Blwyddyn Newydd dda!

Ar ran Cristnogaeth 21, mae’n braf cael dymuno Blwyddyn Newydd Dda i’n dilynwyr i gyd. Gobeithio y daw’r flwyddyn newydd â’i bendithion i bob un ohonom.

Ond am ba hyd y byddwch chi’n parhau i ddymuno “Blwyddyn Newydd Dda” i’ch cydnabod  tybed? Dw i’n tueddu i wneud hynny tan yr Hen Galan, sef Ionawr y trydydd ar ddeg. Wn i ddim pam. Atgof pell o’r hen drefn efallai, cyn i’r Pab Gregory ymyrryd â’r calendr, ac ailwampio’r hyn a grëwyd gan Iwl Cesar yn y flwyddyn 45 C.C. Roedd y rhan fwyaf o’r gwledydd Pabyddol wedi derbyn y newid mor bell yn ôl â 1582, ond fe gymerodd 170 o flynyddoedd cyn i Brydain ildio i’r drefn. Y flwyddyn 1752 oedd hi, ac aeth eich hynafiaid chi a minnau i’w gwlâu ar nos Fercher, Medi’r ail, a deffro ar fore Iau, Medi’r 14eg.

Yn naturiol, roedd sawl un yn amheus o’r newid, ond cafodd un hen wag o Ben Llŷn syniad disglair iawn. Roedd wedi clywed y stori am goeden ddrain arbennig iawn yn tyfu yn ardal Ynys Wydrin.  Yn ôl y traddodiad yn yr ardal honno, arferid cysylltu’r goeden ag enw Joseff o Arimathea, a ddaeth drosodd i Brydain gyda’r Greal Sanctaidd, ac fe dyfodd y goeden ar yr union lecyn lle y bu’n sefyll. Byddai’n blodeuo ddwywaith y flwyddyn, sef unwaith yn y gwanwyn, a’r eilwaith ar ddydd Nadolig. Felly, anfonwyd dirprwyaeth o Ben Llŷn i Ynys Wydrin i gadw golwg ar y goeden ddrain i weld pryd yn union y byddai hi’n blodeuo. Dyna fyddai’r maen prawf. Os blodeuai ar yr hen Nadolig, roedden nhw am lynu at yr hen galendr, ond os byddai yn ei blodau ar y dydd Nadolig newydd, fe fydden nhw’n derbyn y calendr newydd.

Ynys Wydrin (Llun Wikipedia)

Ceir adroddiad yn rhifyn Ionawr 1753 o’r Gentlemen’s Magazine sy’n dweud (o’i gyfieithu): “Ynys Wydrin – Tyrrodd tyrfa gref o bobl o gwmpas y goeden ddrain ar gyfer y dydd Nadolig newydd, ond, er mawr siom, nid oedd unrhyw flodau arni.  Daeth amryw yn ôl i’r fan ar y 5ed o Ionawr, sef yr hen ddydd Nadolig, a gwelwyd y goeden wedi blaguro yn ôl ei harfer.”

Nid gorchwyl hawdd yw perswadio pobol i dderbyn newid, ond beth well ar ddechrau blwyddyn nag addunedu i droi cefn ar hen ragfarnau a safbwyntiau cul, ac wynebu blwyddyn newydd gyda meddwl agored. Wedi’r cwbl, dyna’r rheswm dros sefydlu Cristnogaeth 21.