E-fwletin 12 Rhagfyr 2021

Lle yn y llety?

 “Pwy bynnag sydd â meddiannau’r byd ganddo, ac yn gweld ei frawd mewn angen, ac eto’n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod, ond mewn gweithred a gwirionedd”. (1 Ioan 3:17).

Mae’n gyfnod heriol iawn o ran digartrefedd a diffyg tai fforddiadwy yng Nghymru, yn arbennig yn yr ardaloedd gwledig ar hyd y llain arfordirol gorllewinol. Ma’ ‘na gryn sylw wedi bod yn y cyfryngau ac ma’ ‘na brotestio torfol wedi bod ar risiau’n Senedd, yn ogystal ag mewn cymunedau gwledig ar hyd a lled Cymru. Pam? Wel i godi ymwybyddiaeth am yr argyfwng tai – am ddiffyg tai fforddiadwy, am dlodi rhent ac am ddigartrefedd gwledig. Ma’ ‘na bryder am ddyfodol ein cymunedau, dyfodol ein hiaith, dyfodol ein hysgolion, dyfodol ein haddoldai. Mae’n rhestr faith.

Mae teuluoedd yn gorfod gadael eu cartrefi rhent oherwydd bod y perchnogion am eu gwerthu neu eu gosod fel llety byr-dymor trwy Airbnb. Does dim modd cystadlu pan mae’r Cymry lleol yn methu fforddio prynu mewn marchnad dai agored sydd heb reolaeth. Pa obaith prynu tŷ am £300,000 gyda’r cyflog cyfartalog yng ngorllewin Cymru yn £26,000 y flwyddyn?

Cofiwch, mae yna nifer o Gymry cyfoethog yn berchen ar dai haf yn y cymunedau yma. Rhai wedi eu hetifeddu ac eraill yn ddigon cyfoethog i fedru prynu tŷ haf. Efallai bod yna berchnogion tai haf ymhlith darllenwyr Cristnogaeth 21. Synnwn i ddim!

Mae trafod ail gartrefi’n siŵr o wneud i rai Cymry deimlo’n anghysurus. Dyn ni ddim fel Cymry yn hoff o weld ein hunain fel rhan o’r broblem. Bûm yn ceisio trafod hyn yn ddiweddar gyda Chymro lleol yn fy milltir sgwâr. Ei ddadl ef oedd bod perffaith hawl gan Gymry berchen ar ail gartref oherwydd eu bod yn Gymry. Dadleuodd eu bod am gadw cyswllt â’u gwreiddiau yn y gorllewin. Dadleuodd bod eu hiraeth am fro eu mebyd yn rhoi perffaith hawl iddynt berchen ar dŷ haf!

Mae llawer o Gymry wedi gorfod gadael eu milltir sgwâr ac mae llawer wedi dewis gadael. Braf yw eu gweld yn dychwelyd. Ond da chi, peidiwch a phrynu tŷ haf. Does dim angen tŷ haf i leddfu’ch hiraeth neu i gadw cyswllt ‘da bro eich mebyd. Arhoswch mewn gwesty, arhoswch mewn gwely a brecwast. Os ydych yn fentrus ewch i glampio neu cysgu’r nos mewn carafán. Cefnogwch fusnesau lleol. Neu gwell byth, os gallwch, symudwch nôl i’r gorllewin yn llawn amser. Ond da chi, peidiwch adio at y problemau mae’n cymunedau tlawd yn eu hwynebu trwy brynu tŷ haf.

Wel, dyma ni yng nghyfnod yr Adfent. Dyma ni’n cofio am hanes un teulu bach yn methu dod o hyd i do uwch eu pennau. Ma’ na gannoedd os nad miloedd o deuluoedd yn y Gymru wledig heddiw yn wynebu’r her oesol o ddod o hyd i lety parhaol. Yn fy mhentref i mae ‘na fam a merch Gymraeg lleol ar fin gadael eu cartref oherwydd bod y perchennog am ei werthu. Oherwydd yr argyfwng tai bydd rhaid iddynt symud at y rhieni-cu.

Ar yr un pryd dwi’n digwydd adnabod chwech o Gymry Gymraeg, o Gaerdydd fel mae’n digwydd, sydd â thai haf yn yr union un ardal. Gwn i sicrwydd hefyd fod rhai ohonynt yn gapelwyr. Tybed beth fyddai eu cyfiawnhad hwythau dros gadw ail dŷ yn segur am fisoedd ar y tro tra bod teulu bach lleol yn chwilio am lety?

Os ydych yn berchen ar ail gartref, gwnewch y peth anrhydeddus. Gosodwch y tŷ ar rhent i deulu lleol. Rhowch gartref i deulu a fyddai, heblaw hynny efallai, yn gorfod gadael eu milltir sgwâr. Gosodwch ef ar rhent rhesymol fel nad oes rhaid pryderu ai talu’r rent neu dalu’r bil trydan fyddai orau. Peidiwch bod yn rhan o’r broblem. Gwnewch y peth iawn. Defnyddiwch eich cyfoeth a’ch eiddo’n gyfrifol i leihau baich eich cymydog.

Os dwi wedi pigo cydwybod un o ddarllenwyr y blog yma a bod hynny’n arwain at droi dŷ haf yn gartref parhaol byddaf wrth fy modd. Os bydd o leiaf un teulu bach yn llwyddo i gael cartref parhaol am rhent teg cyn y Nadolig dyna fyddai’r anrheg perffaith!

“Os bydd un yn dlawd ymhlith dy frodyr yn un o’th drefi yn y wlad y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei rhoi i ti, paid â chaledu dy galon na chau dy law yn ei erbyn. Yn hytrach, agor dy law yn llydan iddo, ac ar bob cyfrif rho’n fenthyg iddo ddigon ar gyfer ei angen”. (Deuteronomium 15:7-8).

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newy’ Dda.