Chwyldro ar Gerdded

ELFED AP NEFYDD yn rhoi croeso i gyfrol bwysig newydd gan Tom Wright

CHWYLDRO AR GERDDED

Go brin y byddai unrhyw un ar yr olwg gyntaf yn deall mai cyfrol ddiwinyddol yw hon. Mae’r teitl, a chynllun y clawr du a choch, yn awgrymu mai hanes chwyldro gwleidyddol ym mhen draw’r byd a drafodir, yn enwedig a’r llyfr yn dwyn y teitl The Day the Revolution Began, a’r gair Revolution wedi’i gysodi â’i draed i fyny. Dim ond o syllu’n fwy manwl ar yr is-deitl mewn llythrennau llai y gwelir mai cyfrol yw hon yn ystyried ystyr croeshoeliad Iesu Grist.

Oni fydd y clawr a’r teitl yn tynnu sylw’r darllenydd fe ddylai enw’r awdur wneud hynny. Y mae Tom Wright, Cyn-esgob Durham, yn Athro’r Testament Newydd a Christnogaeth Gynnar ym Mhrifysgol St Andrews, ac yn un o’n hawduron crefyddol mwyaf cynhyrchiol. Mae’n awdur dros hanner cant o gyfrolau, yn amrywio o drafodaethau poblogaidd a darllenadwy, megis Simply Jesus a Simply Christian, i astudiaethau ysgolheigaidd, fel ei dair cyfrol fawr, Christian Origins and the Question of God, a Paul and the Faithfulness of God. Dyma awdur a chanddo’r ddawn brin o fedru trafod dyfnion bethau’r ffydd mewn iaith ddarllenadwy a dealladwy. Y mae wedi ei ddisgrifio fel yr apolegydd Cristnogol mwyaf effeithiol ers C. S. Lewis.

Y cwestiynau a drafodir ganddo yn y gyfrol dan sylw yw, ‘Sut y gall marwolaeth un dyn ddwy fil o flynyddoedd yn ôl fod yn ystyrlon a pherthnasol i ni heddiw?’; ‘Sut y gellir ystyried marwolaeth greulon un dyn diniwed fel buddugoliaeth ar bechod ac angau?’ a ‘Pam y bu’n rhaid i Iesu farw o gwbl?’

Dadl Tom Wright yw fod diwinyddion, ers y Diwygiad Protestannaidd, wedi cyfyngu eu dehongliad o’r croeshoeliad i gwestiwn pechod a thynged yr enaid. Ystyr y groes iddyn nhw, ac i’r rhelyw o Gristnogion heddiw, yw fod Iesu Grist wedi marw i’n hachub ni oddi wrth ein ‘pechodau’ trwy ein ‘cyfiawnhau’ gerbron Duw, er mwyn inni gael ‘mynd i’r nefoedd’.

Nid bod yr awdur yn gwadu’r elfen unigolyddol hon, ond nad yw dehongliad o’r fath yn mynd yn ddigon pell nac yn cymryd i ystyriaeth elfennau eraill sy’n ganolog i ddysgeidiaeth y Testament Newydd. Un rheswm am hynny yw fod trafodaethau am ystyr y groes ac ‘athrawiaeth yr iawn’ wedi troi o amgylch dwy ddamcaniaeth glasurol a gwahanol. Y naill yw’r ddamcaniaeth ddirprwyol, a gysylltir yn bennaf ag Anselm, Archesgob Caergaint yn yr unfed ganrif ar ddeg, yn seiliedig ar y syniad fod cyfiawnder Duw yn mynnu bod iawn yn cael ei dalu am bechod y ddynoliaeth, a bod Iesu Grist wedi derbyn y gosb drwy farw yn ein lle. Y llall yw’r ddamcaniaeth foesol a gysylltir ag enw Peter Abelard, mynach Ffrengig o’r unfed ganrif ar ddeg, a ddysgodd mai mynegiant o gariad anfeidrol Duw yw’r croeshoeliad. O syllu ar y groes y mae’r credadun yn edifarhau am ei bechod, yn cael ei newid ac yn mynegi ei gariad ef at Dduw.

Tuedd y diwygwyr Protestannaidd, yn enwedig John Calvin, oedd mabwysiadu’r ddamcaniaeth ddirprwyol, ond mae’r cysyniad o Dduw yn mynnu bod ‘iawn’ yn cael ei wneud trwy aberthu ei fab ei hun er mwyn bodloni ei gyfiawnder yn gwbl ddiystyr, os nad yn farbaraidd, yng ngolwg llawer. Y duedd felly oedd ailddehongli ac addasu’r safbwynt Aberlardaidd. Ond nid yw’r ddamcaniaeth honno eto yn cymryd dysgeidiaeth y Testament Newydd o ddifrif.

Damcaniaeth Tom Wright yw fod rhywbeth yn digwydd yn y croeshoeliad sy’n newid cwrs hanes. Dydd Gwener y Groglith yw dydd cyntaf chwyldro sy’n rhoi cychwyn i gynllun achubol Duw i’r holl fyd. Meddai, ‘Erbyn chwech o’r gloch ar nos Wener y Groglith yr oedd y byd yn lle gwahanol.’ Y cwestiwn a drafodir yng ngweddill y gyfrol yw: beth oedd y chwyldro a beth yw galwedigaeth a gwaith Cristnogion fel dilynwyr Crist y chwyldrowr?

Y mae pedair agwedd i’r chwyldro. Yn gyntaf, ein portread o Dduw. Nid Duw dicllon, dialgar, yn mynnu barnu a chosb i bechaduriaid yw Duw y groes, ond Tad llawn maddeuant. Yn ail, y mae newid yn digwydd yn ein syniad o’r ddynoliaeth. Nid pechaduriaid dan farn a chondemniad yw’r teulu dynol, ond dynoliaeth newydd yn cael ei huno mewn cariad a chymod. Bwrw i lawr y gwahanfuriau rhwng cenhedloedd, hiliau a rhaniadau dynol a wna’r groes. Yn ôl Wright, petai’r Diwygwyr Protestannaidd wedi ffocysu ar Effesiaid, yn hytrach na Rhufeiliaid a Galatiaid, byddai holl hanes Gorllewin Ewrop yn wahanol! Holl bwrpas y groes (yn Effesiaid 1: 10), yw dwyn pob peth yn y nef ac ar y ddaear i undod yng Nghrist. Yn drydydd, mae’r groes yn chwyldroi ein hymateb i drais a drygioni – nid trwy ddial a thalu’r pwyth yn ôl, ond trwy faddau a charu a thrugarhau y gorchfygir drygioni. Yn bedwerydd, y mae’r groes yn agor llwybr iachawdwriaeth, nid trwy ‘achub’ unigolion ‘i fynd i’r nefoedd’ yn unig (er ei fod yn cynnwys hynny), ond trwy eu hachub hefyd o hunanoldeb, o’u camddefnydd o’r ddaear ac o’r trais a’r atgasedd sy’n rhwygo’r ddynoliaeth ac yn dinistrio’r blaned.

Nid yw’r eglwys erioed wedi ymrwymo i unrhyw un ddamcaniaeth am y groes, gan fod dirgelwch ac ystyr y groes yn llawer mwy nag unrhyw un dehongliad athrawiaethol. O ganlyniad y mae astudiaethau o’r croeshoeliad wedi denu, ac yn dal i ddenu, ysgolheigion ac esbonwyr o wahanol draddodiadau Cristnogol. O gofio fod Tom Wright yn perthyn i’r garfan geidwadol yn ddiwinyddol, ei fod yn ysgolhaig Testament Newydd o fri, a’i fod hefyd yn ddigon agored ei feddwl i fentro i gyfeiriadau newydd a gwahanol, y mae’r gyfrol hon o’i waith yn goleuo, yn herio ac yn cyffroi. Yn sicr y mae wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’n dealltwriaeth o bwnc sy’n ganolog i’n ffydd Gristnogol.                     

 

The Day the Revolution Began, Tom Wright, S.P.C.K., 440tt.