Ydwyf yr hyn ydwyf – IHWH gan Enid R. Morgan

Ydwyf yr hyn ydwyf – IHWH gan Enid R. Morgan

‘Nid enw yw “Duw” ond Berf’

Enid

Enid R. Morgan

Mae’r ymadrodd trawiadol hwn gan Aled Jones Williams yn Duw yw’r Broblem wedi glynu yn fy meddwl a’m hatgoffa am y berth yn llosgi, a’r Moses a droes o’r neilltu i sylwi arni. Oes yna ffordd o ddehongli’r stori a fyddai’n help i ni? Wrth y berth ac ar ôl mynnu mai’r un Duw ydyw â’r un siaradodd ag ‘Abraham, Isaac a Jacob’ y mae’r presenoldeb yn yngan y gair IHWH.

Prayers for the CosmosTynnwyd fy sylw yn ddiweddar at gyfrol fach Prayers of the Cosmos, Reflections on the Original Meaning of Jesus’s Words* gan Neil Douglas-Klotz (Rhagair gan Matthew Fox). Yn y fan honno dadleuir bod y gair pedwar sill, IHWH, a leferir o’r berth yn llosgi, yn swnio’n debycach i ochenaid neu chwythiad anadl nag i air cyffredin. Ac i’r Iddewon, doedd e’n sicr ddim yn air i’w ynganu. Dyna paham, yn Llyfr y Salmau, lle mae’r gair IHWH yn ymddangos, y mae’r gair Arglwydd (Adonai) yn cael ei osod yn ei le. Mae gosod yr ynganiad dieithr yn lle’r Arglwydd gor-gyfarwydd, yn help i’n rhyddhau rhag ein hyfdra arwynebol.

Mae ailwerthfawrogi rhai o’r dealltwriaethau rhyfeddol yn y traddodiad Iddewig Gristnogol mewn ffordd sy’n ddeallusol onest ac yn parchu dysg yn ein cadw ni ar daith gyffrous. Mae’n goleuo’r perygl parhaus i ni lithro i feddwl am Dduw fel ‘un o’r duwiau’ ac i dybio mai unlliw yw iaith yr ysgrythurau. Dywed James Alison fod IHWH, yr Arall-arall, yn ‘debycach i ddim byd o gwbl’ nag ydyw i’r mân dduwiau a delwau y mae  hi mor hawdd hercian ’nôl atynt. Dywed Simeon y Diwinydd Newydd (9ed ganrif) na allwn o ran natur ein crebwyll wybod mwy am ‘Dduw’ nag a welwn wrth fynd i lawr i lan y môr ar noson dywyll a chodi llusern i edrych ar y tonnau. Mae’r ‘iachawdwriaeth’ yn wir ‘fel y môr’.

Dyna pam y  bydd Agora yn ymdrechu bob mis i gynnwys cyfraniad ‘Beiblaidd’. Y mae pob adnewyddiad, pob diwygio hanner call wedi ei wreiddio mewn darllen y Beibl mewn ffordd newydd, greadigol. (Rwy’n cofio Gareth Lloyd Jones, cyn-ganghellor Cadeirlan Bangor, chwarter canrif yn ôl yn darlithio’n gyffrous i Ysgol Glerigol Tyddewi ar stori’r berth yn llosgi, a rhyw ffŵl o giwrat nad ydw i’n gwybod pwy oedd e, a diolch am hynny,  ar y diwedd yn meddwl ei fod yn glyfar wrth ei herio trwy ofyn, “Ond ydych chi’n credu bod yno berth yn bod?”)

Daw’r sgwrs ger y berth yn llosgi i ben gyda Moses yn ymdrechu i gael gafael ar air priodol, ar enw, i’r presenoldeb fu’n ei annerch. Pwy ddweda i wyt ti? Beth yw dy enw di? Ac mae’r ateb yn llawn dirgelwch, oherwydd fel ag ym mhrofiad Aled Jones Williams, berf sydd yma, nid enw. YHWH, y pedair llythyren nad ydyn nhw i gael eu hyngan. A’u hystyr yn YDWYF . Neu gallai olygu Byddaf yn beth fyddaf. Mae’r ferf yn golygu gweithred heb ei chwblhau. A dywedir y byddai yngan y gair yn swnio’n debycach i ochenaid go chwyrn, neu’r sŵn a wneir wrth anadlu ar damed o wydr er mwyn cael stêm i’w lanhau. Sŵn yr ysbryd (y ruah hwnnw) oedd yn dygyfor ar y chaos cyn y creu. Nid El, na hyd yn oed y mwyaf o’r elohim, y bodau a luniodd feddylfryd Abraham, cyn iddo sylweddoli nad YHWH ofynnodd iddo ladd ei fab.

Syndod ydi sylweddoli mai dyma’r llythrennau oedd wedi eu brodio ar wisg yr archoffeiriad yn y deml (yr un gyntaf yr oedd pawb yn hiraethu amdani hoerwydd iddi gael ei cholli yn ogystal â’r defodau a’r ‘symbolau’ a’i llenwai). Ar ei benwisg, ar ei cuffs, ar y wisg ddiwnïad, brodiwyd yr ‘enw’ nad oedd i’w yngan. Yr oedd yr archoffeiriad yn dod yn llythrennol hollol gan wisgo enw’r Arglwydd. Yr oedd yn gwisgo enw nad oedd i’w yngan ac eithrio gan ei gynrychiolydd, yr archoffeiriad ar ddydd y Cymod.

Dyna pam y mae’r defnydd a wneir yn yr Efengyl yn ôl Ioan o’r gair YDWYF yn gwbl drydanol. Y mae dealltwriaeth Ioan o Iesu â’i wreiddiau’n ddwfn yn nhraddodiad y deml.  Efallai y daw’r amser pan fyddwn ni’n gallu arddel y traddodiad hwnnw. Nid oedd y Protestaniaid a aeth ati i gyfieithu’r Beibl i ieithoedd y bobl yn awyddus i roi unrhyw bwys ar draddodiad offeiriadol addoli’r deml. Buasai hynny’n llawer rhy debyg i’r Eglwys Rufeinig yr oedden nhw am ei dileu a dod â’r holl ‘stwff’ ofergoelus yna i ben. Doedden nhw ddim ar unrhyw gyfrif yn awyddus i roi pwys ar ddefodaeth, nac offeiriadaeth, na defod aberthol. Mynnent, ar sail yr Epistol at yr Hebreaid, fod ‘aberth’ Iesu, unwaith am byth wedi rhoi terfyn ar hynny i gyd.

Wrth ddilyn ôl eu camre rydyn ni wedi colli gafael ar lawer o’r cysyniadau oedd yn dra phwysig i awduron gwreiddiol yr ysgrythurau. Y mae disgrifiad Efengyl Ioan o ddioddefaint ac angau Iesu yn defnyddio cysyniadau’r deml am Dduw yn dod i blith ei bobl, ac yn ymddangos mewn cnawd yn yr archoffeiriad. Doedd dim llawer o siâp ar yr archoffeiriaid diweddar cyn cyfnod Iesu, ond yr oedd y traddodiad hynaf amdano yn cael ei wireddu wrth i Iesu ddweud Myfi yw (Ydwyf) Bara’r Bywyd, Myfi yw Goleuni’r Byd,  Myfi yw’r Atgyfodiad, Myfi yw’r Bugail Da. Mae Ioan fel petai’n dweud, Ydych chi’n deall?  Gwrandwch! Talwch sylw! Y mae’r un a welson ni, yr un y buon ni’n byw gydag e, yn un â’r llais a lefarodd wrth Moses allan o’r berth yn llosgi.
*    Harper Collins ISBN 978-06-061995-4