Adolygu ‘Ar Drywydd Dewi Sant’

Croeso i ‘Lyfr Bychan’
Ann Parry Owen

 ‘Llyfr bychan yw hwn,’ meddai Gerald Morgan ar ddechrau’r gyfrol fach ddeniadol hon, ond nid bychan o gwbl yw’r dasg y mae’r awdur wedi ei gosod iddo’i hun, sef esbonio yn glir ac yn syml pwy oedd Dewi a phryd a pham y datblygodd i fod yn nawddsant Cymru. Dyma’r cwestiynau sydd yng nghefn ein meddyliau ni i gyd pan ddaw’r cyntaf o Fawrth bob blwyddyn a ninnau’n gwisgo ein cenhinen Bedr neu’n cennin gyda balchder mewn ciniawau dathlu, mewn eisteddfodau ysgol neu leol, neu hyd yn oed ar barêd Gŵyl Ddewi.

gerald-morgan-llun

Gerald Morgan

Er mwyn ateb y cwestiynau hyn mae’r awdur wedi mynd ati i gasglu tystiolaeth o bob math o ffynonellau – yn ffynonellau hanesyddol, llenyddol, enwau lleoedd a chelfyddyd weledol, a hynny o Gymru a thu hwnt. Mae hefyd wedi manteisio ar yr ymdriniaethau academaidd diweddaraf ar y pwnc (ceir rhestr ddefnyddiol o’r rhain ar ddiwedd y gyfrol). Ond ei gymwynas fawr â ni yw’r ffaith ei fod wedi treulio’r holl ffynonellau gwybodaeth astrus hyn, ac wedi llwyddo i gyflwyno i ni ymdriniaeth gynhwysfawr, ddifyr a hynod ddarllenadwy.

Mae’r gyfrol yn ymrannu’n hwylus yn benodau sy’n trafod sawl agwedd ar y sant, gan ddechrau gyda’r dystiolaeth gynharaf am Ddewi, y person o gig a gwaed a drigai yn y chweched ganrif; y traddodiadau a’r chwedlau a ddysgwn amdano gan Rygyfarch a gofnododd ei fuchedd yn Lladin tua’r flwyddyn 1090 a’r addasiad Cymraeg a ddaeth tua dwy ganrif yn ddiweddarach. Yna, sonnir am  ddatblygiad cynnar ei gwlt a’i bwysigrwydd i bererinion; ei gysylltiad arbennig â Cheredigion (ie, mae’n bosibl mai Cardi oedd Dewi!) ac â Thyddewi; ei le yng ngwasanaethau’r Eglwys; beth oedd gan feirdd yr Oesoedd Canol i’w ddweud amdano, a phwysigrwydd Dewi a Non yn Llydaw ac Iwerddon. Ymdrinnir hefyd ag agweddau ar Ddewi mewn oes fwy fodern, gyda’r penodau ar Ddewi Sant ym myd ffantasi ac arwyddocâd Dewi yn yr oes seciwlar hon yn hynod o ddifyr. Ar ddiwedd y gyfrol ceir dau atodiad: y naill yn rhestru’r eglwysi cysylltiedig â’i enw a’r ail yn rhoi crynodeb hwylus iawn i ni o fuchedd Ladin Rhygyfarch, Vita Sancti David.

Rhaid yw llongyfarch Gerald Morgan ar y gyfrol hon a byddwn i’n annog pob Cymro i’w phrynu (mae ei phris yn hynod o resymol) –  yn sicr mae’n gyfrol sy’n haeddu ei lle ar fy silff lyfrau i!

Ar Drywydd Dewi Sant, gan Gerald Morgan
Lolfa (clawr meddal, 152 tudalen, lluniau du a gwyn: pris £5.99)