Roedd gan y Prifathro feddwl clir; gŵr pendant ei farn a chynnil ei gyfarwyddid ydoedd. Pan aed ato i gwyno ein bod, a ninnau’n fyfyrwyr prifysgol parchus a chyfrifol, yn cael ein trin, gan rai pobl, fel plant “Wel, peidio ag ymddwyn fel plant” oedd yr ymateb swta. Aem ato hefyd i ofyn am gyfarwyddid wrth lunio cerdyn Nadolig y coleg. Daeth yr ateb yn gryno – “Dim celyn. Dim Robin Goch”!

Cyrhaeddodd cardiau eto eleni a diolch amdanyn nhw. Daeth y cynta’ o America ac arno lun o Siôn Corn yn marchogaeth ceffyl gwinau. Daeth yr ail gan un a’i rhoddodd yn fy llaw (i arbed cost). “Dwi ddim yn gwarafun prynu cardiau. Mae’r rhain at achosion da. Ond dwi’n gyndyn i wario ar stampiau.” Llun dyn eira oedd ar ei gerdyn. Fyddai’r naill na’r llall ddim wedi plesio’r Prifathro. Nid hen ŵr yw ystyr y Nadolig, ond baban. Nid dyn eira chwaith. Rhywbeth diflanedig mewn dim o dro yw hwnnw. Ond mae’r baban yn aros. Mae’n tyfu’n ddyn ac mae ei aberth yn dragwyddol.

“Be’ haru ti,” medd rhywun ! “Yr hyn sy’n cyfri wrth dderbyn cerdyn, waeth beth fo’r llun, yw’r cyfarchiad personol ac enw’r sawl a’i hanfonodd.” Weithiau, a bellach weithiau go aml a deud y gwir, enw’n unig sydd ‘na. Bu adeg pan oedd ‘na enw arall yno hefyd. Ac mae’r bwlch yn codi hiraeth am Nadoligau’r gorffennol. “Wela i ti’n Steddfod” yw’r addewid at y dyfodol.

Drychwch eto ar y cardiau. Bydd ambell un yn dweud stori’r geni. Seren – dim ond un seren. Preseb. Tri gŵr doeth. Camelod. Angylion. Bugeiliaid … Tybed ble’r aeth y cerdyn hwnnw a gedwais am flynyddoedd (ac o America yr oedd hwnnw hefyd fel y digwydd hi)? Llun o gorlan yn llawn o ddefaid gwynion. Ac o’r tu allan roedd ‘na ddafad ddu.

Rhowch o’r neilltu yr atgof mai o America y daeth y cerdyn. Rhowch heibio gyfnod Martin Luther King ac oblygiadau hiliol y ddafad ‘ddu’. Idiom yw’r ymadrodd gwreiddiol sy’n disgrifio aelod o grŵp sy’n wahanol i’r gweddill, neu un sydd wedi dwyn cywilydd neu warth ar ei deulu. Un a chrac yn ei gymeriad. 

Parchus? Cyfrifol? Ai ni sy’n ymhyfrydu yn Eglwys y Bugail Da heb sylweddoli na chydnabod fod y Bugail da yn Waredwr hefyd i aelodau Eglwys y Ddafad Ddu? Cyfaddef yw’r cam cynta’ i’r sawl sy’n dioddef o ddibyniaeth; cyfaddef fod crac ynddo. Y bwriad yw gwella o’r ddibyniaeth sy’n ein dinistrio ni oll, nid papuro dros y craciau. 

“Roedd yn y wlad honno fugeiliaid yn gwylio eu praidd rhag eu llarpio’n un lle …” Y bleiddiaid sy’n llarpio bellach yw ein hunan-gyfiawnder dall a’n amharodrwydd gwan ein hunain, yn wyneb yr holl bwysau masnachol, i gydnabod mai gŵyl y geni yw hon. Plentyn Mair a Joseff a aned i “gymryd ein natur a’n dyled a’n dolur i’n gwared o’n gwewyr anniwair.” Does bosib na ddaru mi ddysgu rhywbeth yn y coleg. Roedd y Prifathro yn llygad ei le – “Dim celyn. Dim Robin Goch.”