‘Cael Profiad o’ a ‘Dysgu am …’ gan Eric Hall

‘Cael Profiad o’ a ‘Dysgu am …’

Meithrin dawn y galon mewn addysg gan Eric Hall

Rydym ni i gyd yn ymwybodol fod cefnogaeth i’r ffydd Gristnogol yn y wlad yma ac yn Ewrop yn gyffredinol yn gwanhau yn gyflym. Er bod nifer o ffactorau yn cyfrannu at hyn, mae yna un sy’n allweddol, sef methiant ein hymdrechion yn ein hysgolion a’n library-488678_960_720hysgolion Sul i ddarbwyllo dysgwyr o bresenoldeb yr ysbrydol. I daflu ychydig oleuni ar hyn, gallwn droi at ysgol o athronwyr addysg dan yr enw ad-ddygol (reductionist). Credant y gellir crynhoi’r profiad dynol i nifer fach o gategorïau sylfaenol. Ar ôl arolwg o’r holl wahanol brofiadau mae’r byd yn eu cynnig i’r ddynoliaeth, mae’r athronwyr addysg Hirst a Peters yn awgrymu ein bod ni’n ymateb i’r profiadau mewn saith ffordd sylfaenol wahanol, sy’n seiliedig ar ffurfiau gwybodaeth (Mathemateg, Gwyddoniaeth, y Gwyddorau dynol, Hanes, Crefydd, Llenyddiaeth a’r Celfyddydau cain, ac Athroniaeth).

Mae pob un ffurf yn annibynnol. Mae gan bob un ei chysyniadau canolog, fel disgyrchiant, egni a phroton mewn gwyddoniaeth, neu rif, prif ffactor a matrics mewn mathemateg a.y.b. Hefyd mae gan bob un ei feini prawf o’r gwirionedd. Beth sy’n bwysig i ni yw’r ffaith fod meini prawf y gwirionedd yn wahanol ym mhob ffurf. Nid yw’r meini prawf mathemategol yn gallu gweithredu yn y celfyddydau cain. (Pwy yn ei iawn bwyll fyddai’n defnyddio egwyddorion mathemategol i brofi gwirionedd yr Offeren yn B leiaf gan Bach?) Ond, yn bwysicach fyth, nid oes gan feini prawf gwyddonol ddim i’w ddweud o fewn y ffurf grefyddol (gan eithrio lle mae’r Beibl yn gwneud datganiadau gwyddonol, e.e. oedran y ddaear). Mae un yn hollol wrthrychol a’r llall yn hollol oddrychol. Pan ddywedodd Job, “Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw”, nid datganiad rhesymegol ydyw ond datganiad y galon. Mae 1 Corinthiaid 1 yn gwneud rhywbeth tebyg. Hefyd, “Y mae teyrnas Duw o’ch mewn” – y tu hwnt i grafangau gwrthrychedd gwyddoniaeth.

Nid yw Hirst a Peters yn awgrymu fod y saith ffurf, o angenrheidrwydd, yn ymddangos fel pynciau yn y cwricwlwm, ond mae’n bwysig fod pob un ohonynt yn cael lle yn rhywle mewn addysg gyflawn, y tu mewn neu’r tu allan i’r cwriciwlwm ysgol. I’r graddau nad yw hyn yn digwydd, cawn sefyllfa lle mae rhan o brofiad y byd a all fod yn real ac yn ddealladwy yn absennol neu’n annealladwy.

Beth yw’r amodau addysgiadol a fyddai’n sicrhau arweiniad i saith ffurf Hirst a Peters?

phone-1052023_960_720Yn y lle cyntaf mae angen profiad. I ddarparu hyn mae angen cynllunio sefyllfa lle mae’r dysgwr yn derbyn profiad uniongyrchol, noeth, sy’n perthyn i’r ffurf o dan ystyriaeth. Mewn gwyddoniaeth yr ydym yn darparu labordai lle mae’r dysgwyr yn derbyn profiad o elfennau ffisegol yn ‘amrwd’ – grymoedd, gwres, cerrynt, golau, hylifau, a.y.b. Mewn mathemateg yr ydym yn cyflwyno profiad o linellau, siapiau, rhifau, patrymau a.y.b. Mewn cerddoriaeth cawn sain, nodau, rhythm. Yn yr ail le (yn yr addysg orau) trefnwn sefyllfa lle mae’r dysgwr yn gallu dadansoddi ei brofiad ac yn creu trefn arno yn ôl arferion ein diwylliant. Mae hyn yn hyrwyddo dealltwriaeth a chysondeb meddyliol, cyfathrebu gydag eraill a datblygiad pellach. Er enghraifft, o ganlyniad i’w brofiadau yn y labordy mae dysgwr, o dan gyfarwyddyd yr athro, yn gallu dod i’r casgliad fod cyflymiad unrhyw sylwedd yn union yn ôl maint y grym sy’n gweithio arno. Yn hyn o beth mae’n gallu uniaethu gyda Isaac Newton a’i ffordd o edrych ar y byd ffisegol. Mewn ffordd debyg, oni ddylai fod yn bosibl i’r dysgwr, o ganlyniad i’w brofiadau mewn addysg grefyddol, uniaethu gyda Christ (neu Muhammad, neu Buddha, neu Confucius) a’i ffordd o edrych ar y byd ysbrydol?

Nid yw pob addysg yn cyrraedd y lefel yma. Weithiau mae’r dysgwr yn derbyn y drefn yn ail law i’w dysgu ar ei gof. Nid yw hyn yn gwarantu dealltwriaeth, ond mae’n help i basio arholiadau!

Mae’n bwysig sylweddoli nad yw addysg yn y ffurfiau gwybodaeth yn ceisio dysgu am y ffurfiau ond yn trwytho’r dysgwr yng nheithi meddwl ac arferion y ffurf honno. Y nod yw cael dysgwyr sy’n gwybod sut i ymddwyn fel gwyddonwyr (os dymunant), neu’n fathemategwyr neu’n athronwyr, neu’n grefyddwyr – ac yn bwysicach fyth, i wybod sut i ddewis y ffurf sy’n addas i’w profiad. (Ai yn y fan hon y mae gwendid Dawkins?)

Dyma ni’n awr wedi dod at bwynt tyngedfennol. Yn wahanol i bob ffurf arall, mae ffynonellau profiad y ffurf crefydd y tu mewn i ni, yn oddrychol, yn deimladol, affeithiol. Nid yw’n bosibl darparu labordy neu ddosbarth i drefnu profiadau sy’n sail i grefydd oherwydd nid trwy’r synhwyrau mae’r profiad yn dod. (Efallai fod angen eithrio moesymgrymu ac ystum gorfforol sy’n rhan o ddefod.) O ganlyniad mae mynediad i brofiadau sydd yn sail i’r ffurf grefyddol yn dibynnu ar sensitifrwydd yr unigolyn i’w deimladau mewnol, a dyma, yn fy marn i, wraidd ein problem. O ystyried hyn i gyd, i ba raddau gallwn ni ddweud fod addysg grefyddol yn cyflawni amodau angenrheidiol ffurf crefydd? Hyd y gwelaf i, nid yw addysg grefyddol yn ymddangos yn elfen gydnabyddedig yng nghwricwlwm ysgolion o gwbwl; yn wir, mae’n anodd gweld sut byddai ysgolion yn gallu darparu’r math o brofiadau sy’n wraidd i grefydd, ar wahân, efallai i’r gwasanaeth boreol. Mae’r Astudiaethau Crefyddol (nid Addysg Grefyddol) yn y cwricwlwm presennol yn gyfuniad o hanes, moesoldeb ac etheg, anthropoleg ac astudiaethau crefydd. Mae hyn yn gyfraniad gwerthfawr i nifer o ffurfau gwybodaeth Hirst a Peters ond nid yw’n addysg grefyddol. Efallai ar ei gorau ei bod yn gallu dysgu am grefydd.

Faith-Bible-PulpitEr fy mod i wedi pwysleisio pwysigrwydd profiad mewnol fel sail i grefydd, mae angen cydnabod fod ymwybyddiaeth o brofiad mewnol yn ddibynnol ar sensitifrwydd yr unigolyn. Mae’r person cyflawn yn byw mewn dau fyd: un gwrthrychol ac un goddrychol. Oherwydd llwyddiant ysgubol y ffurf gwyddoniaeth â’i bwyslais ar y gwrthrychol a dylanwad arholiadau (os nad yw’n bosibl rhoi mesur arno mewn arholiad, nid yw’n cyfrif mewn cwricwlwm), mae’n bydolwg ni’n unochrog, yn faterol, ac yn empeiraidd. Mae ein hymwybyddiaeth o’n profiadau teimladol, mewnol (meta affection yn lle metacognition) wedi cael ei chrebachu. Er bod gan y sefydliadau crefyddol yr adnoddau i roi ffurf ar brofiadau crefyddol trwy eu defodau (ar waethaf yr angen i’w diwygio), nid oes gan y rhan fwyaf o bobl unrhyw brofiad a fyddai’n manteisio ar yr adnoddau hyn. Ceffyl heb gert sydd gennym. Hyd y gwelaf fi, nid oes gobaith i ni ddiwygio addysg grefyddol yn absenoldeb profiad mewnol cyfoethog. Mae adennill y sensitifrwydd yma yn dasg i bob un o’r ffurfiau gwybodaeth a dyma lle y gall addysg ysgol chwarae rhan allweddol. Yn lle terfynu addysg gyda llwyddiant mewn arholiadau, mae angen parhad i greu rhyfeddod a pharchedig ofn yn wyneb datguddiadau gwyddonol, ceinder hafaliadau mathemategol, prydferthwch y celfyddydau. Yn gyffredinol, mae angen disgyblion sy’n gartrefol yn y byd anfaterol. Disgyblion sydd, fel enghraifft, yn gallu sefyll o flaen Crist Mostyn yn eglwys gadeiriol Bangor ac yn lle gweld talp o bren llawn pryf, gweld ymgorfforiad o

Tristwch a chariad yn ymdreiddio i lawr
Sorrow and love flow mingling down.

Dyma’n tasg ni: rhoi cydbwysedd yn ôl yn ein haddysg. Wedi hynny, gallwn wynebu’r dasg o ddarparu profiad o’r goruwchnaturiol.