COP 26 – Dagrau ein sefyllfa

COP 26 – DAGRAU EIN SEFYLLFA

Adroddiad arbennig gan y Parchedig Gethin Rhys

(Mae’r erthygl hon yn rhyngweithiol: medrwch glicio ar y dolenni glas i ddarllen rhagor neu i weld fideo ar y pwnc.)

Roedd hi’n ddydd Sadwrn Tachwedd 13 2021. Fe ddylai cynhadledd hinsawdd fyd-eang COP26 yn Glasgow fod wedi gorffen y noswaith flaenorol, ond bu raid parhau am 24 awr ychwanegol i’r gwledydd ddod i gytundeb.

Roedd y rhan fwyaf o bobl fu’n gwylio yn teithio adre ac yn ceisio dilyn oriau olaf y gynhadledd ar gysylltiadau diwifr annigonol ar drenau neu fysiau. Ond roeddwn i yn Glasgow o hyd. Doedd dim modd cael mynediad i’r gynhadledd ei hun, felly roeddwn yn gwylio’r trafodaethau ar y llif byw wrth dacluso’r fflat a fenthycwyd i mi am y pythefnos.

Roedd modd i mi felly ddiweddaru fy nghydweithwyr trwy ddau grŵp Whatsapp – y naill ar gyfer cynrychiolwyr grwpiau ffydd a’r llall ar gyfer mynychwyr o Gymru.

Wrth i’r trafodaethau barhau fe ddaeth yn amlwg fod y cytundeb terfynol yn mynd i fod yn llai gwerthfawr na hyd yn oed y cytundeb drafft annigonol a gyflwynwyd yn gynt yn y gynhadledd.

Bu raid i Alok Sharma, y Cadeirydd, oedi’r trafodaethau sawl gwaith wrth i grwpiau o gynrychiolwyr grynhoi o amgylch John Kerry o’r Unol Daleithiau a Frans Timmermans o’r Undeb Ewropeaidd – y ddau chwaraewr mwyaf pwerus yno. Roedden nhw eisoes wedi sicrhau gohirio unrhyw ofyniad ar eu gwledydd nhw i gyfrannu at “golledion a difrod” a achoswyd gan eu defnydd nhw (a’n defnydd ni) o danwydd ffosil dros y ddwy ganrif a hanner diwethaf.

Trosglwyddwyd y mater hwnnw i’w drafod eto mewn pwyllgor – hen dacteg sydd, ysywaeth, yn gyfarwydd i bawb sy’n mynychu cynadleddau eglwysig hefyd!

Gyda dim arian cymorth ar gael iddynt, felly, dyma India a Tsieina yn dweud na allent gytuno  i’r geiriad a gynigiwyd yn gofyn am ddod â llosgi glo i ben ac am ddiweddu cymorthdaliadau ar gyfer tanwydd ffosil yn gyffredinol. Wedi’r cyfan, yn y gynhadledd hinsawdd gyntaf oll yn Rio de Janeiro yn 1992, fe addawodd  y gwledydd cyfoethog fynd ati gyntaf i ostwng eu hallyriadau, a chynnig cymorth i’r gwledydd tlotach ddal i fyny yn economaidd cyn iddyn nhw leihau eu hallyriadau hwythau. Dros y blynyddoedd, fe droes hynny yn darged i bob gwlad – cyfoethog neu dlawd – gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 – a dyna pam y mae Tseina yn anelu ond at 2060 ac India at 2070. Maen nhw’n cadw at yr addewid gwreiddiol y caen nhw fwy o amser a chymorth i drawsnewid.

Er mwyn achub Cytundeb Hinsawdd Glasgow  bu raid i Alok Sharma gytuno i liniaru’r geiriau – gostwng y defnydd o lo, nid ei ddileu; a chaniatáu cymorthdaliadau i brynwyr tlawd gael glo rhad i gynhesu eu tai. Cafwyd ton o siom, yn enwedig o blith y gwledydd hynny sydd dan fwyaf o fygythiad gan newid hinsawdd. ‘Chawson nhw ddim llais yn y trafodaethau hyn (cafwyd adroddiadau bod yr UDA a’r UE yn brysur eu bwlio y tu ôl i’r llenni i gadw’n dawel rhag colli’r cyfan – tra ar yr un pryd yn cyflwyno areithiau dagreuol am eu hwyrion yng ngŵydd y cyhoedd). Wrth ymddiheuro o’r gadair am yr hyn a ddigwyddodd, fe ddaeth Alok Sharma yn agos at wylo.

Pan ddanfonais i’r ddau grŵp Whatsapp eiriau cynrychiolydd Ynysoedd y Maldives, yn dweud y byddai’n cefnogi’r cytundeb “ond mae’n rhy hwyr i’r Maldives”, fe ddaeth emojis dagrau yn ôl ataf. Dywedodd un iddo fod yn wylo ers hanner awr gyda beth oedd yn digwydd. Fe droes cyffro dilyn y gynhadledd hanesyddol yn dasg fugeiliol i mi Ond mewn difrif, sut arall ond trwy wylo y medrai unrhyw un ymateb i arweinyddion byd sy’n gwybod yn iawn fod eu penderfyniadau yn tynghedu gwledydd cyfain i fynd o dan y don, ond yn penderfynu felly beth bynnag?

Yn y pythefnos cyn hynny roeddwn wedi cael digon o gyfle i wylo. Fe sicrhaodd Cymorth Cristnogol, Maint Cymru a nifer o asiantaethau eraill gyfleoedd i bobl frodorol ddod i Glasgow. Roedd yn anodd iddynt gael llwyfan yn y brif gynhadledd – dim ond gwladwriaethau sydd â’r hawl i siarad yno, ac mae imperialaeth Brydeinig ac Ewropeaidd wedi sicrhau nad oes gan yr un o’r bobloedd frodorol hyn wladwriaeth. Ond yn eglwysi Glasgow ac ar y strydoedd fe gawsant eu cyfle i arwain y protestiadau ac i adrodd eu hanes.

Mewn cyfarfod dan nawdd mudiad Cristnogol Operation Noah,  meddai Pastor Ray (yr ail o’r dde uchod), bugail Anglicanaidd gyda phobl frodorol y wlad a elwir heddiw yn Awstralia, “Fe fu ein pobl ni yn byw yn y wlad hon am 60,000 o flynyddoedd, ac yn gofalu amdani; fe fu pobl wyn yma am 200 mlynedd ac mae’r cyfan wedi ei ddifetha”. Nid gormodiaith yw hynny cofier i 3 biliwn o greaduriaid farw  yn y tanau gwyllt yno yn ystod haf 2019-20.

Gan fudiadau o Gymru y gwahoddwyd Galois Florez Pizango o bobl y Wampis  (uchod) – sydd wedi cyhoeddi ymreolaeth rhag Periw er mwyn gwarchod eu tiroedd – a Rivelino Verá Gabriel o bobl y Guarani ym Mrasil. Ar ddiwedd cyfarfod Climate Cymru (clymblaid o fudiadau y mae Cytûn yn aelod ohono) fe ofynnodd Verá am gael ein bendithio yn unol â’i draddodiad gan ei fod yn teimlo mor gyfforddus yn ein plith – teimlad prin, mae’n debyg, yn ystod y gynhadledd hon.

Doedd dim llawer o wynebau yn ddi-ddeigryn erbyn diwedd y fendith hon (llun isod).

Cefais fy syfrdanu droeon yn ystod y gynhadledd gan urddas y bobloedd hyn ymhlith pobl orllewinol sydd wedi etifeddu, ac o hyd yn elwa ar, y cyfoeth a ddaeth o ysbeilio eu tiroedd. Mae eu hymarweddiad graslon yn wers i ni gyd am sut i gyd-fyw ar y blaned fregus hon.

Yn y llun hefyd gwelir Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ac Elen, Poppy a Shenona o blith Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, a fu’n bresenoldeb huawdl a bywiog trwy gydol y gynhadledd. Yn wir, arwydd o obaith ynghanol yr holl siom oedd brwdfrydedd di-ball cynrychiolwyr ifainc o sawl gwlad. Mae’r dasg yr ydym ni, bobl hŷn y gwledydd cyfoethog, yn gosod ar eu hysgwyddau ifainc yn achos cywilydd i ni; ond mae eu parodrwydd i ysgwyddo’r maich enfawr hon yn galondid. Y peth lleiaf y gallwn ni ei wneud nawr yw wylo gyda nhw wrth iddyn nhw ystyried eu dyfodol coll. Fel y canodd unawdydd ifanc yn y côr plant isod o Loegr, “Is my future already over?”

Yr unawdydd bach hwnnw (ar y dydd Sul ynghanol y pythefnos) oedd y cyntaf i beri i mi wylo. Fe arhosais innau yn ddi-ddeigryn ar y Sadwrn olaf yna, efallai gan fy mod mor brysur yn diweddaru fy ffrindiau. Ond fe lifodd y dagrau pan fynychais oedfa fore Sul yn yr eglwys gyfagos. Roedd pob elfen yn yr oedfa (Eglwys Esgobol yr Alban) yn taro tant ac yn ysgogi ymateb:

· Roedd hi’n Sul y Cofio, a dyma gofio nid yn unig y sawl a laddwyd yn rhyfeloedd y gorffennol ond hefyd y sawl yr ydym ni wedi dewis rhyfela yn eu herbyn trwy reibio’r amgylchedd. Ys dywedodd Arlywydd Gweriniaeth Palau yn y Môr Tawel ar ail ddiwrnod y gynhadledd, “‘Run man i chi fomio ein hynysoedd yn hytrach na gwneud i ni ddioddef a gwylio ein tranc araf.” Rydym bellach yn rhyfela heb sylweddoli hynny.

· Dyma’r weddi gyffes wedyn yn ein hatgoffa “i ni bechu ar feddwl, gair a gweithred, ac yn yr hyn y methom â’i wneud” – megis cadw ein haddewidion yng nghynhadledd Rio 1992.

· Cafwyd darlleniad o Bennod 13 Efengyl Marc, lle mae Iesu yn sôn am ddiwedd y byd.

· Wedyn roedd y gyffes ffydd yn dweud ein bod yn credu yn Nuw, “creawdwr nef a daear”, yr union ddaear y mae arweinyddion byd yn methu â chytuno ei gwarchod.

· Buom yn gweddïo am anghenion enfawr ein byd yn dilyn y gynhadledd.

· Rhannwyd cynnyrch y ddaear ar ffurf bara, ond doedd dim modd rhannu’r gwin oherwydd rheolau diogelwch Covid. Roedd yr hanner cymundeb hwn yn ein hatgoffa mai hanner cynnyrch y byd yn unig yr ydym yn gadael i’r genhedlaeth nesaf.

· Yn ystod y cymun fe ganwyd Gweddi Ffransis Sant, lle bo dagrau gad im ddod â gwên … na foed im hawlio dim i mi’n y byd, ond rhoi i eraill fyddo ‘mraint o hyd.

Ymadawais â’r eglwys yn sychu fy nagrau er mwyn trafod y gynhadledd ar Bwrw Golwg ar Radio Cymru a dechrau ar fy nhaith adref. Dagrau’r sefyllfa yw bod ein byd ynghanol argyfwng na welwyd ei bath yn hanes y ddynoliaeth (er i’r deinosoriaid  wynebu rhywbeth tebyg). Ond roedd yr oedfa wedi fy atgoffa fod gennym yn ein ffydd yr adnoddau ysbrydol ac emosiynol sydd eu hangen i wynebu’r realiti hwn ac ymgodymu ag ef. Dagrau’r sefyllfa yw i ni fethu â gwneud hynny cyhyd. Ein cyfrifoldeb, os yw Cristnogaeth 21 yn mynd i deilyngu ei enw, yw helpu ein gilydd i gofio, cyffesu a deall ein cyfrifoldeb yn yr 21ain ganrif hon i Gread Duw, ac mewn cymundeb â’r Creawdwr ymdynghedu i fyw’r cyfrifoldeb hwnnw. A dim ond wedyn y bydd modd iddo “sychu pob deigryn” o’n llygaid (Datguddiad 21.4)

Mae’r Parch. Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn, a bu’n cynrychioli eglwysi Cymru yn nigwyddiadau ymylol Cynhadledd COP26.

Barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon.