Trychiad, Tylluan a Nadolig Durham gan Meg Elis

Trychiad, Tylluan a Nadolig Durham

Gwyn Thomas: Bardd, Athro, Diacon (1936–2016)

gan Meg Elis

Gweyn Tom

Gwyn Thomas

Darluniodd y darlithydd gysyniad llenyddol y ‘trychiad’ i’w ddosbarth trwy gyfeirio at un o erchylleiriau Williams Pantycelyn – “Constant-fawr-inople”. Ond er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod y ffurf yn dal yn gynhyrchiol, fe gyfeiriodd hefyd at ebychiad gyrrwr bws yn y Blaenau pan gamodd cerddwraig ddiofal allan i’r lôn o’i flaen – “Ddaru hi ddim hesi-blydi-tetio”.

A dyna Gwyn Tom. Yn medru esbonio dyfais lenyddol o ddyddiau Dafydd ap Gwilym drwodd at yr hen Bant, ond gan gysylltu hefyd ag ieithwedd ei bobl ei hun. Naturiol i mi, felly, mewn gwasanaeth Nadolig pan oeddwn i yn y coleg – 1970, faswn i’n tybio, gan i mi dderbyn copi o Ysgyrion Gwaed yn anrheg y Nadolig cynt – oedd darllen ei gerdd ‘Nadolig 1966.’ Cerdd ydi hi sy’n cyfeirio at eitem newyddion, pan wrthodwyd caniatâd i osod siop wag yn ddi-dreth i elusen er mwyn codi arian at anffodusion y byd. Mae’n cyfuno vox pops, adnodau o’r Beibl, ac ieithwedd arbennig y bardd ei hun:

O Fair fam,
A ddaw’r geni,
A ddaw’r goleuni,
A ddaw’r Nadolig i Ddurham?

Yng ngwaith Gwyn Thomas, mae’r goleuni yn dod, yn llathru drwodd. Roedd y Weledigaeth Haearn a Chwerwder yn y Ffynhonnau wedi’u hychwanegu at Ysgyrion Gwaed tra oeddwn i’n dal yn y coleg, ar yr un pryd ag yr oeddwn yn mynychu ei ddarlithoedd ar yr Hengerdd, ar Dafydd ap Gwilym, ac yn fy mlwyddyn gradd yn dewis ei gwrs ar Ddychan. Yr ysgafnder, wedi’i asio mor berffaith gyda’r ysgolheictod sicr – ac yn waelod i’r cyfan, dynoliaeth, trugaredd, graslonrwydd.

Dyna barodd i mi brynu record hir ohono yn darllen ac yn esbonio ei waith ei hun. Mae’r record wedi mynd ar goll, ond mae ei lais o’n fyw yn fy nghof y funud hon, yn esbonio sut ei fod o’n teimlo cymhelliad awdur Llyfr y Diarhebion: “Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr.”

Plant. Cofio fel y daeth Enw’r Gair yn nechrau’r saithdegau yn dipyn o sioc i’r rhai oedd wedi ymhyfrydu yng ngerwinder ei dair cyfrol gyntaf. Adwaith plentyn, geiriau plant – be oedd wedi digwydd i’r bardd egr, ei fod o rŵan yn medru disgrifio Crocodeil Afon Menai fel “Anghenfil cwstad-felyn”, a threulio cerdd gyfan yn disgrifio adwaith babi i gyrtens? Datblygiad oedd hyn, nid gwyriad na gwrthgilio. Dyn, tad, oedd yn medru dirnad sut y gallai plentyn weld rhyfeddod yn y pethau lleiaf, mwyaf cyffredin. Mae’r rhan fwyaf o oedolion yn colli’r ddawn hon, yn caledu. Wnaeth o ddim.

meg_elis- llun

Meg Elis

Mae yna dristwch, sobreiddiwch hyd yn oed, yn llawer o’i waith, ac i mi, roedd hyn i’w weld ar ei finiocaf yn y cyfrolau sy’n briodas mor berffaith rhwng ei ddawn ef â geiriau a dawn Ted Breeze Jones. Dwi’n dychwelyd dro ar ôl tro at y gerdd ‘Tylluan’ yn Ac Anifeiliaid y Maes Hefyd. Mae’r llun yn syfrdanol – llygaid tylluan mewn llun agos: llygad-dynnu yng ngwir ystyr y gair. A geiriau’r bardd fel litani: “O’r gwyll hen, syllu golygon … Gŵyr hi, gŵyr hi’n hen iawn.”  Nes dod at y terfyn iasol:

O nos faith y bydysawd syllu golygon

Ar rawd druan, ffawd druan plant dynion

Rydw i’n galaru am fardd oedd yn ymdeimlo’n llwyr â ‘ffawd druan plant dynion’, ond un oedd hefyd yn cyd-deimlo ac yn cydymdeimlo â nhw yn eu gwendid, eu gwiriondeb a’u gorfoledd.

Ac yr ydw inna’n galar-blydi-nadu bod Gwyn Tom wedi mynd.