E-fwletin Mai 8fed, 2016

E-fwletin Mai 8fed, 2016

Wrth i’r llwch setlo drannoeth y drin yn hanes yr etholiadau diweddar, efallai mai un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol y tu allan i Gymru yw gweld rhai o ffigurau amlwg y Blaid Dorïaidd yn prysuro i ymbellhau oddi wrth ymgyrch Zac Goldsmith i fod yn Faer Llundain. Cafwyd geiriau hallt iawn gan Sayeeda Warsi, cyn-gadeirydd y Blaid Geidwadol, a ddisgrifiodd yr ymgyrch fel un “gywilyddus”, ac roedd y cyn-ganghellor Kenneth Clarke yntau o’r farn i’r cyfan fod yn gamgymeriad anffodus.  Roedd Andrew Boff, arweinydd y Toriaid yng Nghynulliad Llundain, yn gresynu y gallai hyn wneud niwed hir-dymor i’r berthynas rhwng cymunedau a’i gilydd yn y brifddinas. Daeth beirniadaeth hyd yn oed o gyfeiriad ei chwaer ei hun.  

Does dim amheuaeth nad oedd yna naws ffiaidd o Islamoffobaidd i ymgyrch Goldsmith wrth iddo geisio plannu ensyniadau ym mhen pobl fod y label ‘Mwslim’ yn gyfystyr â bod yn derfysgwr. A hyd yn oed wedi i’r etholwyr roi’r fath gefnogaeth ysgubol i Sadiq Khan, roedd Michael Fallon, yr Ysgrifennydd Amddiffyn, yn gwrthod tynnu ei eiriau’n ôl wedi iddo ddweud dro’n ôl na fyddai Llundain yn lle diogel gyda Khan yn faer. Er gwaethaf holi cyson a chaled Sarah Montagu ar y rhaglen Today ar Radio 4, osgoi’r cwestiwn yn llwyr a wnaeth Fallon ar ôl yr etholiad.

Yn sgil cyhoeddi’r canlyniad, gwelwyd negeseuon chwerw ac atgas ar rai o’r cyfryngau cymdeithasol yn wylofain a darogan gwae. Does dim angen prawf pellach o bresenoldeb gwrth-Islamaidd ar strydoedd Llundain.

Sadiq_Khan

Sadiq Khan

Ar un adeg, roedd y cyfeirio cyson at Sadiq Khan fel Mwslim yn peri anesmwythyd i lawer ohonom. Roedd yn dangos ein bod yn dal i fod yn bell iawn o fedru derbyn gwahaniaethau ac anwybyddu ffiniau hiliol a chrefyddol. Ond i fod yn deg, roedd cefnogwyr Khan eu hunain, drwy gydol yr ymgyrchu, yn galw ar bobl i greu hanes drwy ddangos pa mor symbolaidd fyddai ethol Mwslim i’r swydd bwysig hon. Bu i’r ddwy ochr chwarae’r cerdyn Mwslemaidd am wahanol resymau, ond go brin y medr neb gollfarnu ymgyrch urddasol Khan yn wyneb ymosodiadau’r Torïaid.

Un peth sy’n cynhesu calon rhywun yw sylweddoli pa mor annibynnol ei farn yw’r maer newydd. Bu dan y lach gan rai Mwslemiaid am gefnogi priodasau un rhyw, ac mae yna edmygedd mawr ohono ymysg y gymuned Iddewig mewn cyfnod pan welwyd cyhuddiadau o wrth-Semitiaeth yn erbyn ambell unigolyn yn y Blaid Lafur.  

Gyda hynny mewn golwg, byddai’n braf meddwl fod yr 1.3 miliwn o bobl a bleidleisiodd i Sadiq Khan wedi gwneud hynny am eu bod yn syml yn credu mai ef oedd y person gorau i’r swydd, heb unrhyw ystyriaeth i’w grefydd na’i gred. Mae’n wir bod yna elfen o chwedl tylwyth teg yn y ffaith ei fod yn fab i yrrwr bws o fewnfudwr, ond does a wnelo hynny ddim â’r ffaith iddo brofi pa mor gymwys yw i fod yn faer. Heddiw, mae llawer yn gweld ei ethol fel buddugoliaeth i weddustra a thegwch mewn gwleidyddiaeth, a hynny’n adfer ffydd rhywun mewn pobl. Mae eraill yn ei weld fel prawf y gall unrhyw un, o ba gefndir bynnag, ddringo i’r brig yn yr ynysoedd hyn. A chlywyd sawl un o’r gymuned Fwslemaidd yn dweud fod ethol Khan yn cynnig gobaith newydd.

Gobeithio eu bod yn iawn.