naturiol i mi, felly, mewn gwasanaeth Nadolig pan oeddwn i yn y coleg – 1970, faswn i’n tybio, gan i mi dderbyn copi o Ysgyrion Gwaed yn anrheg y Nadolig cynt – oedd darllen ei gerdd ‘Nadolig 1966.’ Cerdd ydi hi sy’n cyfeirio at eitem newyddion, pan wrthodwyd caniatâd i osod siop wag yn ddi-dreth i elusen er mwyn codi arian at anffodusion y byd. Mae’n cyfuno vox pops, adnodau o’r Beibl, ac ieithwedd arbennig y bardd ei hun:

O Fair fam,
A ddaw’r geni,
A ddaw’r goleuni,
A ddaw’r Nadolig i Ddurham?

Yng ngwaith Gwyn Thomas, mae’r goleuni yn dod, yn llathru drwodd. Roedd y Weledigaeth Haearn a Chwerwder yn y Ffynhonnau wedi’u hychwanegu at Ysgyrion Gwaed tra oeddwn i’n dal yn y coleg, ar yr un pryd ag yr oeddwn yn mynychu ei ddarlithoedd ar yr Hengerdd, ar Dafydd ap Gwilym, ac yn fy mlwyddyn gradd yn dewis ei gwrs ar Ddychan. Yr ysgafnder, wedi’i asio mor berffaith gyda’r ysgolheictod sicr – ac yn waelod i’r cyfan, dynoliaeth, trugaredd, graslonrwydd.

Dyna barodd i mi brynu record hir ohono yn darllen ac yn esbonio ei waith ei hun. Mae’r record wedi mynd ar goll, ond mae ei lais o’n fyw yn fy nghof y funud hon, yn esbonio sut ei fod o’n teimlo cymhelliad awdur Llyfr y Diarhebion: “Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr.”

Plant. Cofio fel y daeth Enw’r Gair yn nechrau’r saithdegau yn dipyn o sioc i’r rhai oedd wedi ymhyfrydu yng ngerwinder ei dair cyfrol gyntaf. Adwaith plentyn, geiriau plant – be oedd wedi digwydd i’r bardd egr, ei fod o rŵan yn medru disgrifio Crocodeil Afon Menai fel “Anghenfil cwstad-felyn”, a threulio cerdd gyfan yn disgrifio adwaith babi i gyrtens? Datblygiad oedd hyn, nid gwyriad na gwrthgilio. Dyn, tad, oedd yn medru dirnad sut y gallai plentyn weld rhyfeddod yn y pethau lleiaf, mwyaf cyffredin. Mae’r rhan fwyaf o oedolion yn colli’r ddawn hon, yn caledu. Wnaeth o ddim.

meg_elis- llun

Meg Elis

Mae yna dristwch, sobreiddiwch hyd yn oed, yn llawer o’i waith, ac i mi, roedd hyn i’w weld ar ei finiocaf yn y cyfrolau sy’n briodas mor berffaith rhwng ei ddawn ef â geiriau a dawn Ted Breeze Jones. Dwi’n dychwelyd dro ar ôl tro at y gerdd ‘Tylluan’ yn Ac Anifeiliaid y Maes Hefyd. Mae’r llun yn syfrdanol – llygaid tylluan mewn llun agos: llygad-dynnu yng ngwir ystyr y gair. A geiriau’r bardd fel litani: “O’r gwyll hen, syllu golygon … Gŵyr hi, gŵyr hi’n hen iawn.”  Nes dod at y terfyn iasol:

O nos faith y bydysawd syllu golygon

Ar rawd druan, ffawd druan plant dynion

Rydw i’n galaru am fardd oedd yn ymdeimlo’n llwyr â ‘ffawd druan plant dynion’, ond un oedd hefyd yn cyd-deimlo ac yn cydymdeimlo â nhw yn eu gwendid, eu gwiriondeb a’u gorfoledd.

Ac yr ydw inna’n galar-blydi-nadu bod Gwyn Tom wedi mynd.

 

‘Cael Profiad o’ a ‘Dysgu am …’ gan Eric Hall

‘Cael Profiad o’ a ‘Dysgu am …’

Meithrin dawn y galon mewn addysg gan Eric Hall

Rydym ni i gyd yn ymwybodol fod cefnogaeth i’r ffydd Gristnogol yn y wlad yma ac yn Ewrop yn gyffredinol yn gwanhau yn gyflym. Er bod nifer o ffactorau yn cyfrannu at hyn, mae yna un sy’n allweddol, sef methiant ein hymdrechion yn ein hysgolion a’n library-488678_960_720hysgolion Sul i ddarbwyllo dysgwyr o bresenoldeb yr ysbrydol. I daflu ychydig oleuni ar hyn, gallwn droi at ysgol o athronwyr addysg dan yr enw ad-ddygol (reductionist). Credant y gellir crynhoi’r profiad dynol i nifer fach o gategorïau sylfaenol. Ar ôl arolwg o’r holl wahanol brofiadau mae’r byd yn eu cynnig i’r ddynoliaeth, mae’r athronwyr addysg Hirst a Peters yn awgrymu ein bod ni’n ymateb i’r profiadau mewn saith ffordd sylfaenol wahanol, sy’n seiliedig ar ffurfiau gwybodaeth (Mathemateg, Gwyddoniaeth, y Gwyddorau dynol, Hanes, Crefydd, Llenyddiaeth a’r Celfyddydau cain, ac Athroniaeth).

Mae pob un ffurf yn annibynnol. Mae gan bob un ei chysyniadau canolog, fel disgyrchiant, egni a phroton mewn gwyddoniaeth, neu rif, prif ffactor a matrics mewn mathemateg a.y.b. Hefyd mae gan bob un ei feini prawf o’r gwirionedd. Beth sy’n bwysig i ni yw’r ffaith fod meini prawf y gwirionedd yn wahanol ym mhob ffurf. Nid yw’r meini prawf mathemategol yn gallu gweithredu yn y celfyddydau cain. (Pwy yn ei iawn bwyll fyddai’n defnyddio egwyddorion mathemategol i brofi gwirionedd yr Offeren yn B leiaf gan Bach?) Ond, yn bwysicach fyth, nid oes gan feini prawf gwyddonol ddim i’w ddweud o fewn y ffurf grefyddol (gan eithrio lle mae’r Beibl yn gwneud datganiadau gwyddonol, e.e. oedran y ddaear). Mae un yn hollol wrthrychol a’r llall yn hollol oddrychol. Pan ddywedodd Job, “Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw”, nid datganiad rhesymegol ydyw ond datganiad y galon. Mae 1 Corinthiaid 1 yn gwneud rhywbeth tebyg. Hefyd, “Y mae teyrnas Duw o’ch mewn” – y tu hwnt i grafangau gwrthrychedd gwyddoniaeth.

Nid yw Hirst a Peters yn awgrymu fod y saith ffurf, o angenrheidrwydd, yn ymddangos fel pynciau yn y cwricwlwm, ond mae’n bwysig fod pob un ohonynt yn cael lle yn rhywle mewn addysg gyflawn, y tu mewn neu’r tu allan i’r cwriciwlwm ysgol. I’r graddau nad yw hyn yn digwydd, cawn sefyllfa lle mae rhan o brofiad y byd a all fod yn real ac yn ddealladwy yn absennol neu’n annealladwy.

Beth yw’r amodau addysgiadol a fyddai’n sicrhau arweiniad i saith ffurf Hirst a Peters?

phone-1052023_960_720Yn y lle cyntaf mae angen profiad. I ddarparu hyn mae angen cynllunio sefyllfa lle mae’r dysgwr yn derbyn profiad uniongyrchol, noeth, sy’n perthyn i’r ffurf o dan ystyriaeth. Mewn gwyddoniaeth yr ydym yn darparu labordai lle mae’r dysgwyr yn derbyn profiad o elfennau ffisegol yn ‘amrwd’ – grymoedd, gwres, cerrynt, golau, hylifau, a.y.b. Mewn mathemateg yr ydym yn cyflwyno profiad o linellau, siapiau, rhifau, patrymau a.y.b. Mewn cerddoriaeth cawn sain, nodau, rhythm. Yn yr ail le (yn yr addysg orau) trefnwn sefyllfa lle mae’r dysgwr yn gallu dadansoddi ei brofiad ac yn creu trefn arno yn ôl arferion ein diwylliant. Mae hyn yn hyrwyddo dealltwriaeth a chysondeb meddyliol, cyfathrebu gydag eraill a datblygiad pellach. Er enghraifft, o ganlyniad i’w brofiadau yn y labordy mae dysgwr, o dan gyfarwyddyd yr athro, yn gallu dod i’r casgliad fod cyflymiad unrhyw sylwedd yn union yn ôl maint y grym sy’n gweithio arno. Yn hyn o beth mae’n gallu uniaethu gyda Isaac Newton a’i ffordd o edrych ar y byd ffisegol. Mewn ffordd debyg, oni ddylai fod yn bosibl i’r dysgwr, o ganlyniad i’w brofiadau mewn addysg grefyddol, uniaethu gyda Christ (neu Muhammad, neu Buddha, neu Confucius) a’i ffordd o edrych ar y byd ysbrydol?

Nid yw pob addysg yn cyrraedd y lefel yma. Weithiau mae’r dysgwr yn derbyn y drefn yn ail law i’w dysgu ar ei gof. Nid yw hyn yn gwarantu dealltwriaeth, ond mae’n help i basio arholiadau!

Mae’n bwysig sylweddoli nad yw addysg yn y ffurfiau gwybodaeth yn ceisio dysgu am y ffurfiau ond yn trwytho’r dysgwr yng nheithi meddwl ac arferion y ffurf honno. Y nod yw cael dysgwyr sy’n gwybod sut i ymddwyn fel gwyddonwyr (os dymunant), neu’n fathemategwyr neu’n athronwyr, neu’n grefyddwyr – ac yn bwysicach fyth, i wybod sut i ddewis y ffurf sy’n addas i’w profiad. (Ai yn y fan hon y mae gwendid Dawkins?)

Dyma ni’n awr wedi dod at bwynt tyngedfennol. Yn wahanol i bob ffurf arall, mae ffynonellau profiad y ffurf crefydd y tu mewn i ni, yn oddrychol, yn deimladol, affeithiol. Nid yw’n bosibl darparu labordy neu ddosbarth i drefnu profiadau sy’n sail i grefydd oherwydd nid trwy’r synhwyrau mae’r profiad yn dod. (Efallai fod angen eithrio moesymgrymu ac ystum gorfforol sy’n rhan o ddefod.) O ganlyniad mae mynediad i brofiadau sydd yn sail i’r ffurf grefyddol yn dibynnu ar sensitifrwydd yr unigolyn i’w deimladau mewnol, a dyma, yn fy marn i, wraidd ein problem. O ystyried hyn i gyd, i ba raddau gallwn ni ddweud fod addysg grefyddol yn cyflawni amodau angenrheidiol ffurf crefydd? Hyd y gwelaf i, nid yw addysg grefyddol yn ymddangos yn elfen gydnabyddedig yng nghwricwlwm ysgolion o gwbwl; yn wir, mae’n anodd gweld sut byddai ysgolion yn gallu darparu’r math o brofiadau sy’n wraidd i grefydd, ar wahân, efallai i’r gwasanaeth boreol. Mae’r Astudiaethau Crefyddol (nid Addysg Grefyddol) yn y cwricwlwm presennol yn gyfuniad o hanes, moesoldeb ac etheg, anthropoleg ac astudiaethau crefydd. Mae hyn yn gyfraniad gwerthfawr i nifer o ffurfau gwybodaeth Hirst a Peters ond nid yw’n addysg grefyddol. Efallai ar ei gorau ei bod yn gallu dysgu am grefydd.

Faith-Bible-PulpitEr fy mod i wedi pwysleisio pwysigrwydd profiad mewnol fel sail i grefydd, mae angen cydnabod fod ymwybyddiaeth o brofiad mewnol yn ddibynnol ar sensitifrwydd yr unigolyn. Mae’r person cyflawn yn byw mewn dau fyd: un gwrthrychol ac un goddrychol. Oherwydd llwyddiant ysgubol y ffurf gwyddoniaeth â’i bwyslais ar y gwrthrychol a dylanwad arholiadau (os nad yw’n bosibl rhoi mesur arno mewn arholiad, nid yw’n cyfrif mewn cwricwlwm), mae’n bydolwg ni’n unochrog, yn faterol, ac yn empeiraidd. Mae ein hymwybyddiaeth o’n profiadau teimladol, mewnol (meta affection yn lle metacognition) wedi cael ei chrebachu. Er bod gan y sefydliadau crefyddol yr adnoddau i roi ffurf ar brofiadau crefyddol trwy eu defodau (ar waethaf yr angen i’w diwygio), nid oes gan y rhan fwyaf o bobl unrhyw brofiad a fyddai’n manteisio ar yr adnoddau hyn. Ceffyl heb gert sydd gennym. Hyd y gwelaf fi, nid oes gobaith i ni ddiwygio addysg grefyddol yn absenoldeb profiad mewnol cyfoethog. Mae adennill y sensitifrwydd yma yn dasg i bob un o’r ffurfiau gwybodaeth a dyma lle y gall addysg ysgol chwarae rhan allweddol. Yn lle terfynu addysg gyda llwyddiant mewn arholiadau, mae angen parhad i greu rhyfeddod a pharchedig ofn yn wyneb datguddiadau gwyddonol, ceinder hafaliadau mathemategol, prydferthwch y celfyddydau. Yn gyffredinol, mae angen disgyblion sy’n gartrefol yn y byd anfaterol. Disgyblion sydd, fel enghraifft, yn gallu sefyll o flaen Crist Mostyn yn eglwys gadeiriol Bangor ac yn lle gweld talp o bren llawn pryf, gweld ymgorfforiad o

Tristwch a chariad yn ymdreiddio i lawr
Sorrow and love flow mingling down.

Dyma’n tasg ni: rhoi cydbwysedd yn ôl yn ein haddysg. Wedi hynny, gallwn wynebu’r dasg o ddarparu profiad o’r goruwchnaturiol.

 

 

Ydwyf gan James Alison

Ydwyf gan James Alison

Dywedodd Duw wrth Moses “YDWYF YR HWN YDWYF”

            Dyma, felly, ateb yr atebion, ac ar yr un pryd y pennaf ddim-ateb-o-gwbl. Oherwydd y mae’r un Duw sy ddim yn cystadlu â dim sy’n bod, ac sy’n bwriadu dod â rhywbeth newydd i fodolaeth trwy ddefnyddiau tra anaddawol, yn gwbl y tu allan i ffurfiau cyffredin o ymddygiad dwyfol, hefyd yn gwrthod bod yn Beth nac yn Ef. YDWYF, ond yna Byddaf  yr hwn y byddaf. (Mae hwn o bosibl yn gyfieithiad llai camarweiniol o’r cymal eithriadol o annirnad hwn.) Dyma rywbeth na ellir gafaelyd ynddo, yn dod tuag atoch chi, a’r “amhosibl gafaelyd yno” yn hanfod i beth sy’n mynd mlaen. YDWYF yw’r un sy’n troi mâs i fod yn weithredydd go iawn, yr un sy’n dwyn popeth i fodolaeth; ac felly dim ond i’r graddau y mae rhywun yn rhoi’r gorau i dreio bod yn “ydwyf ” yn wyneb Duw, yn treio gwneud Duw yn “beth” neu’n “ef” y bydd y person, neu’r grwp yn dechrau derbyn eu hunain, eu gwir “hunain”, eu gwir Ydwyf israddol, fel grwp neu fel personau unigol. Yn wyneb yr YDWYF, y gweithredu pur bwriadus, anfrysiog, yn creu ac yn symud, dim ond symptomau yw’r cwbl ohonom, yn bethau, yn nhw sy’n cael eu newid i fod yn ni ac yn fi trwy broses hanesyddol o berthyn, yn y fan lle y cawn ein hunain yn cael ein galw i addoli yr Arglwydd.

                        Dywed hyn wrth feibion IsraelYdwyf sydd wedi fy anfon atoch”.

            Sylwch os gwelwch yn dda, nag ydi hwn ddim yn orchymyn defnyddiol iawn. Ystyriwch y ramadeg. Holl bwynt “YDWYF”yw nad ydyw’n “beth” nac yn “ef”, ac felly nid yw berf yn y trydydd person unigol yn gwneud synnwyr o unrhyw fath. Yr unig ffordd bosibl y bydd Moses yn medru cyfleu’n ddilys mai YDWYF sy’n ei anfon, fydd trwy ddyfod ei hunan yn fwy fwy gweladwy fel arwydd byw o YDWYF.

  Dywedodd Duw eto wrth Moses, “Dywed hyn wrth feibion Israel, ‘Yr Arglwydd, Duw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob sydd wedi fy anfon atoch; dyma fydd fy enw am byth, ac fel hyn y cofi amdanaf gan bob  cenhedlaeth” (Exodus 3.14)

            Mae Duw yn ychwanegu’r wybodaeth hon bod pobl Israel i ddysgu dehongli popeth sy’n digwydd iddyn nhw o hyn ymlaen drwyddo fe, fel petae, o fewn i un gweithred unol. Bydd yr enw Ydwyf neu Byddaf yr un  a fyddaf  yn cael ei ddatguddio fel yr enw lleia camarweiniol i’r un a fu’n weithredydd eu hanes ar hyd yr amser dan wahanol enwau a theitlau. Gellir gwaredu’r enwau rheini nawr, wrth i Greawdwr popeth, profiad o erledigaeth, a dwyn pobl newydd i fodolaeth, osod siâp ffurfiannol ar y profiad Hebreig…

            Gobeithio’ch bod chi wedi cael rhyw awgrymiadau o sut y gall y “llyfr mawr du” fod, yn hytrach nag yn arf i labystiaid moesol, o’i ddal mewn dwylo sydd ddim ag ofn arnyn nhw, ddod yn fan chware ar gyfer gweithred o gyfathrebu gan Dduw sy’n troi ynom ni’n barchedig ofn a rhyfeddod.

(o’r  Y Dioddefus sy’n  Maddau  gan James Alison (cyf. Enid R Morgan) a gyhoeddir yn fuan gan Cyhoeddiadau’r Gair)Llyfr Enid

Holi tipyn ar Dyfed Edwards, awdur Iddew

Holi tipyn ar Dyfed Edwards, awdur Iddew

dyfed a mared

Dyfed Edwards

Dyfed, diolch i chi am gytuno i ateb rhai cwestiynau.

Llongyfarchiadau ar gyfrol sydd wedi ennyn cymaint o ddiddordeb. Mae dros 300 o weithiau creadigol llenyddol wedi eu cyhoeddi am Iesu yn Saesneg. Mae rhai wedi eu hysgrifennu yn Gymraeg ond mae hon, a dweud y lleiaf, yn wahanol iawn.

 

 

  1. Mae ôl ymchwil manwl iawn ar Iddew o safbwynt iaith, cefndir a’r stori wreiddiol. Mae dewis a dethol, wrth gwrs, a hynny’n anorfod. Ai ailedrych ar y stori oedd yn stori eich cefndir a’ch magwraeth, ynteu oeddech chi’n dibynnu’n llwyr ar ymchwil newydd?

Mae pawb yn dewis a dethol. Nofelwyr a sgriptwyr, yn enwedig, wrth greu ffuglen. Rhaid gwneud i adeiladu stori. A dyna sydd yma: stori. Dwi wedi defnyddio’r ffynonellau sydd ar gael: yr Efengylau a hefyd ymchwil i Iesu hanes. Mae rhestr reit hir o’r llyfrau borais drwyddynt yng nghefn y nofel.

  1. Oedd yna rywbeth ynglŷn â Iesu o Nasareth oedd yn eich denu ato, neu benderfyniad i ysgrifennu cyfrol ddadleuol ar gyfer yr Eisteddfod ydoedd, a bod crefydd yn bwnc sensitif (ac yn darged hawdd) y dyddiau hyn?

Dwi’n meddwl mai safbwyntiau eraill amdano oedd yn denu fwya. Mae Iesu’n ddalfan i fydolwg pobl, yn enwedig Cristnogion, ac nid yw hyn yn help o gwbl wrth geisio datrys pwy oedd o go iawn. Nid oedd yn fwriad bod yn ddadleuol, ond dwi’m yn gweld pam na ddylai crefydd fod yn darged beirniadaeth. Nid oes unrhyw syniad na ddylid ei archwilio. A dweud y gwir, mae crefydd, Cristnogaeth yn y gorllewin, wedi cael ei ffordd ei hun am ganrifoedd, heb unrhyw sgrwtini allanol o gwbl. Dylai pob syniad – crefyddol, gwleidyddol, athronyddol – gael ei herio.

  1. A fyddech yn ystyried y nofel yn nofel gyfoes, wleidyddol? Neu a oedd dweud y stori yn ddigon i chi?

Roeddwn wedi fy nhrwytho yn y cyfnod, y ddaearyddiaeth, a’r hanes wrth sgrifennu Iddew. Nid sylwadaeth ar y byd sydd ohoni ydi hi, ond nid yw’n broblem i mi fod rhai’n credu hynny.

  1. Mae’r deunydd gwreiddiol yn rhoi digon o le a chyfle i feirniadu’r rhai oedd am amddiffyn eu crefydd a hwy eu hunain. Fel anffyddiwr, a yw’r anffyddiaeth honno wedi datblygu fel ymateb yn erbyn ‘crefyddwyr’ a dylanwad crefydd (fel yn achos llawer o bobl) neu ai methu credu yn Nuw sy’n gyrru eich anffyddiaeth ac nad oes a wnelo dim â’r eglwys a chrefyddwyr?

Fe gamddehonglir anffyddiaeth gan rai crefyddwyr, yn aml er mwyn codi “dyn gwellt” (straw man) mewn dadl. Diffyg ffydd mewn duwiau yw anffyddiaeth, dyna i gyd; nid datganiad nad oes yna rai. Ella fod yna rai, ond daw fy anffyddiaeth i – a nifer o anffyddwyr dwi’n eu hadnabod – o absenoldeb unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r honiad fod yna dduwiau, neu efallai un Duw’n benodol. Nid yw’n deillio fel ymateb yn erbyn crefyddwyr, ond fel ymateb i’r diffyg – yn ôl pob golwg – tystiolaeth.

  1. Mae’n annisgwyl fod eich nofel yn gorffen, nid gyda’r croeshoeliad ond gyda Saul yn sôn am ei aileni ‘yng ngwaed ei aberth o’ a bod y byd i gyd yn disgwyl y neges hon am Iesu. Mae’n nodyn gobeithiol, ac yn dweud mai’r dechrau yw hyn. Pam dewis y diwedd yma?

Roedd Saul/Paul yn gymeriad tra gwahanol i Iesu. Rydan ni’n gwybod mwy amdano ar gownt ei saith llythyr. Roedd o’n amlwg yn ffwndamentalydd, yn credu’n absoliwt yn ei neges. Mae’n ymddangos i mi nad oedd ganddo fawr o ddiddordeb ym mywyd, a hyd yn oed neges, Iesu, ac mi ganolbwyntiodd ar y croeshoeliad a’r atgyfodiad, a datblygu ei neges o gwmpas hynny. Fel rhywun nad oedd wedi cyfarfod Iesu, roedd ganddo awydd i ddangos, yn fy meddwl i, fod ei berthynas gyda Iesu gystal ag un Pedr ac Iago. Ni allai byth gystadlu gyda’r ffaith eu bod nhw wedi cyfarfod, wedi crwydro, ac yn achos Iago, wedi tyfu, gyda Iesu. Felly, mi aeth Saul/Paul ati i geisio gwneud synnwyr o’r hyn roedd o wedi ei brofi, a rhyw dduw atgyfodedig welodd o, nid proffwyd dynol iawn. Iddo fo, roedd hyn i gyd yn golygu “dechrau” gydag atgyfodiad, nid “darfod” gyda dienyddiad.

Iddew gan Dyfed Edwards

Iddew gan Dyfed Edwards

dyfed cropped

Dyfed edwards

Mae Iesu a’i ddisgyblion ar lethrau Mynydd yr Olewydd (Har HaZeitim) ac mae Iesu yn edrych  ar y cannoedd o bererinion yn torheulo, yn ymlacio, yn diogi ac yn gweld y milwyr Rhufeinig ar ben muriau Jerwsalem. Mae’n cynhyrfu ynddo’i hun. Mae Pedr (Kepha) yn torri ar draws ei feddyliau. Mae Pedr yn gweld Yako (brawd Iesu).

(tudalennau 170–171 )

Mae ei lygaid yn chwilio. Yn chwilio’r ddinas. Yn chwilio’r muriau. Yn chwilio llethrau Har HaZeitim. Yn chwilio –

Mae Ieshua’n stiffio –

Mae’r tân yn cynnau eto –

Mae Kepha’n synhwyro –

Beth sydd rabboni? Ac mae Kepha’n cyfeirio at rywun –

At Yakov. Ei frawd o. Ei frawd o eto. Ei frawd o eto o Natz’rat. Ei frawd o eto ar y llethrau. Ar lethrau Har HaZeitim. Ei frawd o yn ei hawntio fo. Ei frawd yn sefyll ac yn syllu. Ei frawd o yn codi llaw arno fo. Yn cyfarch. Mae Iesu’n crynu. Mae o yn troi ei gefn. Mae o yn troi rhag iddo gael ei aflonyddu. Yn troi rhag iddo weld ei hun. Gweld ei hun yn wyneb ei frawd. Gweld ei hun mewn dyn. Gweld ei hun mewn saer maen. Gweld ei hun yn y llwch ac yn y brics. Ond ni all beidio ag edrych. Ni all droi rhag y drych. Ac mae o’n edrych i gyfeiriad Yakov eto. Edrych i weld ei frawd eto. Edrych i weld ei hun eto. Ac mae Yakov yn ei gyfarch eto. O bell. Yn codi llaw. Yakov ym mysg cyfeillion. Yr un hen wynebau o Natz’rat. Yr un hen wynebau yn dod i’r Pesach pob blwyddyn. Yr un hen wynebau ddaeth gyda Yeshua i’r Pesach ers ei fod o’n bar mitzvah. Ers ei fod yn fab y gorchymyn. Ers ei fod o’n ddyn. Flwyddyn ynghynt roedda nhw i gyd yma. Iddew Dyfed Edwards

Flwyddyn ynghynt yr oedd yma. Ond nid y fo. Yeshua arall oedd hwnnw. Dyn arall. Byd arall. Mae o’n ddyn newydd erbyn hyn. Ac mae’r byd yn newydd hefyd. Neu mi fydd o cyn bo hir.

Fe hoffem yn fawr gael eich ymateb i’r nofel eithriadol hon. Fe fu bron iddi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen – y wobr bwysicaf am nofel Gymraeg – yn 2015. Anfonwch atom ac fe gyhoeddwn eich sylwadau, neu os daw nifer, fe fyddwn yn cyhoeddi detholiad.

 

 

Ydwyf yr hyn ydwyf – IHWH gan Enid R. Morgan

Ydwyf yr hyn ydwyf – IHWH gan Enid R. Morgan

‘Nid enw yw “Duw” ond Berf’

Enid

Enid R. Morgan

Mae’r ymadrodd trawiadol hwn gan Aled Jones Williams yn Duw yw’r Broblem wedi glynu yn fy meddwl a’m hatgoffa am y berth yn llosgi, a’r Moses a droes o’r neilltu i sylwi arni. Oes yna ffordd o ddehongli’r stori a fyddai’n help i ni? Wrth y berth ac ar ôl mynnu mai’r un Duw ydyw â’r un siaradodd ag ‘Abraham, Isaac a Jacob’ y mae’r presenoldeb yn yngan y gair IHWH.

Prayers for the CosmosTynnwyd fy sylw yn ddiweddar at gyfrol fach Prayers of the Cosmos, Reflections on the Original Meaning of Jesus’s Words* gan Neil Douglas-Klotz (Rhagair gan Matthew Fox). Yn y fan honno dadleuir bod y gair pedwar sill, IHWH, a leferir o’r berth yn llosgi, yn swnio’n debycach i ochenaid neu chwythiad anadl nag i air cyffredin. Ac i’r Iddewon, doedd e’n sicr ddim yn air i’w ynganu. Dyna paham, yn Llyfr y Salmau, lle mae’r gair IHWH yn ymddangos, y mae’r gair Arglwydd (Adonai) yn cael ei osod yn ei le. Mae gosod yr ynganiad dieithr yn lle’r Arglwydd gor-gyfarwydd, yn help i’n rhyddhau rhag ein hyfdra arwynebol.

Mae ailwerthfawrogi rhai o’r dealltwriaethau rhyfeddol yn y traddodiad Iddewig Gristnogol mewn ffordd sy’n ddeallusol onest ac yn parchu dysg yn ein cadw ni ar daith gyffrous. Mae’n goleuo’r perygl parhaus i ni lithro i feddwl am Dduw fel ‘un o’r duwiau’ ac i dybio mai unlliw yw iaith yr ysgrythurau. Dywed James Alison fod IHWH, yr Arall-arall, yn ‘debycach i ddim byd o gwbl’ nag ydyw i’r mân dduwiau a delwau y mae  hi mor hawdd hercian ’nôl atynt. Dywed Simeon y Diwinydd Newydd (9ed ganrif) na allwn o ran natur ein crebwyll wybod mwy am ‘Dduw’ nag a welwn wrth fynd i lawr i lan y môr ar noson dywyll a chodi llusern i edrych ar y tonnau. Mae’r ‘iachawdwriaeth’ yn wir ‘fel y môr’.

Dyna pam y  bydd Agora yn ymdrechu bob mis i gynnwys cyfraniad ‘Beiblaidd’. Y mae pob adnewyddiad, pob diwygio hanner call wedi ei wreiddio mewn darllen y Beibl mewn ffordd newydd, greadigol. (Rwy’n cofio Gareth Lloyd Jones, cyn-ganghellor Cadeirlan Bangor, chwarter canrif yn ôl yn darlithio’n gyffrous i Ysgol Glerigol Tyddewi ar stori’r berth yn llosgi, a rhyw ffŵl o giwrat nad ydw i’n gwybod pwy oedd e, a diolch am hynny,  ar y diwedd yn meddwl ei fod yn glyfar wrth ei herio trwy ofyn, “Ond ydych chi’n credu bod yno berth yn bod?”)

Daw’r sgwrs ger y berth yn llosgi i ben gyda Moses yn ymdrechu i gael gafael ar air priodol, ar enw, i’r presenoldeb fu’n ei annerch. Pwy ddweda i wyt ti? Beth yw dy enw di? Ac mae’r ateb yn llawn dirgelwch, oherwydd fel ag ym mhrofiad Aled Jones Williams, berf sydd yma, nid enw. YHWH, y pedair llythyren nad ydyn nhw i gael eu hyngan. A’u hystyr yn YDWYF . Neu gallai olygu Byddaf yn beth fyddaf. Mae’r ferf yn golygu gweithred heb ei chwblhau. A dywedir y byddai yngan y gair yn swnio’n debycach i ochenaid go chwyrn, neu’r sŵn a wneir wrth anadlu ar damed o wydr er mwyn cael stêm i’w lanhau. Sŵn yr ysbryd (y ruah hwnnw) oedd yn dygyfor ar y chaos cyn y creu. Nid El, na hyd yn oed y mwyaf o’r elohim, y bodau a luniodd feddylfryd Abraham, cyn iddo sylweddoli nad YHWH ofynnodd iddo ladd ei fab.

Syndod ydi sylweddoli mai dyma’r llythrennau oedd wedi eu brodio ar wisg yr archoffeiriad yn y deml (yr un gyntaf yr oedd pawb yn hiraethu amdani hoerwydd iddi gael ei cholli yn ogystal â’r defodau a’r ‘symbolau’ a’i llenwai). Ar ei benwisg, ar ei cuffs, ar y wisg ddiwnïad, brodiwyd yr ‘enw’ nad oedd i’w yngan. Yr oedd yr archoffeiriad yn dod yn llythrennol hollol gan wisgo enw’r Arglwydd. Yr oedd yn gwisgo enw nad oedd i’w yngan ac eithrio gan ei gynrychiolydd, yr archoffeiriad ar ddydd y Cymod.

Dyna pam y mae’r defnydd a wneir yn yr Efengyl yn ôl Ioan o’r gair YDWYF yn gwbl drydanol. Y mae dealltwriaeth Ioan o Iesu â’i wreiddiau’n ddwfn yn nhraddodiad y deml.  Efallai y daw’r amser pan fyddwn ni’n gallu arddel y traddodiad hwnnw. Nid oedd y Protestaniaid a aeth ati i gyfieithu’r Beibl i ieithoedd y bobl yn awyddus i roi unrhyw bwys ar draddodiad offeiriadol addoli’r deml. Buasai hynny’n llawer rhy debyg i’r Eglwys Rufeinig yr oedden nhw am ei dileu a dod â’r holl ‘stwff’ ofergoelus yna i ben. Doedden nhw ddim ar unrhyw gyfrif yn awyddus i roi pwys ar ddefodaeth, nac offeiriadaeth, na defod aberthol. Mynnent, ar sail yr Epistol at yr Hebreaid, fod ‘aberth’ Iesu, unwaith am byth wedi rhoi terfyn ar hynny i gyd.

Wrth ddilyn ôl eu camre rydyn ni wedi colli gafael ar lawer o’r cysyniadau oedd yn dra phwysig i awduron gwreiddiol yr ysgrythurau. Y mae disgrifiad Efengyl Ioan o ddioddefaint ac angau Iesu yn defnyddio cysyniadau’r deml am Dduw yn dod i blith ei bobl, ac yn ymddangos mewn cnawd yn yr archoffeiriad. Doedd dim llawer o siâp ar yr archoffeiriaid diweddar cyn cyfnod Iesu, ond yr oedd y traddodiad hynaf amdano yn cael ei wireddu wrth i Iesu ddweud Myfi yw (Ydwyf) Bara’r Bywyd, Myfi yw Goleuni’r Byd,  Myfi yw’r Atgyfodiad, Myfi yw’r Bugail Da. Mae Ioan fel petai’n dweud, Ydych chi’n deall?  Gwrandwch! Talwch sylw! Y mae’r un a welson ni, yr un y buon ni’n byw gydag e, yn un â’r llais a lefarodd wrth Moses allan o’r berth yn llosgi.
*    Harper Collins ISBN 978-06-061995-4

Darlith Morlan-Pantyfedwen

Darlith Morlan-Pantyfedwen

‘Ydi Cristnogaeth yn Newyddion Da i’r tlawd?’ oedd y cwestiwn a osodwyd gan Loretta Minghella, Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol, wrth draddodi darlith flynyddol Morlan-Pantyfedwen yn Aberystwyth, nos Lun, 25 Ebrill. Bu’n gweithio ym myd yr arian mawr. (Hi oedd yn gyfrifol am arwain y corff fu’n darparu iawndal i bobl a gollodd arian yn sgil dymchwel y banciau yn 2008.) Dywedodd ei bod yn disgrifio’i hun fel un a syrthiodd o Eglwys Rufain, yn amheuwr am gyfnod ac yn briod ag anffyddiwr, ond sydd bellach yn addoli mewn eglwys Anglicanaidd yn Llundain.

 

LorettaMinghella-web483052_28764 - Copi

Loretta Minghella

Roedd hi’n ddarlith gynhwysfawr, yn gweu ynghyd ystadegau, egwyddorion a straeon dwys, personol mewn ffordd hynod effeithiol. Yn y cefndir yr oedd yr argyfwng ffoaduriaid enbyd yn Ewrop ar hyn o bryd a’r cwestiynau’n hofran uwch ein pennau: ‘Pam nad ydi tlodi wedi ei ddileu? Pam y mae 1% o boblogaeth y byd yn meddu ar 40% o gyfoeth y byd?’ Darfu’r gobaith y byddai twf economaidd yn golygu bod y cyfoeth yn diferu ar y tlodion.

 

 

O ran egwyddor, y mae’r sylfaen Gristnogol ein bod i gyd wedi ein gwneud ar ddelw Duw ac nad yw un person yn bwysicach nag un arall, bod perthynas deg rhwng pobl a chymunedau yn allweddol, nad ydi Duw yn derbyn wyneb.

O ran ystadegau: bod 20,000 o eglwysi yn ymuno mewn gweithgaredd codi arian yn wythnos Cymorth Cristnogol; a bod 300 miliwn o bobl yn yr India’n unig yn byw ar lai nag $1.9 y dydd (y ffon fesur bresennol sy’n dynodi tlodi affwysol). Mae trefn caste yn gyfystyr â thlodi, a dalits yn India yn cael eu gorfodi i wneud y gwaith butraf; gwragedd yw 80% o’r rhai sy’n glanhau tai bach y cyfoethog (yr enw ar y gwaith yw SKA), a chael y nesaf peth i ddim tâl ond llwyth o waradwydd am wneud. Dywedodd fod Cymorth Cristnogol yn cyd-weithio â bron 200 o fudiadau gwirfoddol i ddwyn pwysau ar lywodraethau gan ddangos cynifer o bobl sy’n eu cefnogi; a bod newid y gorthrwm ar wragedd ledled byd yn allweddol i sicrhau tegwch a chydraddoldeb.

Soniodd am ŵr yn un o favellas Sao Paolo yn dangos y môr o fwd a ddymchwelodd y tŷ yr oedd ef ei hun wedi ei godi ac yn wylo ar ei hysgwydd; am y ferch oedd wedi colli popeth dro ar ôl tro mewn llifogydd yn Bangladesh; Ivan, y gŵr ifanc ar ffin Macedonia yn cyfaddef bod ganddo arian parod, ond ddim heddwch, a dim gobaith. Mae gan Gristnogaeth, felly, fodel i’w ddynwared yn Iesu, a dreuliodd cymaint o’i amser gyda phobl yr ymylon.

Bu gwelliannau dros y 70 o flynyddoedd ers sefydlu Cymorth Cristnogol – gwella meddygaeth, gwell darpariaeth dŵr glân, darparu addysg, disgwyl byw yn hwy, ond y mae’n hawdd iawn i waith da gael ei ddinistrio.

Dal ati i weithio dros heddwch a gobaith fydd yn sicrhau bod Cristnogaeth yn dal i fod yn Newyddion Da i’r tlawd.

Nant Gwrtheyrn, 8–9 Ebrill 2016

Nant Gwrtheyrn, 8–9 Ebrill 2016

Encilio i Nant Gwrtheyrn? Pa encil corfforol mwy trylwyr? Ac roedd hi’n oer a gwlyb (ddim dan do, wrth gwrs – mae’r ddarpariaeth yn raenus a chynnes a hardd) ac eira yn Llithfaen. Ond bwriad encilio oedd tyfu i fod yn gymuned newydd. Nos Wener cawsom wylio’r ffilm Malala yw fy Enw a sylweddoli mor rhannol, mor rhagfarnllyd, mor Orllewinol o gam yw ein dealltwriaeth o beth sy’n digwydd ym Mhacistan, ac yn y gwrthryfel mileinig sy’n llithro o un enw i’r llall – Taliban – Al-Quaeda – Isis.

Nant G

Nant Gwrtheyrn

Ar y Sadwrn clywsom ddwy fardd (allwch chi ddim galw Mererid Hopwood a Karen Owen yn ddau) yn darllen enghreifftiau o’u gwaith, yn sôn tipyn am eu profiadau a’u gwerthoedd ysbrydol. Yn y prynhawn, fel yn yr encil gyntaf yn Nhrefeca, cawsom sesiwn driphlyg, ‘Fy Newis I’, a thri yn cyfrannu’n fyw o rywbeth creiddiol bwysig iddyn nhw.

Soniodd yr Athro Deri Tomos, Athro Biocemeg yn y brifysgol ym Mangor am ddau realiti, y materol a’r goruwchnaturiol, a’r her o fynegi lle y mae’r ddau yn cyd-gyffwrdd. Siaradodd Esyllt Maelor yn drydanol ddwys ac urddasol allan o’i galar o golli ei mab, Dafydd, mewn damwain car flwyddyn yn ôl. A John Gwilym Jones, ar fyr rybudd, yn ein tywys ar daith o fyfyrio gyda thri bardd ar arwyddocâd darlun Bruegel o gwymp Icarus, a hedfanodd yn rhy agos i’r haul. Erys arweiniad defosiwn Anna Jane yn y cof hefyd – yn rasol a llafar a doniol! Anodd cyfleu cynhesrwydd y sgwrsio a’r darganfod wrth brydau bwyd, y llawenydd o fedru rhannu’n onest a chyd-ddyheu, y rhyddhad o beidio gorfod profi dim.

Cadwch olwg am ddyddiad yr encil nesaf – yn y de yn rhywle, yn yr hydref rywbryd, a bachwch le cyn gynted ag y medrwch.

 

Ble bynnag y mae cariad, yno y mae Duw … gan Rocet Arwel

Ble bynnag y mae cariad, yno y mae Duw …  Rocet Arwel

Arwel Rocet

Arwel Rocet Jones

Lleisiau’n trampio i mewn i’r tawelwch
Yn chwalu cadeiriau rhydd
Mewn gofod gwyn
A fu’n gorau uniongred.


Sgrin
Yn hoelio
Sylw
Ac arni lwybr o nodau
Fel cerrig
I gamu
Dros afon.


Taro nodyn,
Taro troed
Ar y garreg gyntaf
Yn betrus,
Sigledig,
I’r nesaf,
Cyn codi pen a chanu.
Pawb â’i lais a’i gân,
Yn gras, yn swil, yn betrus
Yn mentro’r nodau mân.
Nes cydio yn ei gilydd
Y naill i’r llall yn dyst,
A phedwar llais yn enfys
Mor felys ar y glust,
Yn plethu yn gynghanedd
Gyntefig, lonydd, ddofn,
Yn llifo gyda’i gilydd
Dros greigiau llithrig, ofn ...


Nes cyrraedd rhyw fan tenau ...

Yn lluwch o dawelwch ...

Yn ysgafn ...

Yn drwm ...

Yn dawel ...

Dawel ...

Dawel ...

Nes daeth sŵn


A geiriau’r byd
O bell
A’u sodlau’n trampio trwy’r tawelwch,
Yn rhygnu cadair flêr ar lawr
A gollwng y gynulleidfa’n
Rhydd
Drachefn.