Digyfaddawd Heriau’r Esgob Spong gan Rocet Arwel Jones
Sawl asgwrn i’w gnoi
Fe fydd yr enw John Shelby Spong yn hen gyfarwydd i lawer ohonoch. Ond efallai i rai y bydd yn enw newydd. Mae’n enwog am gynnig atebion radical i ffwndamentaliaeth Gristnogol asgell dde Gogledd America.
O danysgrifio i’w wefan cewch ddilyn hynt a helynt ei gyfrol ddiweddaraf, a gyhoeddir fesul ysgrif wythnosol dan y teitl Mapio Diwygiad Newydd.
Mae’n gwneud deuddeg gosodiad:
- Duw
Mae deall Duw fel bod goruwchnaturiol, yn byw yn rhywle y tu hwnt i’r byd ac yn ymyrryd ynddo gyda grymoedd gwyrthiol bellach yn anghredadwy. Felly mae’r rhan fwyaf o’r drafodaeth am Dduw yn ein gwasanaethau a’n siarad bob dydd yn ddiystyr.
- Iesu – y Crist
Os na ellir credu mewn Duw mewn modd theistaidd bellach, yna mae ystyried Iesu fel ymgnawdoliad o’r Duw hwnnw hefyd yn ddiystyr.
- Y Pechod Gwreiddiol – a Myth y Cwymp
Mae’r stori feiblaidd am greadigaeth orffenedig a pherffaith y disgynnodd dynoliaeth ohoni i’r Pechod Gwreiddiol yn fytholeg cyn-Ddarwinaidd a nonsens ôl-Ddarwinaidd.
- Y Geni Gwyrthiol
Mae deall y geni gwyrthiol fel bioleg lythrennol yn amhosibl. Yn hytrach na bod yn fur amddiffynnol i ddwyfoldeb Crist, mae’r geni gwyrthiol mewn gwirionedd yn chwalu’r ddwyfoldeb honno.
- Iesu’r Gwneuthurwr Gwyrthiau
Mewn byd ôl-Newtonaidd nid yw ymyrraeth oruwchnaturiol yn nhrefn naturiol pethau gan Dduw, neu ymgnawdoliad ohono yng Nghrist, yn unrhyw fath o eglurhad o’r hyn ddigwyddodd.
- Diwinyddiaeth yr Iawn
Mae diwinyddiaeth yr iawn, yn enwedig yn ei ffurf ‘ddirprwyol’ ryfeddaf yn ein cyflwyno ni i Dduw sy’n farbaraidd, a Christ sy’n ddioddefus ac yn troi pobl yn fawr mwy na chreaduriaid llawn euogrwydd. Mae’r ymadrodd ‘bu Crist farw dros fy mhechodau’ nid yn unig yn beryglus ond yn wrthun.
- Yr Atgyfodiad
Trawsnewidiodd digwyddiad y Pasg y mudiad Cristnogol, ond dyw hynny ddim yn golygu mai’r hyn ddigwyddodd oedd atgyfodiad corff marw Crist i mewn i hanes dynoliaeth. Mae’r cofnodion Beiblaidd cynharaf yn nodi: ‘Cododd Duw ef’. Mae’n rhaid i ni ofyn i mewn i beth? Mae’n rhaid gwahanu’r profiad o atgyfodiad o’i ddehongliadau mytholegol diweddarach.
- Esgyniad Crist
Mae’r stori feiblaidd am esgyniad Crist yn cymryd yn ganiataol fodolaeth bydysawd trillawr a roddwyd o’r neilltu bum can mlynedd yn ôl. Os oedd dyrchafiad Crist yn ddigwyddiad hanesyddol, llythrennol, y mae tu hwnt i’n meddyliau ni yn yr 21G i’w dderbyn na’i gredu.
- Moeseg
Nid oes modd diffinio da a drwg bellach drwy bwyso ar ganllawiau hynafol fel y Deg Gorchymyn na hyd yn oed y Bregeth ar y Mynydd. Mae’n rhaid cyrraedd safonau moesol cyfoes drwy gyfosod egwyddorion moesol sy’n cadarnhau bywyd a sefyllfaoedd allanol.
- Gweddi
Dyw deall gweddi fel holi bod dwyfol i ymyrryd yn hanes dynoliaeth yn fawr mwy nag ymdrech chwerthinllyd i droi’r dwyfol yn llawforwyn i’r dynol. Mae’r rhan fwyaf o’n diffiniadau hanesyddol ni o weddi felly’n ddibynnol ar ddealltwriaeth o Dduw sydd wedi marw.
- Bywyd ar ôl marwolaeth
Mae’n rhaid gwahanu’r gobaith o fywyd ar ôl marwolaeth unwaith ac am byth oddi wrth yr awydd i reoli ymddygiad. Bellach does dim modd dirnad y syniadau traddodiadol o nefoedd ac uffern fel llefydd o gosb a gwobr. Mae’n rhaid i Gristnogaeth felly gefnu ar ei ddibyniaeth ar euogrwydd fel rhywbeth i ysgogi ymddygiad.
- Barn a rhagfarn
Nid cyfrifoldeb dynoliaeth yw barnu. Mae rhagfarnu yn erbyn unrhyw fod dynol ar sail gwirionedd sylfaenol bob amser yn ddieflig ac nid yw byth yn cynnal y nod Cristnogol o roi bywyd yn ei gyflawnrwydd i bawb. Dylid mynd ati’n egnïol i ddinoethi’n gyhoeddus unrhyw strwythur mewn cymdeithas fydol neu mewn sefydliad eglwysig sy’n tanseilio dynolrwydd unrhyw blentyn i Dduw ar sail hil, rhyw neu rywedd. Ddylai fod dim rheswm yn eglwys y dyfodol hyd yn oed i faddau arferion rhagfarnllyd. Ddylai ‘traddodiad sanctaidd’ fyth eto gynnig cysgod na chyfiawnhad i ddrygioni rhagfarnllyd.”
A dyna nhw yn eu symylrwydd dadleuol. Mae Spong yn cydnabod bod dadadeiladu’n llawer haws nag adeiladu. Ond dyna’i nod. A hynny, mae’n debyg ar sail ei fantra cyson:
‘Rwy’n gweld Duw fel ffynhonnell bywyd sy’n ehangu fy ngallu i fyw, i fyw i’r eithaf. Rwy’n gweld Duw fel Ffynhonnell cariad sy’n fy rhyddhau i garu y tu hwnt i unrhyw rwystr, i garu’n afrad. Rwy’n gweld Duw fel Sylfaen Bod sy’n rhoi’r dewrder i mi i fod y cyfan y galla i fod. Trwy fyw i’r eithaf, rwy’n gwneud y Duw sy’n fywyd yn weladwy. Trwy garu’n afrad, rwy’n gwneud y Duw sy’n gariad yn weladwy. Trwy fod y cyfan y galla i fod, rwy’n gwneud y Duw sy’n Sylfaen Bod yn weladwy.’
Cawn weld sut y bydd o’n mynd ati i gyfiawnhau ac adeiladu ar y gosodiadau hyn.
Gweler: www.johnshelbyspong.com