Nant Gwrtheyrn, 8–9 Ebrill 2016

Nant Gwrtheyrn, 8–9 Ebrill 2016

Encilio i Nant Gwrtheyrn? Pa encil corfforol mwy trylwyr? Ac roedd hi’n oer a gwlyb (ddim dan do, wrth gwrs – mae’r ddarpariaeth yn raenus a chynnes a hardd) ac eira yn Llithfaen. Ond bwriad encilio oedd tyfu i fod yn gymuned newydd. Nos Wener cawsom wylio’r ffilm Malala yw fy Enw a sylweddoli mor rhannol, mor rhagfarnllyd, mor Orllewinol o gam yw ein dealltwriaeth o beth sy’n digwydd ym Mhacistan, ac yn y gwrthryfel mileinig sy’n llithro o un enw i’r llall – Taliban – Al-Quaeda – Isis.

Nant G

Nant Gwrtheyrn

Ar y Sadwrn clywsom ddwy fardd (allwch chi ddim galw Mererid Hopwood a Karen Owen yn ddau) yn darllen enghreifftiau o’u gwaith, yn sôn tipyn am eu profiadau a’u gwerthoedd ysbrydol. Yn y prynhawn, fel yn yr encil gyntaf yn Nhrefeca, cawsom sesiwn driphlyg, ‘Fy Newis I’, a thri yn cyfrannu’n fyw o rywbeth creiddiol bwysig iddyn nhw.

Soniodd yr Athro Deri Tomos, Athro Biocemeg yn y brifysgol ym Mangor am ddau realiti, y materol a’r goruwchnaturiol, a’r her o fynegi lle y mae’r ddau yn cyd-gyffwrdd. Siaradodd Esyllt Maelor yn drydanol ddwys ac urddasol allan o’i galar o golli ei mab, Dafydd, mewn damwain car flwyddyn yn ôl. A John Gwilym Jones, ar fyr rybudd, yn ein tywys ar daith o fyfyrio gyda thri bardd ar arwyddocâd darlun Bruegel o gwymp Icarus, a hedfanodd yn rhy agos i’r haul. Erys arweiniad defosiwn Anna Jane yn y cof hefyd – yn rasol a llafar a doniol! Anodd cyfleu cynhesrwydd y sgwrsio a’r darganfod wrth brydau bwyd, y llawenydd o fedru rhannu’n onest a chyd-ddyheu, y rhyddhad o beidio gorfod profi dim.

Cadwch olwg am ddyddiad yr encil nesaf – yn y de yn rhywle, yn yr hydref rywbryd, a bachwch le cyn gynted ag y medrwch.