Plant yn addoli

Plentyn ar goll?

John Gwilym Jones

Aeth blynyddoedd heibio ers imi weld rhyw fam, mewn oedfa, yn gorfod codi o’i chôr i fynd allan â’i babi. Mae sgrech y babi hwnnw yn atsain yn fy nghof o hyd. Yn yr un côr byddai brawd y babi, neu ei chwaer. Byddai’r teulu wedi bod yno yn gwrando, yn ôl eu harfer, yn ymyl ei gilydd ar y darlleniad, ar y weddi ac ar y bregeth. Byddai’r teulu wedi codi i ganu pob emyn, a’r rhieni’n medru canu llawer llinell heb edrych ar y llyfr emynau. Wedi’r oedfa byddai’r teulu wedi dychwelyd adre gyda’r atgofion am awr o addoli wedi eu plannu yn eu bywydau am byth. I mi erbyn heddiw, rwy’n clywed y babi yna fel sgrech hen addoliad yn trengi, addoliad mewn capel sydd bellach yn prysur fynd heibio.

Paid â phryderu am ddyfodol Cristnogaeth yng Nghymru, meddwn innau yn fy hyder ddegawdau yn ôl: mae deddf gwlad wedi sicrhau y bydd y plant yn cael Addysg Grefyddol (gyda phriflythrennau) yn yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd. Ac mae’n dda fod Cristnogaeth a Hindŵaeth a Mwslemiaeth yn cael eu cyflwyno er mwyn i’n plant ddeall mor ganolog yw crefydd ym mywyd y ddynoliaeth. Yn wir, yn y ddogfen newydd ar yr arweiniad i ysgolion defnyddir termau aruchel megis Crefydd a Gwerthoedd a Moeseg. Ydynt, y maent yn astudio Duw, ond nid oes disgwyl i’r un ysgol ddysgu neb i addoli Duw.

A dyma fi’n cael fy nghywiro ar unwaith. Os na all yr ysgol ddyddiol ddysgu’r plant i addoli, mae gennym yng Nghymru draddodiad bendigedig yr ysgol Sul. A rhaid imi gydnabod mai un o’r cymwynasau rhagorol a welsom yng Nghymru dros y canrifoedd diweddar hyn oedd ymroddiad gwirfoddol yr athrawon dawnus a gawsom yn cynnal ysgolion Sul yn ein heglwysi. Fe gofia llawer ohonom am yr hen batrwm oesol: oedfa’r bore, ysgol Sul ac oedfa’r hwyr. A byddai plant ein heglwysi yn gyfarwydd â mynd i’r tri chyfarfod.

Bellach, edwinodd yr arfer hwnnw bron yn llwyr. Sefydlwyd arfer newydd, sef cynnal yr ysgol Sul mewn rhyw fath o gyswllt rhannol gydag oedfa’r bore, a dyfeisiwyd amrywiaeth o batrymau addas mewn gwahanol ardaloedd i ddod i delerau â gweithgareddau’r plant. Erbyn hyn mae poblogrwydd chwaraeon bore Sul yn dynfa i blant o bob oed, gan gynnwys, er enghraifft, golli disgyblion oherwydd poblogrwydd rygbi, tȋm bechgyn neu dȋm merched, yn y clwb lleol. Ac o ganlyniad mae hyd yn oed bodolaeth yr ysgol Sul yn y fantol.

Yr hyn a brofodd yn ergyd farwol i addoliad yr eglwys oedd i’r drefn yna greu’r syniad mai lle’r plant oedd yr ysgol Sul ac mai lle’r oedolion oedd yr oedfa. Gwyddom am lawer o blant yn cyrraedd oedran eu derbyn yn aelodau heb eu bod yn gyfarwydd ag addoliad yn oedfa’r eglwys. Yr unig gyfarfodydd y byddent yn eu gweld fyddai oedfaon gwyliau megis y Diolchgarwch neu’r Nadolig, a hwythau’n “perfformio” ynddynt. Felly, a ddylem ddisgwyl i’r genhedlaeth ifanc droi i fabwysiadu, yn rhan o’u bywyd, elfen hollol estron iddynt hwy fel ein hoedfa a’n haddoliad traddodiadol ni?

Mae’r cwestiwn yna’n codi cwestiwn arall mwy sylfaenol: os dilyn Iesu yw hanfod ein Cristnogaeth, a yw addoli yn hanfodol i’n cenhadaeth? Os cytunwn ei fod, rhaid gofyn pwy yn union yr ydym yn ei addoli?

Byddai rhai yn ateb mai gwrthrych ein haddoliad yw Iesu’r Gwaredwr, gan dderbyn ei farw aberthol fel iachawdwriaeth i’n heneidiau er mwyn inni etifeddu bywyd tragwyddol. O dderbyn y safbwynt hwn byddai’r ffordd ymlaen yn eglur i ni: byddem yn ymgyrchu yn ein heglwysi i gynnal cyfarfodydd efengylu, gan ddarparu caneuon i gyffroi’r emosiynau, a seilio’n ffydd yn llwyr ar y Beibl fel Gair digyfnewid Duw. Ac fe allai defnyddio’r cyfryngau torfol ar y We greu hwyl diwygiad tebyg i’r hyn a welwyd yng Nghymru dros gan mlynedd yn ôl.

Petaem yn dewis y ffordd hon, mae’n debygol iawn y ceid llwyddiant llifeiriol am flynyddoedd, yn ôl patrwm y diwygiadau a fu. Byddai’r torfeydd yn dyrchafu personoliaethau, a’u dysgeidiaeth yn hawdd ac eglur. Ond yna, os dysgwyd unrhyw beth gan hanes mudiadau tebyg y canrifoedd, rwy’n ofni mai dros genhedlaeth neu ddwy yn unig y daliai’r fflamau yna i losgi.

Un dewis gwahanol yw cydnabod a chyffesu mai addoli Duw yw ein braint ni oll, a dilyn Iesu, fel athro ac arglwydd ein bywydau. Llwybr mwy heriol o lawer. Ond dyna’r llwybr a osododd yntau ei hun ar gyfer ei ddisgyblion. Ac oherwydd mai llwybr mor anodd yw’r ffordd a gymerodd efe, yr oedd gweddi yn rhan annatod a chyson o’i fywyd. Ar Dduw y dibynnai, yn nerth Duw y gweithredai, drwy arweiniad Duw y dysgai. Duw oedd y person canolog yn ei fywyd, i’r fath raddau fel y gwelai Dduw yn dad iddo. Dyna’r addoliad canolog ym mywyd Iesu. Ac i ni, ei ddilynwyr, dyna a rydd nerth yn gynhaliaeth inni, y weddi bersonol gerbron Duw.

Beth felly yw perthynas y weddi bersonol a’r oedfa? Fy ateb i yw hyn: dyna’r fan y gwelais ac y clywais i fy nheulu yn gweddïo. Dyna lle clywn i fy mam-gu yn llefaru gweddi’r Arglwydd. Dyna lle clywn fy mam yn canu “Arglwydd Iesu, dysg im gerdded / drwy y byd yn ôl dy droed.” Gweddïau dirgel a phersonol a charbwl eu geiriau, na fyddai neb ond Duw yn eu clywed, fyddai eu gweddïau, yn yr ydlan neu yn y beudy. Ond rwy’n diolch i Dduw mod i wedi cael clywed eu gweddïau yn ein côr yn y capel. Dyna un o fendithion yr addoliad cyhoeddus, ein bod yn cael clywed ein gilydd, ein cymdogion, ein cyd-aelodau a’n teulu, yn addoli Duw. Hynny yn unig a all sicrhau dyfodol ein heglwysi. Felly o’m rhan i, parhaed addoliad cyhoeddus, ar Zoom neu yn y capel, fel y bydd babanod bach, fu’n sgrechian, ryw ddiwrnod yn cael gweld siâp geiriau salm ar wefus y fam.