E-fwletin 5 Rhagfyr 2021

Tua Bethlem Dref

Mae heddiw’n ail Sul yr Adfent ac rydyn ni bellach wedi cychwyn ar y daith i Fethlehem. “Tua Bethlem dref awn yn fintai gref ac addolwn Ef”, fel dywedodd Wil Ifan yn ei garol. Ac mae’r Ficer Pritchard hefyd yn paentio darlun bywiog i ni, darlun o bererinion byrlymus, llawn egni a brwdfrydedd ar gychwyn eu taith – “Awn i Fethlem, bawb dan ganu, neidio dawnsio a difyrru…”

Mae’r darluniau hyn yn fodd i’n hatgoffa ni ein bod yn teithio drwy’r Adfent yng nghwmni pobl eraill. Nid taith unig nac unigolyddol ddylai hi fod. Fel y pererinion gynt – boed i Dŷ Ddewi, Rhufain neu Santiago – mae’r cysur a’r gefnogaeth, y gwmnïaeth a’r anogaeth rydyn ni’n medru cynnig i’n gilydd yn allweddol ar gyfer cerdded i ben y daith.

Doedd pererindota ddim bob amser heb ei heriau a’i broblemau, wrth gwrs. Ond creaduriaid cymdeithasol ‘yn ni. Ry’n ni ar ein gorau yng nghwmni ein gilydd a phan rydyn ni’n cydweithio a chyd-dynnu gyda’n gilydd – yn cymdeithasu gyda’n gilydd, yn cyd-deithio i’r un cyfeiriad at yr un nod.

Yr Adfent hwn byddwn yn teithio gyda’n teuluoedd, ein cyfeillion a’n cymdogion, mae’n siŵr. Byddwn yn harddu’n haelwydydd ac yn cynnau goleuadau i herio’r nos a chodi calonnau. Byddwn ni’n teithio gyda’n cyd-aelodau yn yr eglwys hefyd o oedfa i oedfa ac o garol i garol. A phan fo bydolrwydd masnachol y Nadolig cyfoes yn dreth, dewch i ni godi’n golygon o’r rhialtwch tymhorol  a chofio ein bod hefyd yn teithio yng nghwmni 2.5 biliwn o Gristnogion eraill ar hyd a lled y byd. Braf yw meddwl am amrywiaeth rhyfeddol y teithiau hynny – boed mewn rhew ac eira neu mewn haul trofannol – â lliw a blas amryfal draddodiadau a diwylliannau’r byd yn harddu’r teithiau.

Ond nid teithio yng nghwmni credinwyr presennol yn unig ydyn ni chwaith. Mae’r cwmwl tystion yn gwmni i ni ar hyd y daith hon hefyd. Â heddiw yn Sul y Beibl mae’n addas i ni weld y Beibl cyfan yn daith i Fethlehem. Hynny oedd gan Sachareias yn ei broffwydoliaeth ynghylch ei fab Ioan a fydd yn “… cerdded o flaen yr Arglwydd i baratoi ei lwybrau”.

A ninnau heddiw megis ar ddechrau’r daith, mae’n siŵr y dylen ni deimlo rhyw gyffro. Mae’r cyffro hwnnw yn deillio o’n gobaith ynghylch y daith – gobaith y bydd y gwmnïaeth yn un ddifyr, gobaith y cawn ni brofiadau newydd, gobaith y bydd y daith yn ein codi ni ac yn ein dyrchafu ni. Ein gobaith yw y bydd yn daith hon yn golygu y byddwn ni’n rhan o rywbeth sy’n fwy na ni ein hunain.

Mae’n bosib eich bod chi wedi cynnau cannwyll heddiw – un o ganhwyllau’r Adfent. Mae’r canhwyllau hynny yn medru goleuo’r daith i ni yn effeithiol iawn o Sul i Sul – canhwyllau gobaith, llawenydd, ffydd, tangnefedd a chariad. Ac mae angen eu llewyrch nhw hefyd ar sawl teithiwr a ffoadur sy’n chwilio am hafan ddiogel y dyddiau hyn. Gweddïwn drostynt.

A phen y daith? Wel, y preseb, wrth gwrs, lle mae baban bach diniwed yr Ymgnawdoliad – y Crëwr mewn crud – yn gorwedd yn y gwair. “Tua’r preseb awn gyda chalon lawn a phenlinio wnawn”. Deuwn ac addolwn. Pob hwyl i chi ar y daith i’r preseb yr Adfent hwn.