Gweddi Movember

Gweddi Movember

Nefol dad, a hithau bron yn ddiwedd ein Tachwedd ni, neu Fis Du ein cefndryd Llydewig, gweddïwn dros ddynion sydd yn profi effaith tywyllwch gormesol y gaeaf yn eu heneidiau. Sylweddolwn fod cynifer ohonom wedi cael ein dysgu o’n plentyndod i guddio ein gwendid a’n hangen, ac yn methu bod yn agored pan ddaw munudau llethol heibio.

Maddau i ni am y cyfleoedd yr ydym wedi eu colli dros y blynyddoedd i gynnig llaw garedig neu glust amserol i unigolyn fu yn y fath angen, a hynny am ein bod yn rhy brysur neu ddim yn siŵr sut i ymateb i’w sefyllfa.

Mewn cyfnod pan fo teuluoedd ym mhob tref wedi eu chwalu o achos hunanladdiad dynion gweddïwn dros eu teuluoedd a’u ffrindiau. Weithiau, does dim atebion er gwaetha’r holl holi, a sylweddolwn mor boenus yw hynny.

Gweddïwn dros staff mewn ysgolion sydd yn gweithio mor ddiflino gyda phlant sydd wedi colli eu tadau mewn amgylchiadau mor drist. Weithiau, does dim atebion er gwaetha’r holl holi, a cydymdeimlwn ag athrawon sydd yn methu cynnig atebion i’r plant mewn sefyllfaoedd o’r fath.

Diolchwn am barodrwydd cynyddol dynion i siarad yn gyhoeddus am eu teimladau o fod yn annigonol ac am iselder, a diolchwn am y sefydliadau a’r mentrau sydd yn rhoi cyfleoedd i ddynion fynegi’n gyhoeddus eu consýrn am ei gilydd. Gwna dy eglwys yn effro i’r cyfleoedd sy’n bodoli iddi chwarae ei rhan, gan ymestyn llaw gobaith a thosturi.  

Er mwyn ein cyd-ddynion a phawb sydd yn annwyl iddyn nhw, ysbrydola ni i fod yn oleuni parod yn ystod misoedd tywyll yr enaid.

 

Amen.

https://uk.movember.com/

https://johnpavlovitz.com/2019/02/21/everyone-around-you-is-grieving-go-easy/