E-fwletin Mai 15fed, 2016

A hithau’n Sulgwyn, bydd rhywrai, siŵr, wedi sôn a chlywed sôn am yr Ysbryd sy’n ffynhonnell cymdeithas – ‘Koinonia’,  un o eiriau mawr y Testament Newydd. Er hynny, mae lle i gredu na fu’n air allweddol yng ngeirfa Cristnogion pob oes. Noda Erastus Jones yn ei gyfrol Croesi’r Ffiniau, er enghraifft, nad oedd ‘y gair Groeg Koinonia ddim yn un o eiriau amlwg [ei] addysg ddiwinyddol ym Mangor, (ddechrau’r 40au) ac mai ‘Cyngor Eglwysi’r Byd â’i gyflwynodd [iddo] ac o ran hynny i’r Eglwys gyfoes.’ (tud. 313)

Gyda sefydlu Cyngor Eglwysi’r Byd yn 1948 ymddengys  mai yn yr ymgais i weinidogaethu ynghanol chwalfa enbyd y cyfnod ôl-ryfel yr ail-ddarganfuwyd y gair gan yr eglwys a chanfod ohoni o ganlyniad, neges gymwys i’w dydd, a chyda chenhedloedd byd y cyfnod arbennig hwnnw’n llyfu eu clwyfau ac yn ymdrechu i ildio’u meddylfryd gelyniaethus, pa neges i ragori ar honno oedd yn cyhoeddi  bod pob dim sy’n pellhau pobl oddi wrth ei gilydd wedi eu ddiddymu yn awyrgylch y koinonia Cristnogol? Daw’r un koinonia i amlygrwydd yng ngwaith Cymorth Cristnogol a sefydlwyd yn yr un cyfnod. Nid syndod hynny â chofio bod yr Apostol Paul yn arfer y gair koinonia nid yn unig am berthynas Cristnogion â’u Harglwydd ac â’i gilydd  ond hefyd am gasgliad eglwysi Macedonia i dlodion. Nid amhriodol o gwbl y ffaith mai’r Sulgwyn sy’n agor wythnos Cymorth Cristnogol eleni.

Fe ymddengys mai yn argyfyngau eu dydd, a thrwyddynt, y mae’r Ysbryd yn siarad â’r eglwysi , yn goleuo’r Beibl iddynt ac yn eu deffro i’w cenhadaeth.  Beth mae’n ddweud wrthym ni heddiw, tybed? Mae’n anodd meddwl fod ganddo ddim amgen i’w rannu na koinonia, koinonia, koinonia. Ar faterion yn ymwneud â’n perthynas oddi fewn i Ewrop – koinonia. Ar ethol Mwslim yn faer Llundain – koinonia. I dair cynulleidfa’n ymgynnull  ar wahân yn yr un gymdogaeth, ‘run amser ar fore Sul i ganu o’r un llyfr emynau ac i ddarllen o’r un Beibl – koinonia. Ar newid hinsawdd a’i ddylanwad andwyol ar bobl Bangladesh, er enghraifft, – koinonia. Ar adnewyddu Trident – koinonia.

‘Yr hwn sydd ganddo glustiau, gwrandawed….!