E-fwletin 24 Tachwedd 2019

Cadair Wag

Siom o’r mwyaf oedd clywed yn ddiweddar am benderfyniad Cytûn Lloegr (Churches Together in England), sy’n cynrychioli 49 o Eglwysi o draddodiadau gwahanol, i wrthod rhywun i fod yn un o’u llywyddion am fod yr un a enwebwyd mewn priodas o’r un rhyw. Cawsai Hannah Brock Womack, sy’n aelod gweithgar o’r Crynwyr ym Mhrydain ac yn briod â gwraig arall, eu henwebu gan grŵp o wahanol eglwysi a oedd yn cynnwys y Crynwyr ym Mhrydain, Cyngor Lutheraidd Prydain, Eglwys Lutheraidd Efengylaidd Lloegr, Eglwysi Lutheraidd, Diwygiedig a Chynulleidfaol Unedig Almaeneg eu hiaith ym Mhrydain ac Eglwys yr Alban (Henaduriaeth Lloegr). Yn naturiol, mynegodd Hannah ei siom ond ar yr un pryd, er iddi deimlo’n drist ac yn rhwystredig, dywedodd nad oedd penderfyniad Cytûn Lloegr wedi peri syndod iddi.  

Yng ngoleuni’r penderfyniad i wrthod enwebiad Hannah, fe fydd un o’r Cadeiriau Llywyddol yn wag am dymor. Mewn datganiad dywedodd Cytûn Lloegr bod y gadair wag yn cynrychioli’r diffyg cydweld oedd yn bodoli rhwng yr eglwysi yn Lloegr mewn perthynas â rhywioldeb ac yn brawf o’r realiti nad oedd pererindod yr Eglwysi ar y mater hwn wedi cyrraedd pen y daith hyd yn hyn. Mae’r corff wedi ymrwymo i wrando ar y grŵp o eglwysi a enwebodd Hannah ac i ddod o hyd i ffyrdd i sicrhau bod eu llais yn cael gwrandawiad teilwng, tra’n cydnabod ar yr un pryd y poen a’r tristwch a grewyd gan y penderfyniad i wrthod yr enwebiad.  

Mae’r Crynwyr ym Mhrydain yn eu datganiad hwythau, er yn rasol iawn, yn rhybuddio na ddylid diystyru’r gofid a grewyd o ganlyniad i’r penderfyniad hwn. Cyfeiriwyd at yr angen i fynd ati i weithio i geisio cymod drwy gynnal sgyrsiau creadigol am y gwahaniaethau sy’n bodoli. Mae’r Crynwyr wedi mabwysiadu safbwynt gref a diamwys mewn perthynas â mater rhywioldeb ond yn anffodus nid pob Eglwys sydd yn barod i dderbyn a rhannu eu gweledigaeth. Mawr obeithir y bydd y sgyrsiau yma yn digwydd yn fuan fel y gall Cytûn Lloegr gynyddu eu dealltwriaeth a derbyn pobl beth bynnag yw eu rhywioldeb.  

O ran Cymru, mae’n braf gwybod bod rhai o’r eglwysi rhyddion yn barod i weinyddu priodasau ar gyfer cyplau o’r un rhyw, ond nid pawb! Ond os methwn â rhoi lle teilwng o fewn rhengoedd ein heglwysi i bobl sydd yn hoyw ac mewn priodasau o’r un rhyw, ni allwn ddweud gydag unrhyw argyhoeddiad ein bod yn rhoi cariad Crist ar waith ac yn gymdeithas sydd yn adlewyrchu gwerthoedd y Deyrnas.  

Prysured y dydd pan fyddwn yn medru rhannu a gweithredu gweledigaeth y Crynwyr.