Archifau Categori: Agora 20

Michael Morpurgo

Michael Morpurgo
yn sgwrsio gyda Huw Spanner (gwefan High Profiles)

Michael Morpurgo, gan Georges Seguin (Okki) – Gwaith yr uwchlwythwr, CC BY-SA 3.0
(wikimedia.org)

Diolchwn am ganiatâd i gyhoeddi rhan o’r sgwrs hon gydag un o awduron mwyaf cynhyrchiol Lloegr sy’n fyd-enwog yn arbennig fel awdur War Horse (nofel, drama a ffilm) ond yn ogystal â nifer fawr o lyfrau i blant yn arbennig (dros 100 ohonynt). Bu’n fardd plant yn Lloegr ac mae wedi ennill llu mawr o wobrau. Prynodd ef a’i briod dŷ yn Nyfnaint gan sefydlu elusen i roi profiad i blant y dinasoedd o fyw am gyfnod ar fferm ac mewn cymuned bentrefol. Erbyn hyn mae’r elusen yn cynnal ffermdai ger Caerloyw a Sir Benfro hefyd. Mae wedi cael ei anrhydeddu am ei waith gyda phlant ac ieuenctid ac am ei gyfraniad i lenyddiaeth. Cafodd ei urddo’n farchog yn rhestr anrhydeddau 2018.

Huw Spanner  A ydych yn hapus gyda chofiant Maggie Fergusson, Michael Morpurgo: War Child to War Horse?

Michael Morpurgo  Ydwyf. Yn hapus iawn. Mae’n llyfr gonest ac fe ddysgais lawer amdanaf fy hun nad oeddwn yn ei wybod a phethau na fyddwn am i neb arall eu gwybod chwaith, efallai.

HS  Mae’n dweud eich bod yn ŵr cymleth ac yn dyfynnu eich brawd a ffrind agos sy’n awgrymu eich bod yn enigma – hyd yn oed i chi eich hun.

MM  Ydi, mae hynny’n iawn. Rwy’n edrych ac yn holi fy hun yn rhy aml, o bosibl, ond ddim nes at adnabod fy hun yn iawn! Fel awdur, rwyf yn treulio llawer o amser ar fy mhen fy hun, wrth gwrs. Pan oeddwn yn athro roedd pethau’n wahanol, oherwydd perfformio oeddwn i ac wrth berfformio rydych chi’n anghofio popeth arall. A dweud y gwir, rwyf wedi bod hoff iawn o berfformio yn ddiweddar. Dyma fy ffordd i o ymlacio.

HS  Rydych yn hoff o berfformio felly?

MM  Actorion oedd fy mam a nhad ac efallai fy mod wedi ymwrthod â’r elfen honno ynof oherwydd doeddwn ddim yn gweld y byddai actio yn yrfa i mi. Ond wrth fynd yn hŷn rydw i wrth fy modd yn adrodd storïau. A chanu. Fe wnes i gyfres o gyngherddau ynglŷn â War Horse a’m gwaith arall, nad yw wedi cael cymaint o sylw, sef Private Peaceful, yn ogystal â’m fersiwn i o stori’r Nadolig, On Angel Wings. Fe wnes i hyn gyda grŵp gwerin arbennig iawn sy’n canu gydag angerdd. Does gen i fawr o lais, ond rydw i wrth fy modd yn ymgolli yn lleisiau’r gweddill. Mae ’na athro yn nrama Alan Bennett, The History Boys, sy’n dweud, ‘Yr unig reswm rydyn ni yma ydi i’w basio ymlaen!’ Mae’n ddweud hyfryd ac mae’n wir. Yr hyn a wnawn yw rhoi’r hyn rydym wedi’i dderbyn. Dyma oedd mam yn ei wneud i mi wrth ddarllen cerddi a storïau. Dyma oedd fy hen athro yn ei wneud yn King’s College yn Llundain, yn eistedd ar ei ddesg yn darllen Gawain and the Green Knight – yn trosglwyddo’r hyn roedd o’n ei garu, a’r plentyn ynddo ef oedd yn darllen. Dyna rwyf yn ei wneud wrth berfformio i blant ac oedolion.

HS  A yw’n wir mai’r fyddin oedd eich dewis cyntaf o yrfa?

MM  Efallai fy mod yn ceisio fy ngweld fy hun ochr yn ochr â dau ewythr a edmygwn yn fawr. Bu un farw yn y rhyfel yn 21ain oed. Roedd yn actor Shakespearaidd, wedi’i hyfforddi yn RADA ac yn lluniaidd a deniadol. Roedd y llall yn heddychwr a oedd am dreulio’r rhyfel yn codi tatws yn swydd Lincoln, ond pan laddwyd ei frawd, newidiodd ei feddwl, a daeth yn secret agent yn Ffrainc. Clywais lawer am y ddau pan oeddwn yn blentyn. Roedd fy llysdad hefyd yn swyddog yn y Royal Artillery ac roedd yn meddwl am lwyddiant y plant fel rank! Yna, fe fûm mewn ysgol fonedd lle roedd pwyslais mawr ar lwyddo. Wnes i ddim disgleirio yn academaidd, ond roeddwn yn dda ar y cae rygbi ac yn dda am berswadio eraill i wneud be roeddwn i eisiau iddynt ei wneud.

HS  Beth oedd tu ôl i hynny – carisma?

MM   Wn i ddim. Rhywbeth digon afiach, mae’n siŵr, ac mae’n well gen i beidio â sôn am y cyfnod hwnnw. Roedd yn cael ei alw yn ‘arweinyddiaeth’, mae’n siŵr, ac roedd brownie points am fod yn berson felly. Heddiw fe fyddwn yn cael fy ngalw’n ‘manipulative so and so’. Beth bynnag, fe enillais ysgoloriaeth y Fyddin i Sandhurst a’r hyder i gredu y gallwn fod yn field marshal erbyn y byddwn yn 22ain!

HS  A fyddech wedi llwyddo fel milwr?

MM  O, byddwn.

HS  Ond pam gadael ar ôl blwyddyn yn unig?

MM  Cyfarfod Clare, a ddaeth yn wraig i mi. Hi oedd y cyntaf i ofyn i mi, ‘Pam wyt ti’n gwneud hyn?’ A pho fwyaf yr oeddwn yn meddwl am y peth, roeddwn yn cwestiynu mwy. Yna, fe ddaeth fy ‘ffordd Damascus’. Roeddwn ar ymarfer mewn eira yn rhywle. Y ‘gelyn’ oedd yr Argyll and Sutherland Highlanders a oedd yn casáu Saeson a swyddogion y fyddin, ac roeddynt yn canu caneuon bygythiol, os nad hiliol, ar draws tir neb, gan rybuddio beth fyddai’n digwydd petaent yn ein dal. Gêm ydoedd, wrth gwrs – herio, ond roedd yn codi ofn hefyd. Ac fe gofiaf eistedd yn y ffos ryfel ffug honno a chofio Nadolig 1914 a’r milwyr Almaenig a Phrydeinig yn cyfnewid carolau, ac yn creu heddwch rhyngddynt. Fe sylweddolais mai dyna’r hoffwn fod yn ei wneud. Bu Clare a minnau’n siarad llawer am y peth  … ac yna, aeth Clare yn feichiog. Roeddwn yn 19 oed yn priodi yn 1963, ac roedd Clare ddwy flynedd yn hŷn na mi. Doedd rhieni’r naill na’r llall ohonom yn hapus, wrth gwrs. Ond roedden ni wrth ein bodd! Dyna pryd yr euthum i King’s, a gwneud fawr ddim yno … ac yn y diwedd fy nghael fy hun yn athro, er nad oeddwn wedi cael hyfforddiant. Ond roeddwn yn mwynhau dysgu plant ac roedd rhai’n mynnu dweud fy mod fel petawn wedi fy ngeni i fod yn athro.

HS  Mewn llythyr a anfonwyd gennych at Clare ar ôl eich dyweddïad rydych yn sôn am ’wneud ein gorau i gyflawni ein galwad’. A oedd gennych ymdeimlad o alwad?

MM  Efallai fod hynny wedi dod o ochr fy mam. Roedd ei theulu’n sosialwyr Cristnogol ac yn gyfeillion i George Bernard Shaw. Roedd ei mam yn Gristion, yn dilyn Iesu ym mhob ffordd, ac roedd ei thad yn pregethu. Roedd darlun Piero della Francesca o’r Crist Atgyfodedig yn yr ystafell fwyta ac roedd gras bwyd yn cael ei offrymu bob amser. Roedd fy mam wedi dod ag anfri arni ei hun (a’r teulu!) oherwydd fe ddaeth fy nhad o’r rhyfel a gweld dyn arall yn y tŷ! Bu ysgariad, a phrin y cofiaf fy nhad gan i mi gael fy magu gan fy llysdad. Bu’r sgandal hwnnw’n fodd o ddyfnhau’r angen a’r gred yn Mam fod angen gwneud rhywbeth gwerthfawr  mewn bywyd. Yn ogystal â hynny, roedd Clare o deulu o Grynwyr. Roedd yn ferch i Allen Lane, a ddechreuodd lyfrau Penguin ac yn un o’r bobl brin hynny a wnaeth arian drwy wneud daioni, sef dod â llenyddiaeth yn rhad i filiynau  o bobl. Roeddynt yn gyfoethog, ond heb arlliw o ariangarwch. Roedd hynny’n fwy gwir am Clare na neb.

HS  Mae’n ymddangos eich bod yn  dduwiol yn y blynyddoedd cynnar, ond caf yr argraff nad yw ‘crefydd gyfundrefnol’ yn golygu dim i chi erbyn hyn. Ond eto, mae gennych ymdeimlad o ‘Ragluniaeth’ a pharch mawr at Iesu fel person. Ydi hynny’n wir?

MM  Mae gen i lawer mwy na pharch at Iesu. Fe’i gwelaf fel un o’r bobl ddoethaf fu ar y ddaear. Nid yw’r gwyrthiol yn yr hanes amdano’n golygu llawer i mi – ond rwyf yn caru’r storïau – ac mae ei athrylith a’i adnabyddiaeth o’r natur ddynol yn fy argyhoeddi’n llwyr. Wrth gwrs, cefais fy magu yng nghysgod tŵr Eglwys Caergaint, ac fe fûm yn canu yn y côr …

HS  … ac fel capten yr ysgol, roedd gennych allwedd i’r eglwys gadeiriol …

MM  … ac mae’r cyfoeth diwylliannol ac ysbrydol yn rhan o’m hetifeddiaeth. Mae gen i obaith am fywyd tragwyddol, ond does gen i ddim ffydd gadarn yn y bywyd tragwyddol hwnnw. Fe fyddaf yn meddwl weithiau, wrth fynd yn hŷn, fy mod eisiau mwy o’r ffydd gadarn honno, ond rwy’n ei gweld yn anodd. Rwy’n gweld y cyfraniad mawr mae crefydd gyfundrefnol wedi’i wneud drwy’r byd – roedd Charles Wesley ymysg fy hynafiaid – ond yn gweld hefyd y drwg mae crefydd wedi’i wneud, ddoe a heddiw. Ac fe wn nad dyna oedd ym meddwl Iesu, wrth gwrs. Po hynaf yr wyf, mae’n ymddangos fod yr amser a dreulir yn dadlau a thrafod pa litwgri i’w ddefnyddio a’r cyfoeth sydd wedi’i gasglu dros ganrifoedd yn fy anesmwytho, fel y byddai wedi anesmwytho Iesu. Fe wyddom beth a wnaeth pan welodd y cyfnewidwyr arian yn y deml. Yr hyn yr wyf yn ei ddweud, mae’n debyg, yw fy mod yn gredwr gobeithiol – aspiring believer – ac wedi bod felly erioed. Pan fyddaf yn cyfarfod rhywun sy’n credu – os nad yw’n rhagfarnllyd – fe fyddaf yn teimlo’n eiddigeddus. Rwy’n edmygu’r ffaith eu bod wedi cyrraedd at feddwl clir nad wyf fi wedi’i wneud. Rwy’n teimlo’n euog am hynny.

 

HS  Yn 1975 fe symudoch chi o Gaint i ben draw Dyfnaint a sefydlu’r elusen Farms for City Children. Ai gweledigaeth Clare oedd honno?

MM  Do, wir. Roeddem ein dau’n athrawon ac yn gweld fod y system addysg yn hyrwyddo llwyddiant o flaen popeth arall, ac yn gadael methiant a dieithrwch ar gyfer y rhai na fyddai’n llwyddo. Ond o gael plant yn ifanc, fe ellir newid eu hagwedd atynt eu hunain o fethiant (neu fethu llwyddo) i hunan-werth, ymdeimlad o berthyn ac o fedru bod yn hyderus yn y byd o’u cwmpas … Gyda’r arian a gawsom yn ewyllys tad Clare, aethom ati i brynu tŷ gweddol o faint, dod i gytundeb gyda ffermwr lleol a dod â phlant, gyda’u hathrawon, o’r dinasoedd, i dreulio amser mewn awyrgylch hollol wahanol. Bu’n llwyddiannus iawn … ac erbyn hyn mae gennym dair fferm mewn gwahanol ardaloedd … Nod addysg yw cynnig profiadau i gadw clustiau a llygaid yn agored i’r byd o’n cwmpas a chadw’r meddwl ar agor i ddeffro’r dychymyg. Yn y Farms for City Children mae i ryfeddod a syndod le canolog, a hwnnw’n brofiad corfforol, emosiynol a meddyliol. Nid ‘bod ar fferm’ ydyw yn unig, wrth gwrs, ond bod mewn perthynas â’r gymuned, y pentref, y tirlun, yr hanes a.y.b. Dyma’r addysg a wna iddynt deimlo’u bod yn rhan o gylchdro’r tymhorau a’r canrifoedd a’r cenedlaethau.

HS  Rhaid i ni symud ymlaen i drafod eich llyfrau.

MM  Oes rhaid? Mae hyn yn llawer pwysicach. Dyma, o bell ffordd, ein stori orau. 

HS  Rydych wedi dweud eich bod yn ysgrifennu, nid gyda’r darllenwyr mewn golwg, ond yn ysgrifennu ‘gyda’r plentyn ynof, a’r plentyn ydwyf o hyd’.

MM  Cywir.

HS  Ac Iesu a ddywedodd, os na fyddwn yn cael ein troi i fod fel plentyn, ni welwn deyrnas nefoedd? 

MM  Ie.

HS  Felly, beth yw’r gwahaniaeth rhwng bod ‘fel plentyn’ a bod yn ‘blentynnaidd’, a pha bethau, yn ôl Paul, a ddylem ‘roi hebio’?

MM  Un o’r pethau gwaethaf ddywedodd Paul. Rhaid i mi gael gair efo fo, pan (os) af i fyny yna. Mae’r gair ‘plentynnaidd’ yma’n cael ei ddefnyddio pan ydyn ni am ddweud fod rhywun yn ‘anaeddfed’. Mae hynny’n aml yn dibrisio’r hyn sy’n rhan o blentyndod: rhyfeddod, hwyl a sbri, hyd yn oed elfen o fod yn angfyfrifol. Mae ‘plentynnaidd’ yn air ofnadwy. I mi, y plentyn ynof yw fy enaid. O’i golli, mae’n golli enaid. Ac un o’r pethau gwaethaf am heneiddio yn ein cymdeithas ni – nid wyf yn siarad yn ysgafn ac mae’n rhaid galw Paul i gyfrif, yn rhannol, beth bynnag – yw’r gred fod mynd yn hŷn yn golygu gadael plentyndod er mwyn dod yn oedolyn. Mewn gwirionedd, mae’r plentyn ynom yn gwbwl ganolog i fod yn oedolyn.

HS  Rydych wedi gwneud y sylw fod oedolion yn tueddu i ddod o berfformaid o’r War Horse yn eu dagrau, ond nid felly’r plant. A yw oedolion felly yn fwy sensitif neu a yw plant yn fwy resilient?

MM  Mae’r ymateb wedi bod yn ddiddorol a phob cenhedlaeth yn ymateb â’u profiadau eu hunain. Plentyn 8 oed: roeddwn yn poeni beth oedd yn mynd i ddigwydd i’r ceffyl ac roeddwn  eisiau ei weld yn cael gweld ei ffrind eto. Dyna’r cwbwl oedd yn bwysig i mi. Ac mae’r holl fusnes rhyfel yma’n ofnadwy. Dyna lefel y plentyn, ac mae hynny’n iawn ac yn ddigon.

Y rhieni wedyn, yn fwy ymwybodol o ryfeloedd heddiw a beth mae hynny’n ei wneud i bobl yn bersonol, yn deuluol ac yn gymunedol, yn ogystal ag ymdeimlad o’r hyn a welant yn y ceffyl – y dioddefwr diniwed. Maen nhw’n medru byw drwy ddioddefaint y plentyn a’r ceffyl.

Ac yna, fy nghenhedlaeth i, nad ydym wedi byw drwy ryfel ond sy’n adnabod pobl felly ac yn gwybod mor ddychrynllyd y gall agwedd oedolion fod tuag at ei gilydd.

Ond ym mhob ymateb mae symud tuag at obaith. Ar ôl un perfformiad dywedodd un wraig wrthyf, ’Dyma’r anthem orau i heddwch a glywais erioed.’ Ac efallai fod hynny’n wir am bawb: yr hiraeth am heddwch. Hiraethu byd-eang am heddwch. Cyflwyniad neu sioe am gymod yw War Horse ac fe fyddaf yn meddwl weithiau ei bod wedi dod ar yr amser iawn.

HS  Ym mhle y gwelwch y gobaith mwyaf?

MM  Mewn plant. Ysgrifennais stori – dameg – yn 2009 o’r enw ‘The kites are flying’ am blant yn Israel a Phalesteina yn dod i adnabod ei gilydd wrth hedfan barcutiaid dros y mur sy’n eu gwahanu. Yr unig obaith sydd gennym yw gobaith yn y genhedlaeth newydd. Ond rwy’n obeithiol.

 

Henaint ni ddaw ei hunan?

Henaint, ni ddaw ei hunan?

Methwsela
[CC BY-SA 2.0] (Robert Scarth, Flickr Commons)

Bendigedig fyddo Duw, rwy’n mynd yn hen! Henaint sydd hardd. Heneiddio sydd dda.
Rhydwen Williams

Yn y bôn, does dim datrys ar broblemau mwyaf a phwysicaf bywyd. Fedrwn ni mo’u datrys, dim ond tyfu’r tu hwnt iddyn nhw.

Mae’r hyn sy’n uchelgais normal i berson ifanc yn troi’n dramgwydd niwrotig mewn henaint.

Ni ellir byw prynhawn ein bywyd yn ôl rhaglen bore oes; oherwydd fe fydd pethau pwysig bore oes o lai o bwys yn yr hwyr, a beth oedd yn wir ym more oes wedi troi’n gelwydd erbyn yr hwyr.
Carl Jung

Nid yw person doeth byth yn dymuno bod yn iau.
Dihareb un o bobloedd cynhenid America

Gwell gennym gael ein dinistrio na chael ein newid. Gwell gennym farw mewn arswyd na dringo croes y presennol a chael ein dadrithio
W.H. Auden

Ni all tywyllwch…

Martin Luther King
Gan Trikosko, Marion S. [Public domain
Llyfrgell y Gyngres],
trwy Wikimedia Commons

Ni all tywyllwch fwrw allan dywyllwch;
Dim ond goleuni all wneud hynny.
Ni all casineb fwrw allan gasineb;
Dim ond cariad all wneud hynny.

 Martin Luther King

Pytiau

PYTIAU

Dysgwch ddawnsio, bobl; neu fydd yr angylion yn y nefoedd ddim yn gwybod beth i’w wneud â chi.
Awstin Sant

Gwneud
Crefydd yn rhesymol,
Trais yn annychmygol,
Heddwch yn bosibilrwydd.

‘Os nad ydym yn “bobl yr ymylon” ein hunain mewn rhyw ffordd, mae angen i ni berthyn i ryw grŵp o bobl sydd ar “yr ymylon” er mwyn cael golwg goleuedig yr efengyl a chael troedigaeth at dosturi.’

http://www.theologyandpeace

 

Duw Llaw-chwith

Duw Llaw-chwith –

Seiliedig ar waith Richard Rohr

Mae’r ymdrech i gadw ein bywyd mewnol ac allanol yn un bywyd yn golygu edrych ar ddwy ochr bywyd yn onest a chlir. Fe ddylem wynebu llawenydd a rhyfeddod bywyd yn ogystal â’i boen, ei anghyfiawnder a’i hurtrwydd. Fy enw i ar ochr dywyll bywyd yw ‘llaw chwith Duw’ neu ‘dirgelwch poenus pethau’. Cefais sawl cyfarfyddiad â chanser, a dyna i chi enghraifft dda. Roeddwn i wedi pregethu sawl gwaith ar y pwnc ond dair gwaith fe estynnodd allan ac ennill fy sylw.

Dyna sut mae pethau’n digwydd. Mae bywyd yn mynd yn ei flaen yn dwt, ac yna, yn ddirybudd ac enbyd, daw hergwd o ‘law chwith Duw’. Wrth i’r blynyddoedd grynhoi mae’r boen enbyd, yr anghyfiawnder a’r hurtrwydd yn dod yn eglur-eglurach, yn cyffwrdd â byd cyfan a bywydau pawb o’ch cwmpas. Allwch chi ddim gwneud unrhyw synnwyr rhesymol na chysurus ohono ac fe gewch eich gyrru ’nôl i ‘ystafell ddirgel’, cartref gras yn y galon lle mae’r paradocs yn cael ei gynnal mewn cariad. Yr unig ddewis arall yw siniciaeth.

Mae’n dwyn i’m cof gerdd brydferth gan Rilke, y bardd o’r Almaen:

Mae Duw’n llefaru wrth bob un ohonom wrth ein gwneud
Ac yna’n mae’n ddistaw gyd-gerdded â ni allan o’r nos.
Dyma’r geiriau a glywn yn aneglur:
Yr wyt ti, o’th anfon y tu hwnt i dy gofio
Yn dychwelyd i ben draw dy hiraeth.
Ymgorffora Fi.
Llewyrcha’n fflam
A chreu cysgodion enfawr y gallaf symud ynddynt.
Gad i bopeth ddigwydd i ti: harddwch ac arswyd.
Dal ati. Nid peth terfynol yw teimlad.
Paid â gadael i ti dy hun fy ngholli i.
Gerllaw mae’r fro a enwant yn fywyd.
Fe fyddi di’n ei adnabod wrth ei ddifrifoldeb.
Rho dy law imi.

Mae gweithredu effeithiol a gwirioneddol drugarog yn golygu dwys ystyried dwy ochr bywyd. Bydd yr ystyriaeth honno yn canolbwyntio ar Dduw; bydd yn fentrus ac yn fyfyrgar. O’r fan honno cei dy yrru ’mlaen i wneud rhywbeth am yr holl boen, a hynny yn ôl y ddawn a roddwyd i ti. Os nad yw dy fywyd ysbrydol yn dy arwain at weithredu penodol mewn gofal neu wasanaeth, mae gen ti bob rheswm i’w amau.

(Yr oedd Sant John Cassian (c.360–435) yn galw’r cyflwr yma yn pax perniciosa – ‘tangnefedd peryglus’.) Tra gwahanol i’r Pax Romana – yr heddwch Rhufeinig a seiliwyd ar drais ac anghyfiawnder, ac yn dynesu at y syniad o Pax Christi – Tangnefedd Crist sy’n llifo allan o gariad, yn arwain at gariad sy’n llifo tuag at y byd. Llifeirio yw natur cariad.

Sant John Cassian
(Wiki Commons [Parth Cyhoeddus])

 

Cam 12 yr AA

 Gweithredu’r egwyddorion a chario’r neges i eraill

Wynford Ellis Owen yn dwyn ei gyfres ar 12 cam yr AA i ben

Mae cyflawni unrhyw beth gwerth chweil mewn bywyd yn golygu cyfnodau o ymdrech ddiflino cyn y gorfoledd; ni ddaw’r fuddugoliaeth heb yr ymlafnio. Mae pob nod sy’n cynnig inni bleser o’i gyflawni yn golygu cyfnodau o boen ar y ffordd. A gallwn fod yn sicr o un peth: bod ein datblygiad ni fel unigolion yn dibynnu i raddau helaeth ar y modd yr ydym yn ymgodymu â’r profiadau anodd hynny.

Heddiw, felly, gallwn ddathlu: rydym ar y ffordd i fuddugoliaeth. Mae pob un Cam rydym wedi’i droedio hyd yma yn arwain at y nod rydym wedi’i ddewis. Yn bersonol, y nod a osodais i fi fy hunan ar ddechrau’r daith oedd cyrraedd a chynnal sobrwydd. Ac mae cyflawni hynny wedi bod yn wyrth – rhywbeth na allwn fod wedi ei gyflawni heb gymorth fy Nuw. Erbyn hyn, mae gen i’r gallu i fyw gydag urddas, i garu fy hun ac eraill, i chwerthin, ac i ddarganfod llawenydd a phrydferthwch yn fy amgylchfyd. Dyna ran o ffrwyth y profiad ysbrydol ddaeth i’m rhan ym 1992 pan sylweddolais fy angen am help, ac sydd wedi parhau i esblygu a chyfoethogi fy mywyd byth ers hynny. Y term Saesneg y byddaf yn ei ddefnyddio i egluro’r profiad yw ‘detached indifference’ – rhyw ddihidrwydd iach i negeseuon celwyddog yr ego ac ymdrechion y byd a’i bethau i’m cael yn ysglyfaeth i ddau fath o rith: Rhith Diffyg a Rhith Llwyddiant.

Rhith Diffyg

Mae alcohol, cyffuriau, neu beth bynnag yw ein hymddygiad o ddewis, yn rhywbeth a ddefnyddiwn i gyrraedd rhyw nod. Y nod hwnnw, fel a amlinellwyd i ni gan gymdeithas, yw’r syniad o gwblhad, hunanfoddhad a diwedd i deimladau o wacter neu fod yn anghyflawn.

Yn anffodus, mewn cymdeithas lle mae cystadleuaeth yn chwarae rhan mor bwysig, a phobl yn cymharu pawb a phopeth â’i gilydd yn ddi-ben-draw, mae’r syniad hwn o hunanfoddhad yn anodd ei gyflawni. Rydyn ni’n byw mewn cymdeithas sy’n credu bod diffyg ym mhob un ohonom – p’un ai diffyg harddwch corfforol, diffyg cyfoeth, deallusrwydd, doethineb, tawelwch, apêl rywiol neu ddiffyg llwyddiant. Wedi ceisio delio â’r ‘diffyg’ hwn trwy brynu cynnyrch sydd wedi’i lunio i’w ddatrys, cyflwynir ‘diffyg’ arall, sef teimlad dwfn o ddiffyg cyflawniad neu ddiffyg pwrpas. Mae hyn yn ein harwain ar hyd llwybr materoliaeth gan gau allan y gwerthoedd ysbrydol. Gall y diflastod sy’n deillio o’r teimlad hwn o fod yn ddiffygiol arwain at awydd i ddianc, a throi at ‘feddyginiaeth’ i wneud hynny.

Rhith Llwyddiant

Mae Rhith Llwyddiant yn un arall o syniadau ‘hollbwysig’ ein hoes. Mae’r teledu, y radio a’r rhyngrwyd yn cynnig deiet cyson o storïau a delweddau sy’n gwthio un neges graidd ar gyfer ein hoes – er mwyn llwyddo a ‘dod ymlaen yn y byd’, rhaid ‘gofalu amdana i fy hunan o flaen pawb arall’, a hyd yn oed bod yn barod i roi cyllell yng nghefn rhywun er mwyn llwyddo yn hynny o beth.

Mae llwyddiant hefyd yn golygu datblygu elfen narsisïaidd o hunanbwysigrwydd, ac mae egomania gwenwynig yn cael ei godi i lefel rhinwedd gyhoeddus. Anaml y mae llwyddiant yn cael ei weld fel rhywbeth cyfystyr â charedigrwydd, tynerwch, haelioni neu amynedd.

Canlyniad hyn oll yw bod pob un ohonom sy’n awyddus i lwyddo mewn bywyd yn cael ein bwydo â rhith, syniadau ffals, sy’n annog ymddygiad sy’n ein dieithrio oddi wrth ein gilydd. (Llawlyfr Hyfforddi Stafell Fyw Caerdydd, 2014)

Sut i ddelio â’r rhithiau hyn?

Yr unig ffordd i ymddihatru oddi wrth y rhithiau hyn yw profi ‘deffroad ysbrydol’. Mae natur y deffroad ysbrydol hwnnw yn beth personol a hollol unigolyddol – er bod tebygrwydd rhyfeddol rhwng ein profiadau. Yn fy achos i, Iesu wnaeth orchfygu; Iesu wnaeth fy achub – ‘yn wyneb pob amheuaeth, pob pechod, pob drygioni’. Rhyfeddod y 12 Cam yw y gall y ‘gorchfygwr’ a’r ‘achubwr’ fod o’ch dewis a’ch deall chi eich hun.

Bron yn ddieithriad, sut bynnag, disgrifir y profiad fel un o deimlo’n rhydd, yn fwy siriol y rhan fwyaf o’r amser, gyda’r duedd gynyddol i ofalu mwy am eraill, a’r gallu i gamu tu allan i ni’n hunain a chyfranogi’n llawn mewn bywyd. Ymddengys hyn fel rhyfeddod i’r rhai sy’n gwylio hyn yn digwydd o’r tu allan. Mae’r bobl oedd yn ein hadnabod pan oeddem yng nghrafangau’r ddibyniaeth, yn oriog a blin, yn dweud ein bod yn bobl wahanol. Yn wir, mae llawer ohonom yn teimlo fel ein bod wedi’n geni i fywyd newydd. Gwyddom, sut bynnag, am bwysigrwydd peidio anghofio am yr hyn oeddem, felly ni wnawn unrhyw ymdrech i anghofio, ond mae’r ffordd yr oeddem yn byw a’r hyn oedd yn ein hysbrydoli bryd hynny yn ymddangos yn fwy rhyfedd ac annhebygol gyda phob diwrnod newydd o sobrwydd.

O’i feithrin, nid tân siafins o beth yw’r deffroad ysbrydol hwn ac nid dros nos y digwyddodd y newid chwaith. Digwyddodd yn araf a graddol wrth inni weithio’r Camau i orau ein gallu. Deffrôdd ein hysbryd gam wrth gam. Fwyfwy daeth yn haws inni ymarfer egwyddorion ysbrydol ac yn gynyddol anoddach inni weithredu yn ôl ein gwendidau cymeriad. Er gwaethaf y profiadau dwys, ‘damasgaidd’, mae rhai ohonom wedi’u cael, rydym i gyd, yn araf a gofalus, wedi adeiladu perthynas gyda Phŵer mwy na ni’n hunain. Mae’r Pŵer hwn – boed yn rym tu allan i ni’n hunain neu’n deillio o’n natur orau, ddyrchafedig – ar gael i’w ddefnyddio pan fyddwn ei angen. Mae’n cyfeirio ein gweithredoedd ac yn ysbrydoli ein taith wrth i’n hadferiad fynd rhagddo a pharhau i dyfu a dwysáu.

 

Clyfrwch dibyniaeth – y ‘salwch sanctaidd’

A dyma’r amser i dynnu sylw at gyfrinach diawledigrwydd a chlyfrwch dibyniaeth. Oherwydd mae pob dibyniaeth – boed i alcohol, cyffuriau, bwyd, rhyw, gamblo, hunan-niweidio, a.y.b. – yn ymdebygu i’r profiad ysbrydol go iawn hwn rwyf newydd ei ddisgrifio. Ond mae un gwahaniaeth hollbwysig, sef bod y naill yn ateb dros-dro tra bod y llall yn para.

Fy enw arall i ar ddibyniaeth yw’r ‘salwch sanctaidd’ am yr union reswm hwn. Mae’n rhoi i’r dioddefwr ddihangfa o ofalon a gofidiau’r byd gan gynnig iddo loches dros dro – a thros dro yn unig – rhag stormydd geirwon bywyd, ei dreialon, ei ddisgwyliadau annynol a’i sialensau gormesol; yn fwy na hynny, mae’n cynnig iddo ddihangfa o anwybod pob yfory a’i ofnau affwysol, ac o’r ofn mwyaf un, ofn marwolaeth. Mae’n cynnig iddo’r gallu i ymddihatru, fel petai, oddi wrthynt i gyd am ysbaid – gan roi iddo hefyd ei ‘hunaniaeth’: mae’n diffinio pwy ydyw. Gweld ei apêl? Gallech yn hawdd ddadlau mai chwilio am ‘Deyrnas Nefoedd’ mae pob adict yn y bôn, oherwydd onid dyna mae’n ei chwenychu mewn gwirionedd – yr undod tragwyddol a dihangfa oddi wrth yr hunan? Y gallu i fyw bywyd â’i holl galon eto, i’w ddatgysylltu ei hun o ganlyniadau ei ymddygiad? Y drafferth yw mai tu fewn i chi mae canfod Teyrnas Nefoedd, tra bod pob adict yn chwilio amdano ar y tu allan.

Trafferth arall, wrth gwrs, yw bod yr ysbaid o ddihanfa yn mynd yn fyrrach ac yn fyrrach gyda phob ymdrech newydd i ddianc rhag yr hunan. Yn y diwedd, mae’r cyffur neu’r ymddygiad niweidiol yn gwrthod ‘gweithio’ – a dyna pryd mae’r adict fel pe bai ar fôr tymhestlog heb hwyl, nac angor, na balast na chapten i hwylio’i long fechan i harbwr diogel; caiff ei daflu o don i don yn ddidrugaredd ac mae ei dynged yng nghrafangau grymoedd niweidiol tu allan iddo’i hun, grymoedd sy’n llawer, llawer mwy pwerus nag ef ei hun. Dylai pob un sy’n amau bodolaeth Uffern holi ambell adict i gael clywed sut brofiad ydy byw yno! Oherwydd dyma’n bendifaddau beth yw profi Uffern ar y ddaear.

Cario’r neges i eraill

A dyna’r ‘neges’ yng Ngham 12 y gofynnir inni ei chario i’r adict – sef ‘na all yr un pŵer meidrol ein harbed o’n dibyniaeth’. Problem ysbrydol ydyw, felly, a phroblem sy’n mynnu datrysiad ysbrydol. Dyna ogoniant y 12 Cam; maent yn cynnig i’r adict y datrysiad hwnnw. A Cham 12 yw’r goron ar y daith, fel petai. Mae’r camau eraill i gyd yn ein harwain at Gam 12 – sy’n rhoi i ni ddeffroad ysbrydol, sy’n cynnig i ni fynediad at Bŵer all wneud drosom rywbeth na fedrem ei wneud drosom ni ein hunain cyn hynny.

Ac wrth ‘gario’r neges’ mae’r adict, yn ddiarwybod iddo’i hun, yn canfod rhyfeddod arall hefyd, sef mai dim ond trwy ‘roi’ y mae ‘derbyn’ y bendithion a ddaw yn sgil adferiad. Rhoi o’r hunan yn anhunanol i rywun arall. A thrwy ddatblygu’n ‘rhoddwr’ yn hytrach nag yn ‘gymerwr’ mae’r adict yn canfod rhywbeth y mae wedi chwilio amdano drwy’i oes – cyfrinach hapusrwydd.

Ond beth arall sy’n gyfrifol fod Cam 12 mor effeithiol? Mewn un gair: hygrededd. Nid y dall yn arwain y dall sydd yma, ond pobl, yn union fel ni ein hunain, sydd wedi stopio yfed (neu ddefnyddio cyffuriau a gwahanol fathau o ymddygiad niweidiol eraill) ac sydd wedi darganfod ffordd newydd o fyw. Maent yn esiamplau i ni o sut i fyw gyda’n hamherffeithrwydd – oherwydd gweithredant hynny yn eu bywydau bob dydd. At y neges uchod felly, gallwn ychwanegu bod pobl yn gallu ac yn adfer, a thrwy hynny blannu gobaith yng nghalon y dioddefwr.

Beth yw cyfrinach y Stafell Fyw?

Mae Alcoholigion Anhysbys a llefydd fel Stafell Fyw Caerdydd wedi’u sylfaenu ar wirionedd gwahanol i’r cyffredin: mae pobl yn cysylltu â’i gilydd nid ar sail cryfderau cyffredin ond wrth rannu eu gwendidau. Trwy dderbyn eu hamherffeithrwydd maent yn gallu uniaethu â’i gilydd ac mae rhyw synnwyr o berthyn ac o agosatrwydd anghyffredin yn datblygu rhwng aelodau’r gymuned.

Pan fo dau adict yn cyfarfod, nid gweld y person arall fel gwryw neu fenyw, yn ddu neu wyn, aelod o’r Eglwys yng Nghymru neu’r Presbyteriaid, neu’n Iddew, hoyw neu beth bynnag, a wnânt, ond gweld adict arall – rhywun y mae’n rhaid estyn llaw iddo, a hynny er mwyn adferiad y naill a’r llall. Cyn belled â bod un adict yn gallu adnabod angen adict arall a bod yn barod i helpu ei gilydd, bydd Alcoholigion Anhysbys a llefydd fel Stafell Fyw Caerdydd yn goroesi ac yn parhau i gael eu caru a’u parchu.

I gloi

Cariad diamod, anhunanoldeb a dyfalbarhad yw nodweddion ysbrydol y Cam olaf hwn. Mae’r rhain yn nodweddion y mae’n rhaid i ni eu hymarfer drosodd a throsodd am weddill ein bywyd – heb fyth anghofio mai bodau amherffaith ydyn ni o hyd yn y bôn.

Ydy, mae cyrraedd y Cam hwn yn destun dathlu, fel y dywedwyd ar y dechrau, oherwydd mae’r fuddugoliaeth o fewn cyrraedd. Ond cofiwn hyn – ar ôl cyfnod hir o fod ar goll a chrwydro digyfeiriad, dathlu yr ydyn ni ein bod o’r diwedd wedi dod o hyd i’r ffordd; nawr mae’n rhaid i ni ei cherdded, a hynny gyda’r gofal mwyaf am weddill ein hoes.

 

 

 

Cofleidio newid

COFLEIDIO NEWID

Yn nrama Saunders Lewis, Gymerwch chi Sigarét?, mae Marc, yr anghredadun o swyddog comiwnyddol, dan orchymyn ei feistri i saethu tad bedydd ei wraig, Iris, sy’n Gristion Catholig o argyhoeddiad. Os na fydd Marc yn ufuddhau a throi’n llofrudd, bydd Iris yn siŵr o gael ei lladd. Ond mae hi’n benderfynol na chaiff Marc ‘beryglu ei enaid’ i’w hachub hi a’r plentyn mae hi’n ei ddisgwyl. Yng ngwewyr y dewis a orfodir arno mae Marc yn protestio: ‘Mae hi’n fy ngharu fel petae tragwyddoldeb yn bod.’

Mae’r ymadrodd wedi glynu yn fy nghof am ei fod yn cyfleu’n ingol ddryswch a dicter y Marc di-ffydd yn wyneb ffydd gadarn Iris. (Ac mae angen i mi ddarllen y ddrama eto ar ôl blynyddoedd lawer er mwyn ailystyried arwyddocâd y stori. Ai stori am aberthu dyn diniwed ydyw? Ynteu stori am hunanaberth y wraig ifanc sy’n ofni cosb dragwyddol ar ei chariad?) Y peth hanfodol yw fod ffydd Iris yn golygu ei bod hi’n wahanol, a’r argyfwng yn peri i Marc newid. Mae ei hamcanion, ei gobeithion, ei hamgyffred o’i bywyd yn wahanol am ei bod yn credu yn Nuw.

Yn nhymor yr Ystwyll cawn gyfle i ystyried sut y mae galwad/gwahoddiad Duw yn Iesu yn golygu ein bod ni’n gorfod newid. Mae hi’n thema gyson yn ysgrythurau’r tymor, ac i eglwyswyr mynegir y thema yn y Colect sy’n crynhoi gweddïau’r ffyddloniaid ar ail Sul yr Ystwyll. Dyma hi yn y fersiwn diwygiedig:

Hollalluog Dduw, yng Nghrist yr wyt yn gwneud popeth yn newydd: trawsffurfia dlodi ein natur â chyfoeth dy ras, ac yn adnewyddiad ein bywydau gwna’n hysbys dy ogoniant nefol: trwy Iesu Grist dy Fab  …

 Roeddwn i’n meddwl ar y llinellau hyn pan ddaeth y newyddion trist am farw Peter Preston, cyn-olygydd y Guardian. Cefais y cyfle i’w adnabod ychydig pan oeddwn yn fyfyriwr yn dechrau gweithio ar bapur newydd y Brifysgol yn Rhydychen. Yr oedd yn seren hyderus bryd hynny, a sylwais yn y teyrngedau iddo ei fod wedi cofleidio newid – yn wir, fod ei yrfa i gyd wedi bod yn broses o reoli newid i bobl eraill a’i fod yn gyson yn calonogi pobl. Dichon fod cael polio yn blentyn a bod am ddwy flynedd mewn peiriant anadlu dur wedi datblygu ynddo ewyllys gadarnhaol a di-ildio. Unig arwydd allanol y profiad oedd ei fraich wywedig – a châi neb fyth ei helpu i roi ei gôt fawr amdano. Ychydig iawn ohonom sy’n medru dal yn gadarnhaol wrth weld pethau da’n crebachu a diflannu; mae’r mwyafrif llethol ohonom yn ochelgar iawn ynglŷn â newid ac os taw ein prif falchder yw ein bod ni ‘Yma o Hyd’, mae’r ofn yn wyneb newid yn faich ychwanegol. Peth newidiol a diflanedig ydi pob diwylliant, ac ym mhob diwylliant ceir hadau eilunaddoliaeth. Mae cerdd Waldo am ‘hen ieithoedd diflanedig’ dynol ryw yn ein pigo i’r byw. Yn wyneb tragwyddoldeb Duw beth sy o wir bwys? Sut mae caru Cymru a’r Gymraeg felly ‘fel petae tragwyddoldeb yn bod’? Sut mae ymateb i alwad Duw heb ddal ein gafael yn dynn yn ein delw ohonom ein hunain? Oherwydd ar lun a delw Duw yr ymddiriedwn i ni gael ein creu. Sut mae deall ymadrodd Iesu ei hun fod y sawl sy’n ceisio arbed ei enaid yn siŵr o’i golli, a’r sawl sy’n ei golli ei hun dros y deyrnas yn siwr o gadw’i ‘hunan’?

Yn nechrau Efengyl Ioan mae Iesu wrthi’n galw’i ddisgyblion a Philip yn perswadio Nathanael, ddigon amheus ei ymadrodd, i ddod i weld drosto’i hun. Mae croeso Iesu iddo’n gynnes, gan gydnabod dilysrwydd didwyll ei ymlyniad wrth ei Iddewiaeth. Ond dywed Iesu:

‘A wyt yn credu oherwydd i mi ddweud wrthyt fy mod wedi dy weld dan y ffigysbren? Cei weld pethau mwy na hyn. Yn wir, yn wir rwy’n dweud wrthych, cewch weld y nef wedi agor, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn.’

Ar un olwg dyma Efengyl Ioan ar ei mwyaf dryslyd. Pam addo i ddisgyblion Iesu y cânt brofiad Jacob o weld ysgol yn estyn i’r nefoedd ac angylion yn esgyn a disgyn rhwng nef a daear? Ai addewid am ailadrodd rhyw brofiad ysbrydol oedd yn hysbys i Iddew da sydd yma? Neu ddefnyddio darlun traddodiadol i gyfleu sut y mae pontio bwlch rhwng yma a Duw? Mewn oes fwy ysgrythurol ei chrebwyll byddai pobl yn gwneud y cysylltiad yn syth â phrofiad Steffan, y merthyr cyntaf (y cofiwyd amdano drannoeth y Nadolig). Wrth farw, mae yntau’n gweld y ‘nefoedd yn agored’ fel yr addawodd Iesu i Nathanael.

Yn ôl ei arfer, mae Iesu’n defnyddio iaith ac amgyffrediad y traddodiad crefyddol Iddewig gyda’i ddisgyblion. Ond nid ailadrodd profiadau y mae, gan ei fod yn tanseilio’r amgyffrediad ac yn cyfeirio at y newid sydd yn dod i bawb o ganlyniad i’w ddyfodiad, ac agosrwydd ei deyrnas. Galwedigaeth Iesu yw rhannu gweledigaeth am ffordd newydd o berthyn i’n gilydd ac i Dduw. A dydyn nhw ddim yn deall. Cofiwch am ebychiad Iesu am arafwch ei ddisgyblion, gan gynnwys Philip, i ddeall dyfnder y gwahaniaeth mae’n ei gynnig iddyn nhw. Mae’n sôn am glustiau sy’n methu clywed a llygaid sy’n methu gweld. Mae’r arafwch hwnnw wedi bod yn amlwg drwy ganrifoedd Cred yr eglwysi.

Fydd dim angen ysgol nac angylion i gael cip ar Dduw mwyach. Bydd adnabod Iesu, trigo gydag ef ac ynddo ef yn ddigon o ysgol ynddi ei hun. Iesu ei hun yw’r ysgol at Dduw.

Prin y gallai Nathanael na Philip na neb o’r lleill sylweddoli bod eu hymateb i Iesu yn mynd i olygu cymaint. Ara deg y maen nhw’n newid, ac mae eu profiad o’r Pasg yn allweddol i’r newid hwnnw. Mae’r newidiadau’n parhau yn hanes yr Eglwys Fore a chawn ddisgrifiadau ohonynt yn llyfr yr Actau. Ystyriwch dröedigaeth Paul. Mae’r stori’n un ddramatig tu hwnt, a’r duedd yw ystyried y dröedigaeth honno’n batrwm i dröedigaethau eraill. Sylwer bod Paul wedi diflannu i Arabia am dair blynedd cyn dechrau pregethu, gan adael i’r newid ynddo aeddfedu a dechrau dwyn ffrwyth cyn dechrau cyhoeddi dim i bobl eraill! (Byddai Emrys ap Iwan yn bur sychlyd am dröedigaethau sydyn a dramatig gan nodi ei bod yn berffaith hysbys nad ydi pawb sy’n cael calon newydd ddim o reidrwydd yn cael pen newydd!)

Anaml iawn y sonnir am ‘dröedigaeth’ Pedr. Ond dyna hanfod profiad Pedr gyda Cornelius, y canwriad Rufeinig, a barodd iddo newid ei feddwl am ‘aflendid’ y bwydydd traddodiadol tabŵ yn y traddodiad Iddewig. Mae Paul a Phedr yn gorfod gweld dymchwel eu hargyhoeddiadau dyfnaf a chroesawu’r trawsffurfio oedd yn digwydd iddynt.

Ydyn ni’n barod i weld dymchwel ein hunaniaethau ni ein hunain. Ai dyma un ystyr ar ‘golli enaid i’w hennill’? Mae’r chwalfa sydd ei hangen arnom yn brofiad y gwrthwynebwn yn chwyrn rhag wynebu’r boen o gael ein hailadeiladu. Sut mae croesawu’r newid ynon ni ein hunain, yn ein cymunedau, yn ein teuluoedd a’n cenedl? Pwy ydyn ni ond pobl y mae Duw’n eu galw i fodolaeth? Heb yr alwad honno dydyn ni’n ddim ond cynnyrch ein hedmygedd a’n heiddigedd ohonom ein gilydd. Yma y daw doethineb y gorffennol i’n helpu. Dyma Julian o Norwich, yr ancr a fu byw drwy ganrif enbyd y pla du a gwrthryfel y werin a’i gorthrwm a’i dilynodd: ‘Dyma ni, gnawd ac ysbryd, wedi’n gwisgo o’n corun i’n sawdl yn naioni Duw.’

Felly, ar ddechrau blwyddyn arall beth ddaw ohonom wrth ymateb i ‘ddod i weld’? Mewn man arall yn yr efengyl y mae’r disgyblion yn dwyn Groegiaid at Iesu sy’n dweud: ‘Ni a fynnem weld Iesu.’ Meddai’r Archesgob George Noakes: ‘Peidiwn ni â bod yn rhwystr iddyn nhw.’

Hollalluog Dduw, yng Nghrist yr wyt yn gwneud popeth yn newydd: trawsffurfia dlodi ein natur â chyfoeth dy ras, ac yn adnewyddiad ein bywydau gwna’n hysbys dy ogoniant nefol: trwy Iesu Grist dy Fab.

Enid R. Morgan