Eglwys yr Alban

Yn eu cyfarfod cyffredinol ddechrau Mehefin, pleidleisiodd cynrychiolwyr Eglwys Esgobol yr Alban i newid cyfraith yr eglwys, gan gael gwared ar y cymal athrawiaethol oedd yn nodi mai rhwng gŵr a gwraig yn unig y mae priodas.

Dyma ymateb Nerys Ann Jones sydd yn offeiriad cynorthwyol yn Eglwys Ioan Fedyddiwr, Perth.

Proses fendithiol

Eglwys fechan o bobl mewn oed yn bennaf yw Eglwys Esgobol yr Alban, ond y mae hi’n eglwys yr wyf yn falch iawn o fod yn aelod ohoni oherwydd y ffordd yr aeth ati i benderfynu sut i ymateb i bwnc mor ddyrys a dadleuol. Y bleidlais ar yr wythfed o Fehefin oedd y cam olaf mewn trafodaeth drwyadl ac eang ar natur priodas, a phriodas o’r un rhyw yn arbenning. Dair blynedd yn ôl, cyhoeddwyd papur gan y pwyllgor athrawiaeth yn amlinellu’r dystiolaeth a’r dadleuon ar y naill ochr a’r llall ac yna hyfforddwyd tîm o offeiriaid a lleygwyr o bob cwr o’r Alban i gynnal Cascade Conversations, cyfres o sgyrsiau a roddai gyfle i bawb ohonom i ddod at ein gilydd mewn grwpiau bach i wrando gyda pharch ar safbwyntiau gwahanol, i ofyn cwestiynau, cyfnewid profiadau a gweddïo.

Yn ystod y broses hon, daeth llawer i werthfawrogi dyfnder a didwylledd y gwahaniaeth barn o fewn yr eglwys sydd wedi ei seilio yn bennaf ar ein hamrywiol agweddau tuag at yr Ysgrythurau, ac i sylweddoli na fyddai’r gwahaniaeth hwn yn diflannu drannoeth y bleidlais. Daethom i ddeall hefyd fod ein perthynas â’n gilydd yr un mor bwysig â’n daliadau a bod modd i ni fod yn unedig, er gwaethaf ein safbwyntiau gwahanol, drwy ras Crist. Yr hyn a wna geiriad newydd y ddeddf, felly, yw cydnabod fod gwahanol ddealltwriaeth o natur priodas o fewn yr eglwys a sicrhau fod lle i bawb, beth bynnag fo’u daliadau. Ni fydd yr un gynulleidfa na’r un offeiriad dan orfodaeth i gynnal priodasau o’r un rhyw yn erbyn eu cydwybod.

Yr oedd y bleidlais, fel y disgwylid, yn un glòs, yn enwedig ymhlith yr offeiriaid, a thra bo rhai yn llawenhau o weld yr eglwys yn dod yn fwy agored a chynhwysol, y mae eraill wedi eu dolurio gan benderfyniad sydd yn eu barn hwy yn anysgrythurol ac yn erbyn ewyllys Duw. Y mae’r esgobion eisoes wedi dechrau ar y gwaith o gynhyrchu canllawiau bugeiliol ar gyfer y broses o enwebu offeiriaid fel y gallant gael eu hawdurdodi i gynnal priodasau o’r un rhyw. Yn y cyfamser, y mae’r gwaith o gymodi yn digwydd yn yr eglwys drwyddi draw. Yn ystod yr wythnosau diwethaf gwelwyd arwyddion o raslonrwydd eithriadol ar y naill ochr a’r llall. Dechreuodd pennod newydd yn hanes yr eglwys a’n gobaith yw y bydd ein cariad tuag at ein gilydd a gras Duw yn drech na’n gwahaniaethau ac yn ei galluogi i fynd o nerth i nerth.