Hunaniaeth Ewropeaidd?
Ddiwedd Ebrill cynhaliodd Cyngor Eglwysi’r Byd Ymgynghoriad yn Genefa ar y thema ‘Hunaniaeth Ewropeaidd. Wrth i Agora Mai ymddangos nid oedd adroddiadau o’r Ymgynghoriad wedi eu cyhoeddi, ond fe fyddant yn ymddangos yn ystod mis Mai mewn pryd i hybu trafodaeth yn yr eglwysi cyn y Refferendwm ar Fehefin 23ain. Wrth gyhoeddi’r Ymgynghoriad dywedodd Olav Fykse, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor, ei fod yn gweld y digwyddiad fel rhan o raglen byd-eang y Cyngor, ‘Pererinod o gyfiawnder a heddwch’, sydd, meddai, ‘yn annog parodrwydd i symud ymlaen a bod yn agored’. Soniodd am Jim Wallis yn America yn cyfeirio at hilyddiaeth fel ‘pechod gwreiddiol America‘ a gofynnodd, ‘Beth yw pechod gwreiddiol Ewrop ?’ Erbyn hyn nid yw’r eglwys yn eglwys os nad yw’n eglwys fyd-eang, ac er mwyn iddi fod yn fyd-eang mae’n rhaid iddi fod yn lleol-genedlaethol ac yn gyfandirol hefyd. Beth yw bod yn eglwys Ewropeaidd? Nid yw’n gwestiwn a glywir yn cael ei ofyn yn aml.
Yn yr un gynhadledd i’r wasg soniodd Gaelle Courtens, newyddiadurwr sydd yn gohebu i Eglwysi Protestannaidd Ewrop, fod Ewrop nid yn unig yn mynd drwy argyfwng gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a moesol, ond hefyd yn wynebu’r llif mwyaf o ffoaduriaid a phobloedd ers yr Ail Ryfel Byd – ac y mae’r cyfan yn herio hygrededd ein gwerthoedd a’n gweledigaeth. Awgrymodd Fykse, i wlad fechan fel Prydain, a’r cenhedloedd bychain o’i mewn, fod y refferendwm yn golygu mwy nag ‘i mewn’ neu ‘allan’, a beth sydd orau i ni. Mae’n golygu meithrin y weledigaeth o amrywiaeth ac undod byd ac mae cyfraniad eglwysi Ewrop i’r weledigaeth honno yn allweddol, ond mae angen ei chlywed yn llawer mwy clir.
Ni ellir ei chynnal lle bo cystadleuaeth, heb sôn am ragfarnau a gwrthdaro crefyddol. Mae’n welediaeth sy’n cael ei meithrin mewn gwyleidd-dra, cydweithio ac addoliad.
Tristwch y dystiolaeth Gristnogol yn Ewrop yw bod y wledigaeth wedi pylu. Ond yng nghanol pob trafod a dadlau a gwrthdaro y mae yno, fel llef ddistaw fain.