Y dydd o brysur bwyso

Y dydd o brysur bwyso …

Why don’t you stand up for what your constituents voted for? I think it’s disgusting!

Fe waeddwyd y geiriau hyn gan y ferch o’r Cymoedd oedd yn eistedd tu cefn i mi yn sesiwn holi ac ateb yr eglwysi yn etholaeth Castell-nedd. Fe enynnodd y sylw don o gymeradwyaeth gan y rhan fwyaf o’r gynulleidfa, ac roedd hi’n anodd i Christina Rees, AS, gael gwrandawiad i’w hateb – sef y byddai Brexit yn niweidio’r union bobl oedd yn eistedd o’i blaen.

Yn yr eiliad yna y sylweddolais fod y Blaid Lafur wedi colli ymddiriedaeth ei phobl ei hun, yng nghymoedd de Cymru gymaint ag yn nhrefi diwydiannol gogledd Lloegr, ac mai mwyafrif sylweddol i’r Ceidwadwyr fyddai canlyniad yr etholiad. O’r acenion a’r sylwadau wnaed gan y gynulleidfa ar faterion eraill yn ystod y sesiwn, mae’n amlwg mai cefnogwyr traddodiadol Llafur oedd wrthi. Roedden nhw’n dal yn gefnogol i Wasanaeth Iechyd Gwladol, i hawliau yn y gweithle, i wariant cyhoeddus. Ond roedden nhw hefyd yn awchu am ymadael â’r Undeb Ewropeaidd – Undeb a oedd, meddent, wedi newid yr economi leol ac arwain at grebachu’r diwydiant dur yn Aberafan, sugno buddsoddiad a swyddi o’r Cymoedd i fannau eraill yn Ewrop, a gorfodi eu plant i symud o’u cynefin i chwilio am waith. Doedden nhw ddim yn gallu deall o gwbl pam yr oedd eu Haelod Seneddol nhw yn ymladd dros yr union wrthwyneb i’r hyn yr oedden nhw wedi pleidleisio drosto ym Mehefin 2016.

Fe sylweddolodd nifer o’r ymgeiswyr eraill beth oedd yn digwydd, a bu i bron bob un rywbryd yn ystod y noson ddweud: “Rydych chi wedi pleidleisio dros y Blaid Lafur am ganrif – ac i beth?” Cymeradwyaeth bob tro – hyd yn oed i’r Ceidwadwr! Fe gadwodd Christina Rees ei sedd ar Ragfyr 12, ond gyda mwyafrif wedi’i haneru, a gyda’r Ceidwadwr yn ail. Am y tro cyntaf ers 1959, fe gafodd hwnnw dros 10,000 o bleidleisiau (ac roedd poblogaeth Castell-nedd yn dipyn mwy ym 1959 nag ydyw heddiw).

Beth bynnag arall feddyliwch chi am Boris Johnson, mae’n feistr ar y slogan etholiadol llwyddiannus. Mae Take Back Control yn llefaru o hyd i bobl y Cymoedd – pobl sydd wedi dioddef syniadau pobl eraill yn cael eu gwthio arnynt ers i’r Cymoedd droi o fod yn rhai amaethyddol i fod yn rhai diwydiannol. Mi roedd Get Brexit Done yr un mor effeithiol.

Mae pobl y Cymoedd, a llawer man arall, wedi gwylio’n syfrdan wrth i Senedd San Steffan fethu cytuno ar ddim am dair blynedd a hanner. Pobl ‘glyfar’ yn chwarae gemau seneddol heb fedru esbonio i drwch y boblogaeth i beth na pham. Roedd addewid Mr Johnson mai un ffordd yn unig oedd o ddiweddu hyn – nid ail refferendwm na rhagor o negodi, ond cyflawni canlyniad refferendwm 2016 – yn neges syml a chlir. Wrth i mi sgrifennu hyn ar Ragfyr 17, mae ei gabinet wrthi yn gosod y cyfreithiau yn eu lle i wireddu’r addewid.

Roedd canlyniad yr etholiad yng Nghymru yn debyg iawn i’r canlyniad yn Lloegr, sef darlunio ac agor ymhellach y gagendor rhwng y brifddinas a gweddill y wlad. Mae un o fy merched yn byw yn Putney – yr unig sedd ym Mhrydain gyfan i Lafur ei chipio gan y Ceidwadwyr. Rydw i’n byw yng Ngogledd Caerdydd – yr unig sedd yng Nghymru lle cynyddodd y Blaid Lafur ei mwyafrif dros y Ceidwadwyr (er i Jo Stevens yng Nghanol Caerdydd ddod yn agos iawn at gyflawni’r un gamp). Mae’n swyddogol, felly – mae fy nheulu i yn gyflawn aelodau o’r metropolitan élite.

Pobl fel fi, felly, ddylai fod yn gwrando fwyaf astud ar bobl fel y ferch y tu cefn i mi yng Nghastell-nedd. Rydym wedi methu’n lân â deall rhwystredigaeth cynifer o’n pobl at wleidyddiaeth sy’n gêm yn hytrach nag yn fodd o wella bywydau pobl, sy’n fwy o seiat na ffordd o ddatrys problemau. Mae’r mantra a ailadroddwyd droeon gan ymgeiswyr yn y cyfryngau (ac yn nau, o leiaf, o gyfarfodydd holi’r eglwysi yng Nghymru), nad oedd pobl a bleidleisiodd i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn gwybod dros beth yr oedden nhw’n pleidleisio, yn darlunio’r dirmyg sydd gan yr élite at y werin datws. Roedd sylw fy nghymydog yng Nghastell-nedd yn darlunio’r annealltwriaeth lwyr o pam na all ein harweinwyr wrando ar y bobl maen nhw’n ceisio’u harwain.

Nid mater o bolareiddio rhwng ‘Gadael’ ac ‘Aros’ yn unig yw hyn. Mae ymchwil Coleg y Brenin, Llundain, yn dangos fod yna gryn dipyn yn gyffredin rhwng pobl bleidleisiodd y naill ffordd a’r llall – ac nad yw cri Boris Johnson y bore wedi’r etholiad, Let the healing begin, mor afrealistig ag y tyb rhai.

Y darlun poblogaidd yn y prifddinasoedd yw bod y sawl a bleidleisiodd i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn ddynion boliog â thatŵs, yn hiliol ac yn rhagfarnllyd eu hagweddau, ac yn ddi-addysg. Fe ddylai ystyried am eiliad yn unig ddweud wrthym nad felly mae 52% o bleidleiswyr ynysoedd Prydain! Doedd neb yn cyfateb i’r disgrifiad hwnnw yng nghyfarfod Castell-nedd. Yn wir, mamau’r cwm oedd y mwyaf llafar o blaid Brexit, a rhesymau asgell chwith ynghylch datblygu’r economi a lleihau nerth y grymoedd economaidd oedd ganddynt am hynny. Soniodd neb am fewnfudo.

Mae hi hefyd yn rhan o fytholeg y refferendwm fod pobl a bleidleisiodd ‘Gadael’ yn ddigymrodedd. Nid felly yn Nhŷ’r Cyffredin; methiant yr Aelodau Seneddol o blaid Aros i gyfaddawdu sydd wedi ein dwyn i’r sefyllfa bresennol. Mae ymchwil academaidd yn dangos fod yr un duedd ymysg y boblogaeth yn gyffredinol – yr ochr Aros sy’n ei chael hi’n anodd i wrando a chyfaddawdu, nid yr ochr Gadael. Y methiant hwnnw a’r chwalfa etholiadol ddaeth yn ei sgil sy’n golygu y gall Mr Johnson nawr wthio drwodd Brexit caletach nag yr oedd hyd yn oed y rhan fwyaf o’i gefnogwyr ei hun am ei weld.

Y wers, felly? Gwrandewch! Mae angen i’r Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wrando’n astud iawn ar y bobl maen nhw’n ceisio’u denu i’w corlan. Mae’r Blaid Lafur yn enwedig mewn sefyllfa anodd iawn y tu allan i Gaerdydd. Fe gollwyd pob un ond un o’i seddi yng ngogledd Cymru, ac fe fu ymgeiswyr llwyddiannus y Ceidwadwyr yno yn ymgyrchu’n galed iawn ar y Gwasanaeth Iechyd. Mae methiant Llywodraeth Cymru i ddatrys sefyllfa ofnadwy Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn mynd i beri trafferthion mawr iddynt yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2021.

Am ryw reswm, mae’r cyfryngau Prydeinig wedi methu rhoi sylw i sgandal gwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf – sgandal cyn waethed ag unrhyw beth sydd wedi digwydd yn Lloegr. Dyma’r Bwrdd Iechyd sy’n gwasanaethu llawer o gymoedd de Cymru, ac mae’r ffordd y caniatawyd i’r sefyllfa waethygu er bod pryderon wedi eu codi droeon, ac er gwaethaf sawl ymgais i chwythu’r chwiban, yn codi llawer o gwestiynau ynghylch a yw llywodraethwyr Caerdydd yn gwrando ar y cymoedd sydd gerllaw iddynt. Mae ymchwiliadau yno yn parhau, a fydd dim ond angen i un papur newydd neu sianel deledu Brydeinig afael yn y stori i enw da’r Blaid Lafur ynghylch y Gwasanaeth Iechyd gael ei ddarnio’n llwyr.

Mae Plaid Cymru hefyd mewn trafferthion. Fe lwyddon nhw i gynyddu eu mwyafrifoedd yng Ngwynedd a Cheredigion – ardaloedd a bleidleisiodd dros Aros – drwy ganolbwyntio ar Brexit. Fe dorrwyd y mwyafrif yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am yr un rheswm. Ond yng ngweddill Cymru, trydydd neu waeth ddaethon nhw ym mhob sedd. Does dim un sedd darged realistig ar lefel San Steffan bellach i Blaid Cymru; dim ond ymladd i gadw’r pedair sydd ganddyn nhw fydd eu hanes am y tro, a hynny heb y fantais o allu addo parhau i ymladd dros Aros. A fydd y Blaid yn gallu gwrando ar eu cefnogwyr hwythau – llawer ohonynt yn fwy Ewrosgeptig na’u harweinyddiaeth – a llunio naratif newydd ar gyfer Cymru y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd?

Mae’n debyg mai’r peth caredig yw tynnu llen dros helynt y Democratiaid Rhyddfrydol. O fewn y flwyddyn nesaf byddant wedi colli prif bwrpas eu bodolaeth. Nid yw eu hymarweddiad, a’r holl siartiau bar amheus, wedi ennill lawer o ffrindiau iddynt, hyd yn oed ymhlith pobl sydd yn agos iawn atynt o ran polisi – fel y dangosodd gorfoledd anhygoel Nicola Sturgeon o weld Jo Swinson yn cael ei threchu.

Fe fydd y gêm wleidyddol yn parhau, wrth gwrs, er o dan amodau newydd sicrwydd Brexit. Ond y cwestiwn sylfaenol ac arhosol i bawb sy’n poeni am ddyfodol ein gwlad yw a fydd y bobl sydd yn llywio’r wlad – yn yr eglwysi, y trydydd sector, y cyfryngau a sefydliadau eraill, yn ogystal â’r pleidiau gwleidyddol – yn dysgu eto sut i wrando. Gwrando ar ei gilydd, ie, ond yn bwysicach gwrando ar bobl gyffredin. Fe fydd Brexit yn cyflwyno newidiadau mawr i’n heconomi ac i’n cymunedau; fe fydd effeithiau’r argyfwng hinsawdd yn newid llawer mwy. Gallwn ymdopi â hyn dim ond trwy wrando ar y gwir arbenigwyr ynghylch eu cymunedau, sef y bobl sy’n byw yno ac yn eu cadw i fynd. Y gwleidyddion fydd yn gwneud hynny fydd yn hawlio ein parch a’n cefnogaeth yn y pen draw.

Gethin Rhys

Mae’r Parch. Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru), ond barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon, a ysgrifennwyd ar 17 Rhagfyr 2019.