Cam 12 yr AA

 Gweithredu’r egwyddorion a chario’r neges i eraill

Wynford Ellis Owen yn dwyn ei gyfres ar 12 cam yr AA i ben

Mae cyflawni unrhyw beth gwerth chweil mewn bywyd yn golygu cyfnodau o ymdrech ddiflino cyn y gorfoledd; ni ddaw’r fuddugoliaeth heb yr ymlafnio. Mae pob nod sy’n cynnig inni bleser o’i gyflawni yn golygu cyfnodau o boen ar y ffordd. A gallwn fod yn sicr o un peth: bod ein datblygiad ni fel unigolion yn dibynnu i raddau helaeth ar y modd yr ydym yn ymgodymu â’r profiadau anodd hynny.

Heddiw, felly, gallwn ddathlu: rydym ar y ffordd i fuddugoliaeth. Mae pob un Cam rydym wedi’i droedio hyd yma yn arwain at y nod rydym wedi’i ddewis. Yn bersonol, y nod a osodais i fi fy hunan ar ddechrau’r daith oedd cyrraedd a chynnal sobrwydd. Ac mae cyflawni hynny wedi bod yn wyrth – rhywbeth na allwn fod wedi ei gyflawni heb gymorth fy Nuw. Erbyn hyn, mae gen i’r gallu i fyw gydag urddas, i garu fy hun ac eraill, i chwerthin, ac i ddarganfod llawenydd a phrydferthwch yn fy amgylchfyd. Dyna ran o ffrwyth y profiad ysbrydol ddaeth i’m rhan ym 1992 pan sylweddolais fy angen am help, ac sydd wedi parhau i esblygu a chyfoethogi fy mywyd byth ers hynny. Y term Saesneg y byddaf yn ei ddefnyddio i egluro’r profiad yw ‘detached indifference’ – rhyw ddihidrwydd iach i negeseuon celwyddog yr ego ac ymdrechion y byd a’i bethau i’m cael yn ysglyfaeth i ddau fath o rith: Rhith Diffyg a Rhith Llwyddiant.

Rhith Diffyg

Mae alcohol, cyffuriau, neu beth bynnag yw ein hymddygiad o ddewis, yn rhywbeth a ddefnyddiwn i gyrraedd rhyw nod. Y nod hwnnw, fel a amlinellwyd i ni gan gymdeithas, yw’r syniad o gwblhad, hunanfoddhad a diwedd i deimladau o wacter neu fod yn anghyflawn.

Yn anffodus, mewn cymdeithas lle mae cystadleuaeth yn chwarae rhan mor bwysig, a phobl yn cymharu pawb a phopeth â’i gilydd yn ddi-ben-draw, mae’r syniad hwn o hunanfoddhad yn anodd ei gyflawni. Rydyn ni’n byw mewn cymdeithas sy’n credu bod diffyg ym mhob un ohonom – p’un ai diffyg harddwch corfforol, diffyg cyfoeth, deallusrwydd, doethineb, tawelwch, apêl rywiol neu ddiffyg llwyddiant. Wedi ceisio delio â’r ‘diffyg’ hwn trwy brynu cynnyrch sydd wedi’i lunio i’w ddatrys, cyflwynir ‘diffyg’ arall, sef teimlad dwfn o ddiffyg cyflawniad neu ddiffyg pwrpas. Mae hyn yn ein harwain ar hyd llwybr materoliaeth gan gau allan y gwerthoedd ysbrydol. Gall y diflastod sy’n deillio o’r teimlad hwn o fod yn ddiffygiol arwain at awydd i ddianc, a throi at ‘feddyginiaeth’ i wneud hynny.

Rhith Llwyddiant

Mae Rhith Llwyddiant yn un arall o syniadau ‘hollbwysig’ ein hoes. Mae’r teledu, y radio a’r rhyngrwyd yn cynnig deiet cyson o storïau a delweddau sy’n gwthio un neges graidd ar gyfer ein hoes – er mwyn llwyddo a ‘dod ymlaen yn y byd’, rhaid ‘gofalu amdana i fy hunan o flaen pawb arall’, a hyd yn oed bod yn barod i roi cyllell yng nghefn rhywun er mwyn llwyddo yn hynny o beth.

Mae llwyddiant hefyd yn golygu datblygu elfen narsisïaidd o hunanbwysigrwydd, ac mae egomania gwenwynig yn cael ei godi i lefel rhinwedd gyhoeddus. Anaml y mae llwyddiant yn cael ei weld fel rhywbeth cyfystyr â charedigrwydd, tynerwch, haelioni neu amynedd.

Canlyniad hyn oll yw bod pob un ohonom sy’n awyddus i lwyddo mewn bywyd yn cael ein bwydo â rhith, syniadau ffals, sy’n annog ymddygiad sy’n ein dieithrio oddi wrth ein gilydd. (Llawlyfr Hyfforddi Stafell Fyw Caerdydd, 2014)

Sut i ddelio â’r rhithiau hyn?

Yr unig ffordd i ymddihatru oddi wrth y rhithiau hyn yw profi ‘deffroad ysbrydol’. Mae natur y deffroad ysbrydol hwnnw yn beth personol a hollol unigolyddol – er bod tebygrwydd rhyfeddol rhwng ein profiadau. Yn fy achos i, Iesu wnaeth orchfygu; Iesu wnaeth fy achub – ‘yn wyneb pob amheuaeth, pob pechod, pob drygioni’. Rhyfeddod y 12 Cam yw y gall y ‘gorchfygwr’ a’r ‘achubwr’ fod o’ch dewis a’ch deall chi eich hun.

Bron yn ddieithriad, sut bynnag, disgrifir y profiad fel un o deimlo’n rhydd, yn fwy siriol y rhan fwyaf o’r amser, gyda’r duedd gynyddol i ofalu mwy am eraill, a’r gallu i gamu tu allan i ni’n hunain a chyfranogi’n llawn mewn bywyd. Ymddengys hyn fel rhyfeddod i’r rhai sy’n gwylio hyn yn digwydd o’r tu allan. Mae’r bobl oedd yn ein hadnabod pan oeddem yng nghrafangau’r ddibyniaeth, yn oriog a blin, yn dweud ein bod yn bobl wahanol. Yn wir, mae llawer ohonom yn teimlo fel ein bod wedi’n geni i fywyd newydd. Gwyddom, sut bynnag, am bwysigrwydd peidio anghofio am yr hyn oeddem, felly ni wnawn unrhyw ymdrech i anghofio, ond mae’r ffordd yr oeddem yn byw a’r hyn oedd yn ein hysbrydoli bryd hynny yn ymddangos yn fwy rhyfedd ac annhebygol gyda phob diwrnod newydd o sobrwydd.

O’i feithrin, nid tân siafins o beth yw’r deffroad ysbrydol hwn ac nid dros nos y digwyddodd y newid chwaith. Digwyddodd yn araf a graddol wrth inni weithio’r Camau i orau ein gallu. Deffrôdd ein hysbryd gam wrth gam. Fwyfwy daeth yn haws inni ymarfer egwyddorion ysbrydol ac yn gynyddol anoddach inni weithredu yn ôl ein gwendidau cymeriad. Er gwaethaf y profiadau dwys, ‘damasgaidd’, mae rhai ohonom wedi’u cael, rydym i gyd, yn araf a gofalus, wedi adeiladu perthynas gyda Phŵer mwy na ni’n hunain. Mae’r Pŵer hwn – boed yn rym tu allan i ni’n hunain neu’n deillio o’n natur orau, ddyrchafedig – ar gael i’w ddefnyddio pan fyddwn ei angen. Mae’n cyfeirio ein gweithredoedd ac yn ysbrydoli ein taith wrth i’n hadferiad fynd rhagddo a pharhau i dyfu a dwysáu.

 

Clyfrwch dibyniaeth – y ‘salwch sanctaidd’

A dyma’r amser i dynnu sylw at gyfrinach diawledigrwydd a chlyfrwch dibyniaeth. Oherwydd mae pob dibyniaeth – boed i alcohol, cyffuriau, bwyd, rhyw, gamblo, hunan-niweidio, a.y.b. – yn ymdebygu i’r profiad ysbrydol go iawn hwn rwyf newydd ei ddisgrifio. Ond mae un gwahaniaeth hollbwysig, sef bod y naill yn ateb dros-dro tra bod y llall yn para.

Fy enw arall i ar ddibyniaeth yw’r ‘salwch sanctaidd’ am yr union reswm hwn. Mae’n rhoi i’r dioddefwr ddihangfa o ofalon a gofidiau’r byd gan gynnig iddo loches dros dro – a thros dro yn unig – rhag stormydd geirwon bywyd, ei dreialon, ei ddisgwyliadau annynol a’i sialensau gormesol; yn fwy na hynny, mae’n cynnig iddo ddihangfa o anwybod pob yfory a’i ofnau affwysol, ac o’r ofn mwyaf un, ofn marwolaeth. Mae’n cynnig iddo’r gallu i ymddihatru, fel petai, oddi wrthynt i gyd am ysbaid – gan roi iddo hefyd ei ‘hunaniaeth’: mae’n diffinio pwy ydyw. Gweld ei apêl? Gallech yn hawdd ddadlau mai chwilio am ‘Deyrnas Nefoedd’ mae pob adict yn y bôn, oherwydd onid dyna mae’n ei chwenychu mewn gwirionedd – yr undod tragwyddol a dihangfa oddi wrth yr hunan? Y gallu i fyw bywyd â’i holl galon eto, i’w ddatgysylltu ei hun o ganlyniadau ei ymddygiad? Y drafferth yw mai tu fewn i chi mae canfod Teyrnas Nefoedd, tra bod pob adict yn chwilio amdano ar y tu allan.

Trafferth arall, wrth gwrs, yw bod yr ysbaid o ddihanfa yn mynd yn fyrrach ac yn fyrrach gyda phob ymdrech newydd i ddianc rhag yr hunan. Yn y diwedd, mae’r cyffur neu’r ymddygiad niweidiol yn gwrthod ‘gweithio’ – a dyna pryd mae’r adict fel pe bai ar fôr tymhestlog heb hwyl, nac angor, na balast na chapten i hwylio’i long fechan i harbwr diogel; caiff ei daflu o don i don yn ddidrugaredd ac mae ei dynged yng nghrafangau grymoedd niweidiol tu allan iddo’i hun, grymoedd sy’n llawer, llawer mwy pwerus nag ef ei hun. Dylai pob un sy’n amau bodolaeth Uffern holi ambell adict i gael clywed sut brofiad ydy byw yno! Oherwydd dyma’n bendifaddau beth yw profi Uffern ar y ddaear.

Cario’r neges i eraill

A dyna’r ‘neges’ yng Ngham 12 y gofynnir inni ei chario i’r adict – sef ‘na all yr un pŵer meidrol ein harbed o’n dibyniaeth’. Problem ysbrydol ydyw, felly, a phroblem sy’n mynnu datrysiad ysbrydol. Dyna ogoniant y 12 Cam; maent yn cynnig i’r adict y datrysiad hwnnw. A Cham 12 yw’r goron ar y daith, fel petai. Mae’r camau eraill i gyd yn ein harwain at Gam 12 – sy’n rhoi i ni ddeffroad ysbrydol, sy’n cynnig i ni fynediad at Bŵer all wneud drosom rywbeth na fedrem ei wneud drosom ni ein hunain cyn hynny.

Ac wrth ‘gario’r neges’ mae’r adict, yn ddiarwybod iddo’i hun, yn canfod rhyfeddod arall hefyd, sef mai dim ond trwy ‘roi’ y mae ‘derbyn’ y bendithion a ddaw yn sgil adferiad. Rhoi o’r hunan yn anhunanol i rywun arall. A thrwy ddatblygu’n ‘rhoddwr’ yn hytrach nag yn ‘gymerwr’ mae’r adict yn canfod rhywbeth y mae wedi chwilio amdano drwy’i oes – cyfrinach hapusrwydd.

Ond beth arall sy’n gyfrifol fod Cam 12 mor effeithiol? Mewn un gair: hygrededd. Nid y dall yn arwain y dall sydd yma, ond pobl, yn union fel ni ein hunain, sydd wedi stopio yfed (neu ddefnyddio cyffuriau a gwahanol fathau o ymddygiad niweidiol eraill) ac sydd wedi darganfod ffordd newydd o fyw. Maent yn esiamplau i ni o sut i fyw gyda’n hamherffeithrwydd – oherwydd gweithredant hynny yn eu bywydau bob dydd. At y neges uchod felly, gallwn ychwanegu bod pobl yn gallu ac yn adfer, a thrwy hynny blannu gobaith yng nghalon y dioddefwr.

Beth yw cyfrinach y Stafell Fyw?

Mae Alcoholigion Anhysbys a llefydd fel Stafell Fyw Caerdydd wedi’u sylfaenu ar wirionedd gwahanol i’r cyffredin: mae pobl yn cysylltu â’i gilydd nid ar sail cryfderau cyffredin ond wrth rannu eu gwendidau. Trwy dderbyn eu hamherffeithrwydd maent yn gallu uniaethu â’i gilydd ac mae rhyw synnwyr o berthyn ac o agosatrwydd anghyffredin yn datblygu rhwng aelodau’r gymuned.

Pan fo dau adict yn cyfarfod, nid gweld y person arall fel gwryw neu fenyw, yn ddu neu wyn, aelod o’r Eglwys yng Nghymru neu’r Presbyteriaid, neu’n Iddew, hoyw neu beth bynnag, a wnânt, ond gweld adict arall – rhywun y mae’n rhaid estyn llaw iddo, a hynny er mwyn adferiad y naill a’r llall. Cyn belled â bod un adict yn gallu adnabod angen adict arall a bod yn barod i helpu ei gilydd, bydd Alcoholigion Anhysbys a llefydd fel Stafell Fyw Caerdydd yn goroesi ac yn parhau i gael eu caru a’u parchu.

I gloi

Cariad diamod, anhunanoldeb a dyfalbarhad yw nodweddion ysbrydol y Cam olaf hwn. Mae’r rhain yn nodweddion y mae’n rhaid i ni eu hymarfer drosodd a throsodd am weddill ein bywyd – heb fyth anghofio mai bodau amherffaith ydyn ni o hyd yn y bôn.

Ydy, mae cyrraedd y Cam hwn yn destun dathlu, fel y dywedwyd ar y dechrau, oherwydd mae’r fuddugoliaeth o fewn cyrraedd. Ond cofiwn hyn – ar ôl cyfnod hir o fod ar goll a chrwydro digyfeiriad, dathlu yr ydyn ni ein bod o’r diwedd wedi dod o hyd i’r ffordd; nawr mae’n rhaid i ni ei cherdded, a hynny gyda’r gofal mwyaf am weddill ein hoes.