E-fwletin 1 Rhagfyr, 2019

ASESIAD RISG

Rhywbeth sydd angen ei gyflawni mewn sawl cylch o fywyd y dyddiau hyn yw asesiad risg. Fel y gwyddom, mae’n rhan greiddiol o Reoliadau Iechyd a Diogelwch.

Mae gofyn dilyn camau pendant wrth gyflawni asesiad o‘r fath – adnabod y peryglon, ystyried pwy neu beth allai fod mewn perygl o’r peryglon hynny, gweithredu mesurau i reoli’r peryglon ac ystyried unrhyw gamau pellach i’w cymryd, cofnodi darganfyddiadau’r asesiad ac adolygu’r asesiad yn rheolaidd.

Mae’r asesiad hwn yn gam pwysig yn y broses o amddiffyn gweithwyr a busnesau yn ogystal â chydymffurfio â’r gyfraith. Mae’n ein helpu i ganolbwyntio ar y risgiau sydd o bwys yn y gweithle – y rhai sydd â’r potensial i achosi niwed go iawn. Mewn llawer o achosion, mae gweithredu mesurau  syml  yn gallu rheoli risgiau, er enghraifft  glanhau gorlifoedd ar unwaith er mwyn arbed pobl rhag llithro neu gau droriau cypyrddau i sicrhau nad yw pobl yn baglu.

Mae cyflawni asesiad risg yn orchwyl sy’n dod i ran eglwysi a chapeli, yn arbennig y rhai lle mae mynwentydd. Mae gofyn i swyddogion archwilio’n ofalus beth all achosi niwed er mwyn dadansoddi a ydynt wedi rhagofalu’n ddigonol neu a ddylent wneud mwy.

Mae data’n dangos, er enghraifft, fod dros 2,000 o danau mewn eglwysi a chapeli bob blwyddyn yn Lloegr yn unig a’r atgyweirio’n costio miliynau o bunnoedd. Mae rhai tanau’n gallu bod yn ddifrifol iawn – yn drychinebus yn wir, fel yn achos Eglwys Gymunedol Bethel yng Nghasnewydd ym Mehefin 2018. 

Ond pam cyfyngu’r asesiad i’n hadeiladau a’r corff dynol yn unig?  Wedi’r cyfan, mae dyn yn gorff ac enaid!  Rydym yn dda yn ein capeli ac eglwysi am ofalu am y corff, ei fwydo a’i ddilladu.  Diolch am gyfraniad amhrisiadwy llawer o gapeli’n estyn llety i’r digartref, yn cynorthwyo gwahanol elusennau, yn rhoi i eraill sydd â llai ac yn helpu i gyflenwi banciau bwyd. Ond beth am ofalu am yr enaid?  Pa mor effeithiol yw’n capeli’n porthi’r enaid? A yw’r cydbwysedd yn iawn gennym?

Mae yna bob amser berygl i ni fyw i blesio’n hunain.  Mae canlyniadau hynny’n gallu bod yn eglur iawn yn ein hymddygiad – pethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt a phechodau tebyg. Mae’r risg yn fawr oni bai ein bod yn cael ein paratoi i fyw i blesio Duw ac i dderbyn ffrwyth yr Ysbryd Glân.  Mae’r wobr yn fawr o blannu hadau a gweld ffrwyth yr Ysbryd Glân yn tyfu ynom  – cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd,  daioni, ffyddlondeb,  addfwynder a hunanreolaeth. Os ydyn ni’n tyfu’n ysbrydol, mae’n bosibl i ni dyfu’n fwyfwy tebyg i Grist.

Mae cyfrifoldeb arnom ni fel unigolion i roi’n ffydd yn Iesu’n gyfan gwbl.  Ond mae hefyd gyfrifoldeb ar ein capeli a’n heglwysi i’n bwydo’n briodol i dyfu yn y ffydd a dod yn fwy aeddfed yn ein perthynas â Iesu. Fel arall, mae  perygl i ni barhau’n ‘fabis bach’ yn ein dealltwriaeth o’r bywyd Cristnogol – yn bobl y mae angen ein bwydo â llaeth gan nad ydyn ni’n barod i gymryd ‘bwyd solet’.  

A beth felly am fwydlen ein capeli yn y ganrif hon i’n helpu i dyfu’n ysbrydol? A yw’n addas i’n cyfnod? A oes rhwystrau? A ellir ei gwella a’i chryfhau?  Rhaid wrth asesiad risg i geisio canfod yr ateb – a’i adolygu’n rheolaidd!