Archifau Categori: Agora2

Agora Mai 2016

Canllaw i Weddïo

Canllaw i Weddïo

candle-896784_960_720

TYDI

Tydi – tangnefedd pob tawelwch

Tydi – y man i guddio rhag niwed

Tydi – y goleuni sy’n llewyrchu yn y tywyllwch

Tydi – gwreichionen dragwyddol y galon

Tydi – y drws sy’n llydan agored

Tydi – y gwestai sy’n aros o’n mewn

Tydi – y dieithryn wrth y drws

Tydi – yr un sy’n galw’r tlawd

Tydi – fy nghariad, cadw fi rhag cam,

Tydi – y goleuni, y gwirionedd, y ffordd.

 

YNGHUDD

Fel y cuddia’r glaw y sêr,

Fel y cuddia niwl yr hydref y bryniau

Fel y cuddia’r cymylau lesni’r wybren,

Felly y mae digwyddiadau tywyll fy oes

yn cuddio dy wyneb disglair oddi wrthyf;

ond os caf ddal dy law yn y tywyllwch, digon yw.

Gwn, er i mi faglu wrth gerdded

nad wyt Ti ddim yn syrthio.

 

GWELEDIGAETH

Caniatâ i ni weledigaeth o’th deyrnas,

Faddeuant a bywyd newydd,

A deffroad dy Ysbryd,

Fel y cawn rannu dy weledigaeth,

Cyhoeddi dy gariad

a newid y byd

yn enw Crist,

Amen.

 

Amgyffred Waldo

Amgyffred Waldo

waldowilliams- llun

Waldo Williams

I’r enw nad oes mo’i rannu;

    Y rhuddin yng Ngwreiddyn Bod,

         Tawel ostegwr helbul hunan.

 

Rownd y Gwefannau

Rownd y Gwefannau

keyboard- newydd

Mae gwefan Cristnogaeth21 wedi dangos y cyfraniad unigryw y gall cymuned ar-lein ei wneud i’n taith Gristnogol. Gyda rhai miloedd wedi darllen rhai erthyglau ar y wefan, mae’n amlwg fod angen yn cael ei ddiwallu. Byddai’n braf petai darllenwyr Agora yn gallu rhannu eu gwybodaeth am wefannau sydd yn help i’w cynnal. Dyma bedair gwefan sydd o ddiddordeb wythnosol i un o selogion C21 ar hyn o bryd.

John Pavlovitz 

www.johnpavlovitz.com  a thudalen Facebook o dan ei enw.
johnheadshoteditAr hyn o bryd, dyma ffynhonnell fawr o ysbrydoliaeth wythnosol. Roedd Pavlovitz yn weinidog dros gynulleidfa leol, ond erbyn hyn mae ei weinidogaeth wedi symud ar-lein. Mae ei dudalen Facebook a’i flog rheolaidd yn mynd at hanfod materion o bwys – o bersbectif Americanwr. Yr hyn sy’n gwneud Pavlovitz yn werthfawr yw ei allu i fynd at hanfod materion sydd uwchlaw agenda a diwylliant ei wlad. Mae ei ddarnau ar ei brofiadau personol fel galarwr a chysurwr wedi bod yn gysur i filoedd ac yn gallu cynnig arweiniad i’r rhai hynny ohonom sy’n bugeilio pobl mewn galar. Ar ei wefan mae cymuned ar-lein o’r enw The Table – lle gallwch ymuno â grŵp trafod caeedig.  
 
PCN Prydain 

www.pcnbritain.org.uk

progressive_christianity-180x138Ar draws y byd mae cynnydd wedi bod yn nifer y mudiadau sy’n mynd i’r afael â’r un materion ag sydd o bwys i Cristnogaeth21. Un sefydliad o bwys yw Progressive Christianity Network Britain. Ar eu gwefan fe welwch ddeunyddiau myfyrio a thrafod, ac adnoddau sydd wedi eu casglu dros y blynyddoedd.  Os ymunwch â PCN, cewch gylchgrawn Progressive  Voices hefyd.   

 

Ship of Fools

http://shipoffools.com/ a thudalen Facebook o dan yr un enw

ship of foolsGwefan gomedi yn llawn hiwmor dychan iach am grefydd, yr eglwys a llawer mwy. Fy ffefryn yw Mystery Worshipper – lle mae unigolyn anhysbys yn mynd i wasanaeth mewn eglwys ac yn ysgrifennu erthygl am yr eglwys honno. Sut fyddai eich heglwys chi yn sgorio? Cymerwch olwg, ac wedyn aseswch eich Sul cyffredin!!

 

Esiampl o un eglwys yn Llundain:
Was the worship stiff-upper-lip, happy clappy, or what?
It ticked just about every box one could think of when identifying a church as charismatic and evangelical. In the first 40 minutes, we only finished three songs that were sung and over again (one from Hillsong, one from Vineyard and one by Matt Redman) and interspersed with prayers that asked for “breakthrough” in a number of things. There was lots of swaying going on, arms raised to the sky, that sort of thing. Just before the offering, we were asked to hold our money up in the air, but it wasn’t clear why.

Exactly how long was the sermon?
36 minutes.

On a scale of 1–10, how good was the preacher?
6 – Pastor Jonathan is clearly an experienced public speaker and spoke with humility and wit, though the formulaic content of the sermon and scattergun approach to picking lots of verses out of their context made it feel a little contrived and shallow.

Christian Alternative THE NEW OPEN SPACES

www.christian-alternative.com
christian alternativeUn cymharol newydd ar y bloc yw hwn. Maen nhw’n hyrwyddo awduron, blogiau a chyhoeddiadau gan geisio datblygu persbectif hyddysg ac ehangach ar ein ffydd. Mae ganddyn nhw adnoddau am Gristnogaeth ac anthropoleg, cymdeithaseg, seicoleg, addysg, diwinyddiaeth a llawer mwy. Gwerth cymryd golwg.   

Darlith Morlan-Pantyfedwen

Darlith Morlan-Pantyfedwen

‘Ydi Cristnogaeth yn Newyddion Da i’r tlawd?’ oedd y cwestiwn a osodwyd gan Loretta Minghella, Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol, wrth draddodi darlith flynyddol Morlan-Pantyfedwen yn Aberystwyth, nos Lun, 25 Ebrill. Bu’n gweithio ym myd yr arian mawr. (Hi oedd yn gyfrifol am arwain y corff fu’n darparu iawndal i bobl a gollodd arian yn sgil dymchwel y banciau yn 2008.) Dywedodd ei bod yn disgrifio’i hun fel un a syrthiodd o Eglwys Rufain, yn amheuwr am gyfnod ac yn briod ag anffyddiwr, ond sydd bellach yn addoli mewn eglwys Anglicanaidd yn Llundain.

LorettaMinghella-web483052_28764 - Copi

Loretta Minghella

Rodd hi’n ddarlith gynhwysfawr, yn gweu ynghyd ystadegau, egwyddorion a straeon dwys, personol mewn ffordd hynod effeithiol. Yn y cefndir yr oedd yr argyfwng ffoaduriaid enbyd yn Ewrop ar hyn o bryd a’r cwestiynau’n hofran uwch ein pennau: ‘Pam nad ydi tlodi wedi ei ddileu? Pam y mae 1% o boblogaeth y byd yn meddu ar 40% o gyfoeth y byd?’ Darfu’r gobaith y byddai twf economaidd yn golygu bod y cyfoeth yn diferu ar y tlodion.

O ran egwyddor, y mae’r sylfaen Gristnogol ein bod i gyd wedi ein gwneud ar ddelw Duw ac nad yw un person yn bwysicach nag un arall, bod perthynas deg rhwng pobl a chymunedau yn allweddol, nad ydi Duw yn derbyn wyneb.

O ran ystadegau: bod 20,000 o eglwysi yn ymuno mewn gweithgaredd codi arian yn wythnos Cymorth Cristnogol; a bod 300 miliwn o bobl yn yr India’n unig yn byw ar lai nag $1.9 y dydd (y ffon fesur bresennol sy’n dynodi tlodi affwysol). Mae trefn caste yn gyfystyr â thlodi, a dalits yn India yn cael eu gorfodi i wneud y gwaith butraf; gwragedd yw 80% o’r rhai sy’n glanhau tai bach y cyfoethog (yr enw ar y gwaith yw SKA), a chael y nesaf peth i ddim tâl ond llwyth o waradwydd am wneud. Dywedodd fod Cymorth Cristnogol yn cyd-weithio â bron 200 o fudiadau gwirfoddol i ddwyn pwysau ar lywodraethau gan ddangos cynifer o bobl sy’n eu cefnogi; a bod newid y gorthrwm ar wragedd ledled byd yn allweddol i sicrhau tegwch a chydraddoldeb.

Soniodd am ŵr yn un o favellas Sao Paolo yn dangos y môr o fwd a ddymchwelodd y tŷ yr oedd ef ei hun wedi ei godi ac yn wylo ar ei hysgwydd; am y ferch oedd wedi colli popeth dro ar ôl tro mewn llifogydd yn Bangladesh; Ivan, y gŵr ifanc ar ffin Macedonia yn cyfaddef bod ganddo arian parod, ond ddim heddwch, a dim gobaith. Mae gan Gristnogaeth, felly, fodel i’w ddynwared yn Iesu, a dreuliodd cymaint o’i amser gyda phobl yr ymylon.

Bu gwelliannau dros y 70 o flynyddoedd ers sefydlu Cymorth Cristnogol – gwella meddygaeth, gwell darpariaeth dŵr glân, darparu addysg, disgwyl byw yn hwy, ond y mae’n hawdd iawn i waith da gael ei ddinistrio.

Dal ati i weithio dros heddwch a gobaith fydd yn sicrhau bod Cristnogaeth yn dal i fod yn Newyddion Da i’r tlawd.

Digyfaddawd Heriau’r Esgob Spong gan Rocet Arwel Jones

Digyfaddawd Heriau’r Esgob Spong gan Rocet Arwel Jones

Sawl asgwrn i’w gnoi

Bishop_John_Shelby_Spong_portrait_2006

Yr Esgob John Selby Spong

Fe fydd yr enw John Shelby Spong yn hen gyfarwydd i lawer ohonoch. Ond efallai i rai y bydd yn enw newydd. Mae’n enwog am gynnig atebion radical i ffwndamentaliaeth Gristnogol asgell dde Gogledd America.

O danysgrifio i’w wefan cewch ddilyn hynt a helynt ei gyfrol ddiweddaraf, a gyhoeddir fesul ysgrif wythnosol dan y teitl Mapio Diwygiad Newydd.

Mae’n gwneud deuddeg gosodiad:

 

  1. Duw

Mae deall Duw fel bod goruwchnaturiol, yn byw yn rhywle y tu hwnt i’r byd ac yn ymyrryd ynddo gyda grymoedd gwyrthiol bellach yn anghredadwy. Felly mae’r rhan fwyaf o’r drafodaeth am Dduw yn ein gwasanaethau a’n siarad bob dydd yn ddiystyr.

  1. Iesu – y Crist

Os na ellir credu mewn Duw mewn modd theistaidd bellach, yna mae ystyried Iesu fel ymgnawdoliad o’r Duw hwnnw hefyd yn ddiystyr.

  1. Y Pechod Gwreiddiol – a Myth y Cwymp

Mae’r stori feiblaidd am greadigaeth orffenedig a pherffaith y disgynnodd dynoliaeth ohoni i’r Pechod Gwreiddiol yn fytholeg cyn-Ddarwinaidd a nonsens ôl-Ddarwinaidd.

  1. Y Geni Gwyrthiol

Mae deall y geni gwyrthiol fel bioleg lythrennol yn amhosibl. Yn hytrach na bod yn fur amddiffynnol i ddwyfoldeb Crist, mae’r geni gwyrthiol mewn gwirionedd yn chwalu’r ddwyfoldeb honno.

  1. Iesu’r Gwneuthurwr Gwyrthiau

Mewn byd ôl-Newtonaidd nid yw ymyrraeth oruwchnaturiol yn nhrefn naturiol pethau gan Dduw, neu ymgnawdoliad ohono yng Nghrist, yn unrhyw fath o eglurhad o’r hyn ddigwyddodd.

  1. Diwinyddiaeth yr Iawn

Mae diwinyddiaeth yr iawn, yn enwedig yn ei ffurf ‘ddirprwyol’ ryfeddaf yn ein cyflwyno ni i Dduw sy’n farbaraidd, a Christ sy’n ddioddefus ac yn troi pobl yn fawr mwy na chreaduriaid llawn euogrwydd. Mae’r ymadrodd ‘bu Crist farw dros fy mhechodau’ nid yn unig yn beryglus ond yn wrthun.

  1. Yr Atgyfodiad

Trawsnewidiodd digwyddiad y Pasg y mudiad Cristnogol, ond dyw hynny ddim yn golygu mai’r hyn ddigwyddodd oedd atgyfodiad corff marw Crist i mewn i hanes dynoliaeth. Mae’r cofnodion Beiblaidd cynharaf yn nodi: ‘Cododd Duw ef’. Mae’n rhaid i ni ofyn i mewn i beth? Mae’n rhaid gwahanu’r profiad o atgyfodiad o’i ddehongliadau mytholegol diweddarach.

  1. Esgyniad Crist

Mae’r stori feiblaidd am esgyniad Crist yn cymryd yn ganiataol fodolaeth bydysawd trillawr a roddwyd o’r neilltu bum can mlynedd yn ôl. Os oedd dyrchafiad Crist yn ddigwyddiad hanesyddol, llythrennol, y mae tu hwnt i’n meddyliau ni yn yr 21G i’w dderbyn na’i gredu.

  1. Moeseg

Nid oes modd diffinio da a drwg bellach drwy bwyso ar ganllawiau hynafol fel y Deg Gorchymyn na hyd yn oed y Bregeth ar y Mynydd. Mae’n rhaid cyrraedd safonau moesol cyfoes drwy gyfosod egwyddorion moesol sy’n cadarnhau bywyd a sefyllfaoedd allanol.

  1. Gweddi

Dyw deall gweddi fel holi bod dwyfol i ymyrryd yn hanes dynoliaeth yn fawr mwy nag ymdrech chwerthinllyd i droi’r dwyfol yn llawforwyn i’r dynol. Mae’r rhan fwyaf o’n diffiniadau hanesyddol ni o weddi felly’n ddibynnol ar ddealltwriaeth o Dduw sydd wedi marw.

  1. Bywyd ar ôl marwolaeth

Mae’n rhaid gwahanu’r gobaith o fywyd ar ôl marwolaeth unwaith ac am byth oddi wrth yr awydd i reoli ymddygiad. Bellach does dim modd dirnad y syniadau traddodiadol o nefoedd ac uffern fel llefydd o gosb a gwobr. Mae’n rhaid i Gristnogaeth felly gefnu ar ei ddibyniaeth ar euogrwydd fel rhywbeth i ysgogi ymddygiad.

  1. Barn a rhagfarn

Nid cyfrifoldeb dynoliaeth yw barnu. Mae rhagfarnu yn erbyn unrhyw fod dynol ar sail gwirionedd sylfaenol bob amser yn ddieflig ac nid yw byth yn cynnal y nod Cristnogol o roi bywyd yn ei gyflawnrwydd i bawb. Dylid mynd ati’n egnïol i ddinoethi’n gyhoeddus unrhyw strwythur mewn cymdeithas fydol neu mewn sefydliad eglwysig sy’n tanseilio dynolrwydd unrhyw blentyn i Dduw ar sail hil, rhyw neu rywedd. Ddylai fod dim rheswm yn eglwys y dyfodol hyd yn oed i faddau arferion rhagfarnllyd. Ddylai ‘traddodiad sanctaidd’ fyth eto gynnig cysgod na chyfiawnhad i ddrygioni rhagfarnllyd.”

A dyna nhw yn eu symylrwydd dadleuol. Mae Spong yn cydnabod bod dadadeiladu’n llawer haws nag adeiladu. Ond dyna’i nod. A hynny, mae’n debyg ar sail ei fantra cyson:

‘Rwy’n gweld Duw fel ffynhonnell bywyd sy’n ehangu fy ngallu i fyw, i fyw i’r eithaf. Rwy’n gweld Duw fel Ffynhonnell cariad sy’n fy rhyddhau i garu y tu hwnt i unrhyw rwystr, i garu’n afrad. Rwy’n gweld Duw fel Sylfaen Bod sy’n rhoi’r dewrder i mi i fod y cyfan y galla i fod. Trwy fyw i’r eithaf, rwy’n gwneud y Duw sy’n fywyd yn weladwy. Trwy garu’n afrad, rwy’n gwneud y Duw sy’n gariad yn weladwy. Trwy fod y cyfan y galla i fod, rwy’n gwneud y Duw sy’n Sylfaen Bod yn weladwy.’

Cawn weld sut y bydd o’n mynd ati i gyfiawnhau ac adeiladu ar y gosodiadau hyn.

Gweler: www.johnshelbyspong.com

 

Cadw a Newid

Cadw a Newid

‘Mae ’na ryw bethau mae’n rhaid i mi sôn wrthych amdanyn nhw,’ meddai Betonie’n dawel. ‘Mae gan y bobl heddiw ryw syniad am y defodau. Maen nhw’n credu bod yn rhaid cyflawni’r defodau yn union fel y buon nhw erioed, efallai oherwydd y gallai un camsymud neu gamsyniad bach olygu bod yn rhaid rhoi diwedd ar y ddefod a dinistrio’r darlun yn y tywod. Mae cymaint â hynny’n ddigon gwir. Maen nhw’n credu, os yw’r cantor yn newid unrhyw ran o’r ddefod, y gellid gwneud drwg mawr a gollwng rhyw bŵer mawr yn rhydd.’ Bu’n berffaith ddistaw am ychydig gan edrych i fyny i’r awyr drwy’r twll mwg. ‘Mae gwir yn fanna hefyd. Ond, amser maith yn ôl pan oedd y bobl newydd dderbyn y defodau hyn, fe ddechreuodd newid ddigwydd. Dim ond fod yr offeryn curo melyn yn heneiddio, efallai, neu’r croen ar grafangau’r eryr yn crebachu, neu’r gwahaniaeth yn y lleisiau o genhedlaeth i genhedlaeth wrth lafarganu. Welwch chi, mewn sawl ffordd y mae’r defodau wastad wedi bod yn newid.’

Dyfynnir yn Native and Christian: Indigenous Voices on Religious Identity in the United States and Canada. Gol. James Treat (Routledge, 1996)

Hunaniaeth Ewropeaidd?

Hunaniaeth Ewropeaidd?

 Ddiwedd Ebrill cynhaliodd Cyngor Eglwysi’r Byd Ymgynghoriad yn Genefa ar y thema ‘Hunaniaeth Ewropeaidd. Wrth i Agora Mai ymddangos nid oedd adroddiadau o’r Ymgynghoriad wedi eu cyhoeddi, ond fe fyddant yn ymddangos yn ystod mis Mai mewn pryd i hybu trafodaeth yn yr eglwysi cyn y Refferendwm ar Fehefin 23ain. Wrth gyhoeddi’r Ymgynghoriad dywedodd Olav Fykse, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor,  ei fod yn gweld y digwyddiad fel rhan o raglen byd-eang y Cyngor, ‘Pererinod o gyfiawnder a heddwch’, sydd, meddai, ‘yn annog parodrwydd i symud ymlaen a bod yn agored’. Soniodd am Jim Wallis yn America yn cyfeirio at hilyddiaeth fel ‘pechod gwreiddiol America‘ a gofynnodd, ‘Beth yw pechod gwreiddiol Ewrop ?’ Erbyn hyn nid yw’r eglwys yn eglwys os nad yw’n eglwys fyd-eang, ac er mwyn iddi fod yn fyd-eang mae’n rhaid iddi fod yn lleol-genedlaethol ac yn gyfandirol hefyd. Beth yw bod yn eglwys Ewropeaidd? Nid yw’n gwestiwn a glywir yn cael ei ofyn yn aml.

Hunaniaeth Ewropeaidd

Yn yr un gynhadledd i’r wasg soniodd Gaelle Courtens, newyddiadurwr sydd yn gohebu i Eglwysi Protestannaidd Ewrop, fod Ewrop nid yn unig yn mynd drwy argyfwng gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a moesol, ond hefyd yn wynebu’r llif mwyaf o ffoaduriaid a phobloedd ers yr Ail Ryfel Byd – ac y mae’r cyfan yn herio hygrededd ein gwerthoedd a’n gweledigaeth. Awgrymodd Fykse, i wlad fechan fel Prydain, a’r cenhedloedd bychain o’i mewn, fod y refferendwm yn golygu mwy nag  ‘i mewn’ neu ‘allan’, a beth sydd orau i ni. Mae’n golygu meithrin y weledigaeth o amrywiaeth ac undod byd ac mae cyfraniad eglwysi Ewrop i’r weledigaeth honno yn allweddol, ond mae angen ei chlywed yn llawer mwy clir.

Hunaniaeth 2

Dechrau’r Ymgynghoriad yn Genefa

Ni ellir ei chynnal lle bo cystadleuaeth, heb sôn am  ragfarnau a gwrthdaro crefyddol. Mae’n welediaeth sy’n cael ei meithrin mewn gwyleidd-dra, cydweithio ac addoliad.

Tristwch y dystiolaeth Gristnogol yn Ewrop yw bod y wledigaeth wedi pylu. Ond yng nghanol pob trafod a dadlau a gwrthdaro y mae yno, fel llef ddistaw fain.

 

 

Adolygu ‘Ar Drywydd Dewi Sant’

Croeso i ‘Lyfr Bychan’
Ann Parry Owen

 ‘Llyfr bychan yw hwn,’ meddai Gerald Morgan ar ddechrau’r gyfrol fach ddeniadol hon, ond nid bychan o gwbl yw’r dasg y mae’r awdur wedi ei gosod iddo’i hun, sef esbonio yn glir ac yn syml pwy oedd Dewi a phryd a pham y datblygodd i fod yn nawddsant Cymru. Dyma’r cwestiynau sydd yng nghefn ein meddyliau ni i gyd pan ddaw’r cyntaf o Fawrth bob blwyddyn a ninnau’n gwisgo ein cenhinen Bedr neu’n cennin gyda balchder mewn ciniawau dathlu, mewn eisteddfodau ysgol neu leol, neu hyd yn oed ar barêd Gŵyl Ddewi.

gerald-morgan-llun

Gerald Morgan

Er mwyn ateb y cwestiynau hyn mae’r awdur wedi mynd ati i gasglu tystiolaeth o bob math o ffynonellau – yn ffynonellau hanesyddol, llenyddol, enwau lleoedd a chelfyddyd weledol, a hynny o Gymru a thu hwnt. Mae hefyd wedi manteisio ar yr ymdriniaethau academaidd diweddaraf ar y pwnc (ceir rhestr ddefnyddiol o’r rhain ar ddiwedd y gyfrol). Ond ei gymwynas fawr â ni yw’r ffaith ei fod wedi treulio’r holl ffynonellau gwybodaeth astrus hyn, ac wedi llwyddo i gyflwyno i ni ymdriniaeth gynhwysfawr, ddifyr a hynod ddarllenadwy.

Mae’r gyfrol yn ymrannu’n hwylus yn benodau sy’n trafod sawl agwedd ar y sant, gan ddechrau gyda’r dystiolaeth gynharaf am Ddewi, y person o gig a gwaed a drigai yn y chweched ganrif; y traddodiadau a’r chwedlau a ddysgwn amdano gan Rygyfarch a gofnododd ei fuchedd yn Lladin tua’r flwyddyn 1090 a’r addasiad Cymraeg a ddaeth tua dwy ganrif yn ddiweddarach. Yna, sonnir am  ddatblygiad cynnar ei gwlt a’i bwysigrwydd i bererinion; ei gysylltiad arbennig â Cheredigion (ie, mae’n bosibl mai Cardi oedd Dewi!) ac â Thyddewi; ei le yng ngwasanaethau’r Eglwys; beth oedd gan feirdd yr Oesoedd Canol i’w ddweud amdano, a phwysigrwydd Dewi a Non yn Llydaw ac Iwerddon. Ymdrinnir hefyd ag agweddau ar Ddewi mewn oes fwy fodern, gyda’r penodau ar Ddewi Sant ym myd ffantasi ac arwyddocâd Dewi yn yr oes seciwlar hon yn hynod o ddifyr. Ar ddiwedd y gyfrol ceir dau atodiad: y naill yn rhestru’r eglwysi cysylltiedig â’i enw a’r ail yn rhoi crynodeb hwylus iawn i ni o fuchedd Ladin Rhygyfarch, Vita Sancti David.

Rhaid yw llongyfarch Gerald Morgan ar y gyfrol hon a byddwn i’n annog pob Cymro i’w phrynu (mae ei phris yn hynod o resymol) –  yn sicr mae’n gyfrol sy’n haeddu ei lle ar fy silff lyfrau i!

Ar Drywydd Dewi Sant, gan Gerald Morgan
Lolfa (clawr meddal, 152 tudalen, lluniau du a gwyn: pris £5.99)