Holi tipyn ar Dyfed Edwards, awdur Iddew

Holi tipyn ar Dyfed Edwards, awdur Iddew

dyfed a mared

Dyfed Edwards

Dyfed, diolch i chi am gytuno i ateb rhai cwestiynau.

Llongyfarchiadau ar gyfrol sydd wedi ennyn cymaint o ddiddordeb. Mae dros 300 o weithiau creadigol llenyddol wedi eu cyhoeddi am Iesu yn Saesneg. Mae rhai wedi eu hysgrifennu yn Gymraeg ond mae hon, a dweud y lleiaf, yn wahanol iawn.

 

 

  1. Mae ôl ymchwil manwl iawn ar Iddew o safbwynt iaith, cefndir a’r stori wreiddiol. Mae dewis a dethol, wrth gwrs, a hynny’n anorfod. Ai ailedrych ar y stori oedd yn stori eich cefndir a’ch magwraeth, ynteu oeddech chi’n dibynnu’n llwyr ar ymchwil newydd?

Mae pawb yn dewis a dethol. Nofelwyr a sgriptwyr, yn enwedig, wrth greu ffuglen. Rhaid gwneud i adeiladu stori. A dyna sydd yma: stori. Dwi wedi defnyddio’r ffynonellau sydd ar gael: yr Efengylau a hefyd ymchwil i Iesu hanes. Mae rhestr reit hir o’r llyfrau borais drwyddynt yng nghefn y nofel.

  1. Oedd yna rywbeth ynglŷn â Iesu o Nasareth oedd yn eich denu ato, neu benderfyniad i ysgrifennu cyfrol ddadleuol ar gyfer yr Eisteddfod ydoedd, a bod crefydd yn bwnc sensitif (ac yn darged hawdd) y dyddiau hyn?

Dwi’n meddwl mai safbwyntiau eraill amdano oedd yn denu fwya. Mae Iesu’n ddalfan i fydolwg pobl, yn enwedig Cristnogion, ac nid yw hyn yn help o gwbl wrth geisio datrys pwy oedd o go iawn. Nid oedd yn fwriad bod yn ddadleuol, ond dwi’m yn gweld pam na ddylai crefydd fod yn darged beirniadaeth. Nid oes unrhyw syniad na ddylid ei archwilio. A dweud y gwir, mae crefydd, Cristnogaeth yn y gorllewin, wedi cael ei ffordd ei hun am ganrifoedd, heb unrhyw sgrwtini allanol o gwbl. Dylai pob syniad – crefyddol, gwleidyddol, athronyddol – gael ei herio.

  1. A fyddech yn ystyried y nofel yn nofel gyfoes, wleidyddol? Neu a oedd dweud y stori yn ddigon i chi?

Roeddwn wedi fy nhrwytho yn y cyfnod, y ddaearyddiaeth, a’r hanes wrth sgrifennu Iddew. Nid sylwadaeth ar y byd sydd ohoni ydi hi, ond nid yw’n broblem i mi fod rhai’n credu hynny.

  1. Mae’r deunydd gwreiddiol yn rhoi digon o le a chyfle i feirniadu’r rhai oedd am amddiffyn eu crefydd a hwy eu hunain. Fel anffyddiwr, a yw’r anffyddiaeth honno wedi datblygu fel ymateb yn erbyn ‘crefyddwyr’ a dylanwad crefydd (fel yn achos llawer o bobl) neu ai methu credu yn Nuw sy’n gyrru eich anffyddiaeth ac nad oes a wnelo dim â’r eglwys a chrefyddwyr?

Fe gamddehonglir anffyddiaeth gan rai crefyddwyr, yn aml er mwyn codi “dyn gwellt” (straw man) mewn dadl. Diffyg ffydd mewn duwiau yw anffyddiaeth, dyna i gyd; nid datganiad nad oes yna rai. Ella fod yna rai, ond daw fy anffyddiaeth i – a nifer o anffyddwyr dwi’n eu hadnabod – o absenoldeb unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r honiad fod yna dduwiau, neu efallai un Duw’n benodol. Nid yw’n deillio fel ymateb yn erbyn crefyddwyr, ond fel ymateb i’r diffyg – yn ôl pob golwg – tystiolaeth.

  1. Mae’n annisgwyl fod eich nofel yn gorffen, nid gyda’r croeshoeliad ond gyda Saul yn sôn am ei aileni ‘yng ngwaed ei aberth o’ a bod y byd i gyd yn disgwyl y neges hon am Iesu. Mae’n nodyn gobeithiol, ac yn dweud mai’r dechrau yw hyn. Pam dewis y diwedd yma?

Roedd Saul/Paul yn gymeriad tra gwahanol i Iesu. Rydan ni’n gwybod mwy amdano ar gownt ei saith llythyr. Roedd o’n amlwg yn ffwndamentalydd, yn credu’n absoliwt yn ei neges. Mae’n ymddangos i mi nad oedd ganddo fawr o ddiddordeb ym mywyd, a hyd yn oed neges, Iesu, ac mi ganolbwyntiodd ar y croeshoeliad a’r atgyfodiad, a datblygu ei neges o gwmpas hynny. Fel rhywun nad oedd wedi cyfarfod Iesu, roedd ganddo awydd i ddangos, yn fy meddwl i, fod ei berthynas gyda Iesu gystal ag un Pedr ac Iago. Ni allai byth gystadlu gyda’r ffaith eu bod nhw wedi cyfarfod, wedi crwydro, ac yn achos Iago, wedi tyfu, gyda Iesu. Felly, mi aeth Saul/Paul ati i geisio gwneud synnwyr o’r hyn roedd o wedi ei brofi, a rhyw dduw atgyfodedig welodd o, nid proffwyd dynol iawn. Iddo fo, roedd hyn i gyd yn golygu “dechrau” gydag atgyfodiad, nid “darfod” gyda dienyddiad.