E-fwletin Mai 1af 2016

I’r rhai hynny ohonom sy’n cefnogi’r Elyrch, roedd yn brofiad emosiynol iawn yn gynharach heddiw i fod yn dyst i’r deyrnged deimladwy i’r 96 a gollwyd yn Hillsborough. Ennyd deimladwy oedd gweld capteiniaid Lerpwl ac Abertawe yn croesi’r cae gyda’i gilydd i gyflwyno torch i Barry Devonside, a gollodd ei fab Christopher yn y trychineb. Cafwyd geiriau cynnes o goffadwriaeth ar ran clwb Abertawe, ac wrth glywed seiniau “You’ll never walk alone” yn atseinio drwy’r Liberty o gyfeiriad cefnogwyr y ddau dîm fel ei gilydd, roedd rhywun yn cofio pam fod hon yn cael ei galw’n “gêm brydferth”.

wreath

Llun: Wales Online

Bu’r wythnos ddiwethaf yn garreg filltir ddirdynnol eithriadol i deuluoedd Lerpwl. Ar ôl 27 mlynedd o ymgyrchu di-flino i adfer eu henw da ac i ganfod y gwirionedd am yr hyn a ddigwyddodd ar Ebrill 15fed 1989, cafwyd buddugoliaeth o’r diwedd. Daeth y byd i gyd i wybod am flerwch dychrynllyd yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans ar y pryd, ac am y celwyddau di-gywilydd byth oddi ar hynny gan y gwahanol awdurdodau mewn ymdrech ffiaidd i guddio’u methiant eu hunain drwy bardduo’r cefnogwyr. Hyd yn oed wedi i’r rheithgor gyhoeddi ei ddyfarniad gerbron yr ystafell ddisgwylgar yn Warrington ddydd Mawrth diwethaf, roedd elfennau o fewn heddlu De Swydd Efrog yn dal i geisio cyfiawnhau eu methiannau wrth stiwardio teras Leppings Lane ar y prynhawn trist hwnnw yn Sheffield. 

Wrth i ninnau ddilyn yr ymgyrch i gael at y gwirionedd gan deuluoedd y rhai a gollwyd, roedd gweld y dyfalbarhad gostyngedig a’r urddas tawel yn destun edmygedd. Wrth feddwl bod yna 96 o bobl na ddaeth erioed adref o’r gêm honno yn erbyn Nottingham Forest, ac o gofio iddyn nhw’u hunain gael eu beio am y sefyllfa, hawdd y gallai’r cymar, y rhiant, y brawd a’r chwaer neu’r plentyn oedd ar ôl fod wedi chwerwi a suro. Ond yr argraff a gawsom ni wrth wrando ar dystiolaeth y mwyafrif ohonyn nhw yn ystod y cwest oedd mai chwilio am y gwirionedd oedd y prif amcan yn hytrach na dial ar eraill. Dagrau pethau yw fod y cyhoeddiad wedi dod yn llawer rhy hwyr i lawer a aeth i’w beddau gydag enw da eu hanwyliaid yn dal dan gwmwl.

Drannoeth y dyfarniad, cyhoeddwyd datganiad ar y cyd gan arweinwyr Eglwysi Ynghyd ar Lannau Merswy. Mae’n dechrau gyda’r geiriau hyn: “Heddiw rydym wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol arall yn ystod y daith hon o alar, a’r ymchwil am y gwirionedd, sydd wedi taflu’i gysgod dros fywyd y ddinas hon am ormod o amser. Rydym yn sefyll gyda’n gilydd fel arweinwyr eglwysig i ymrwymo o’r newydd i gefnogi’r rhai sydd wedi eu brifo, i helpu’r rhai sy’n galaru, ac i ddangos cariad Duw a’i dosturi tuag at bawb.”

Fe fu, ac fe fydd eglwysi Lerpwl yn gefn i’r teuluoedd yn bendifaddau, ond yr her yn awr fydd sicrhau nad yw’r ymgyrch i gael cyfiawnder yn esgor ar gasineb a thalu’r pwyth. Rydym i gyd yn awyddus i weld cwrs cyfiawnder yn cael ei weithredu i alw’r rhai euog i gyfrif am eu celwyddau a’u camweddau, ond yr her sy’n wynebu eglwysi Iesu Grist ar Lannau Merswy yw cynnal pobl i gadw’u hurddas heb ildio i atgasedd.