Meddylgarwch Cristnogol

Ddeng mlynedd ar hugain a mwy yn ôl, Transcendental Meditation oedd y bont ffasiynol rhwng gweddi draddodiadol ac ysbrydoledd di-dduw, seciwlar. Mewn Hindŵaeth yr oedd gwreiddiau ‘myfyrio trosgynnol’. Heddiw, Bwdïaeth yw gwreiddiau’r Mindfulness sy’n cael ei fabwysiadu gan lawer o fudiadau seciwlar, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd.

Yma mae Margaret LeGrice yn rhoi sylw i’r pwnc:

Meddylgarwch Cristnogol

 Mae ‘meddylgarwch’ neu ‘ymwybyddiaeth ofalgar’ yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd. Mae gwreiddiau’r ddisgyblaeth mewn Bwdïaeth, sy’n grefydd heb unrhyw syniad o Dduw. Dysgir meddylgarwch mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd fel modd o helpu pobl i ymdopi â phwysau’r bywyd modern. Mae dosbarthiadau yn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, mewn ysgolion, ac mewn neuaddau cymunedol. Mae’n cael ei hysbysebu fel rywbeth seciwlar, ac felly mae’n addas i’r crefyddol eu bryd ac i’r digrefydd.

Ond rydw i wedi sylweddoli bod llawer o debygrwydd, yn ogystal â rhai gwahaniaethau, rhwng meddylgarwch a gweddi Gristnogol dros y canrifoedd. Er enghraifft, mae’r eirfa’n ddigon cyfarwydd – geiriau fel gwyliadwrus, gwyliadwriaeth, bod yn effro, canolbwyntio, gwarchod y galon. Dyma eiriau a geir yn y Beibl ac mewn diwinyddiaeth Gristnogol, sy’n debyg i syniadau meddylgarwch. Ond, fel y cawn weld, mae gwahaniaethau pwysig hefyd.

Dywedir bod pawb yn gallu ymarfer meddylgarwch; ymarfer dynol ydyw. Bod yn ymwybodol, dal sylw, byw yn y presennol, dyna yw meddylgarwch. Wrth fod yn ymwybodol o’r presennol, gyda chwilfrydedd a heb farnu, rydyn ni’n dysgu sut i fyw heb ymateb yn gyflym ac yn ddifeddwl i amgylchiadau ein bywydau ni. Rydyn ni’n ymatal rhag gofidio am y gorffennol a rhag poeni am y dyfodol. Rydyn ni’n byw yn llwyr yn y presennol. Rydyn ni’n canolbwyntio ar beth rydyn ni’n ei wneud, heb bryderon a heb ddiffyg sylw. Mae ymarferion yn helpu i hyfforddi’r meddwl i fod yn ymwybodol o’n profiadau.

Un o’r ymarferion pwysicaf yw canolbwyntio ar ein hanadl. Dyma rywbeth a wnawn o’n geni tan ein marw. Does dim angen i ni wneud dim byd. Ond mae bod yn ymwybodol o’n hanadlu yn ein helpu ni i ganolbwyntio a byw yn y presennol. Mae ein hanadl wastad gyda ni, mae’n digwydd heb i ni ei ewyllysio.

Dyma ymarfer anadlu syml.

Eisteddwch yn wyliadwrus, yn syth, a heb unrhyw dyndra. Caewch eich llygaid, neu edrychwch i lawr. Canolbwyntiwch ar eich anadl. Mae’n mynd i mewn ac allan heb i chi wneud dim byd. Peidiwch â cheisio newid neu wella eich anadl. Byddwch yn ymwybodol o’ch anadl, yn dyner, heb farnu …

Yn yr Hen Destament ystyr y gair Hebraeg ruach yw anadl, gwynt, ysbryd. Hefyd, yn y Testament Newydd, yr un yw ystyr y gair Groeg pneuma – anadl, gwynt, ysbryd. Nawr, gan ddal i anadlu, yn lle canolbwyntio ar ddim ond y weithred o anadlu, wrth anadlu i mewn, anadlwch i mewn Ysbryd Duw, ei gariad, ei ddaioni, ei faddeuant. Wrth anadlu allan, anadlwch allan bryder, pwysau, pechod a phopeth drwg. …

Ac yna, dewch ’nôl i lle rydych chi.

Nid i feddylgarwch yn unig y perthyn ymarferion anadlu. Mae’n rhan o draddodiad yr Eglwys Uniongred hefyd. Yn yr hyn a elwir yn Weddi Iesu, cawn ein huno â’n hanadl: ‘Arglwydd Iesu Grist, Fab Duw, trugarha wrthyf, bechadur.’

Dyma rai dyfyniadau o gyfnod cynnar yr eglwys:

‘Cofiwch am Iesu wrth i chi anadlu.’ (John Climacus, mynach o’r 7fed ganrif)

‘Tawelwch y galon yw talu sylw, heb feddwl. Yn y tawelwch hwn, mae’r galon yn anadlu ac yn ymbil dim ond am Iesu Grist, Mab Duw, yn ddiddiwedd, ac yn ddi-baid.’ (Hesychius, Groeg, 8fed–9fed ganrif)

‘Trwy gofio Iesu Grist, canolbwytiwch eich dealltwriaeth sydd ar wasgar.’ (Philotheus, Sinai, 9fed–10fed ganrif)

Mae meddylgarwch (yn yr ystyr mindfulness) yn dibynnu ar fyw yn y presennol. Dau awdur yn y traddodiad Cristnogol sydd wedi ysgrifennu am bwysigrwydd byw yn y presennol yw’r Brawd Lawrens (bu farw 1691) a Jean-Pierre de Caussade (1675–1751).

Mynach Carmelaidd lleyg ym Mharis oedd y Brawd Lawrens. Roedd e’n ceisio byw yn wastad ym mhresenoldeb Duw, a chyhoeddwyd ei lythyron yn 1692, dan y teitl, Ymarfer Presenoldeb Duw. Roedd e’n casáu ei waith yng nghegin y fynachlog, ond trwy ymarfer presenoldeb Duw, roedd ei fywyd yn llawen a bodlon. Dyma rai dyfyniadau eraill o’i eiddo:

‘Dylen ni sefydlu ein hunain gan fod yn ymwybodol o bresenoldeb Duw, gan ymddiddan ag ef yn wastad.’

‘Roedd e wastad yn fodlon, ym mhob peth, wrth wneud pethau bychain er mwyn cariad Duw.’ (A Dewi Sant hefyd!)

‘Dydi amser gwaith ddim yn wahanol i amser gweddi. Yng nghanol sŵn a chynnwrf y gegin, pan mae llawer o bobl yn gofyn am bethau gwahanol yr un pryd, rydw i’n meddiannu Duw mewn tawelwch fel pe’n penlinio o flaen y Sacrament Bendigaid.’

Roedd Jean-Pierre de Caussade (1675–1751) yn Iesuwr, ac roedd e’n gaplan i leiandy yn Nancy, Ffrainc. Teitl y gyfrol sy’n cynnwys ei ddysgeidiaeth drwy lythyron a phregethau i’r chwiorydd yw Hunan-ymollwng i’r Rhagluniaeth Ddwyfol. Disgrifir ei syniadau hefyd fel Sacrament y Funud Bresennol.

Fel meddylgarwch, mae Sacrament y Funud Bresennol ac Ymarfer Presenoldeb Duw yn canolbwyntio ar fyw yn y presennol. Ond rydw i’n meddwl bod dau wahaniaeth pwysig rhwng meddylgarwch ac athrawiaethau’r Brawd Lawrens a De Caussade.

Yn gyntaf, mewn meddylgarwch, rydyn ni’n ymwybodol o’r funud bresennol er mwyn y funud ei hun. Ond yn nysgeidiaeth y Brawd Lawrens a De Caussade, rydyn ni’n cwrdd â Duw yn y presennol.

Yn ail, yng nghanol ffydd Cristnogol mae hunan-aberth, aberth Iesu (sut bynnag rydych chi’n ei ddeall) a rhoi ein hunain i Dduw ac i bobl eraill. Dydi hynny ddim yn rhan o feddylgarwch. I fynd yn ymwybodol o bresenoldeb Duw yn y presennol, mae’n rhaid i ni roi’r gorau i’n ffyrdd ni ein hunain o feddwl, o weithredu, o ymddwyn; rhoi heibio’r arferion sy ddim yn tarddu o Dduw, ond o’n natur ni ein hunain.

Rhai dyfyniadau gan De Caussade:

‘Dim ond yn y funud bresennol y gall ymollwng fod yn ymollwng perffaith i drefn Duw.’

‘Nid yw’r gelfyddyd o ymgolli yn ddim ond mater o garu, a’r gweithredu dwyfol yn ddim byd ond gweithredu cariad dwyfol.’

Does dim digon o amser i drafod ffordd arall o weddïo a byw yn y presennol, sef ffordd Ignatius o Loyola. Ysgrifennodd Ymarferion Ysbrydol, a nod yr ymarferion yw ‘dod o hyd i Dduw ym mhob peth’. Mae ei gynllun o ymarferion, o fyfyrdodau o wahanol fathau yn puro ein hymddygiad, yn creu deall dwfn o waith Duw a bywyd Iesu, ac yn rhoi ymwybyddiaeth gliriach o bresenoldeb a gweithred Duw ynom ni ein hunain ac yn y byd. Mae ffordd Ignatius yn bwysig iawn i mi, ac rydw i’n gallu siarad amdano am oriau!

Dyma weddi Ignatius ar ddiwedd yr Ymarferion:

Cymer, Arglwydd, fy rhyddid, fy nghof, fy neall, a’m hewyllys i gyd. Ti a roddaist bob peth i mi; gwnaethost fi yr hyn ydwyf; cyflwynaf y cyfan i’th ewyllys ddwyfol di, a gwna fel y mynni â mi. Dyro i mi’n unig dy ras a’th gariad di. Gyda’r rhain cyfoethog ydwyf, nid oes raid imi ofyn am ragor.

I fi, mae’n bwysig edrych ar dueddiadau a syniadau ein diwylliant yng ngoleuni’r traddodiad Cristnogol. Rydw i wedi dilyn cwrs ‘meddylgarwch’, ac rydw i wedi dysgu am draddodiadau ysbrydol Cristnogaeth. Mae fy mywyd i wedi cael ei gyfoethogi drwy edrych ar y ddau gyda’i gilydd. Rydw i’n medwl bod agweddau’r Gwir yn bodoli tu hwnt i Gristnogaeth – a does dim llawer o leoedd yn Aberystwyth lle rydw i’n gallu dweud hynny!

 Offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru yw Margaret LeGrice, a oedd am bum mlynedd tan fis Medi 2017 yn ficer plwyfi gwledig ger Aberystwyth. Am nifer o flynyddoedd bu’n gaplan i’r byddar yn esgobaethau Llandaf a Mynwy, a chyn hynny’n weinidog gyda’r Bedyddwyr yn ne Cymru. Arweiniodd drafodaeth ar ‘Feddylgarwch’ yn un o gyfarfodydd Cristnogaeth21 yn y Morlan yn Aberystwyth yn ystod yr haf. Dymunwn bob bendith iddi wrth iddi ddychwelyd i Gaerdydd ar ôl ymddeol.