Myfyrdod gan John Pavlovitz ar farwolaeth

Addasiad o fyfyrdod gan John Pavlovitz, yn ystyried goblygiadau ei farwolaeth

Mae Pavlovitz nawr yn flogiwr blaenllaw ac yn awdur sy’n gwneud ei orau i gynnig tystiolaeth Gristnogol i genhedlaeth yn America sydd wedi blino gydag agweddau cynyddol angharedig, arallfydol ac asgell dde eithafol Cristnogaeth ffwndamentalaidd eu gwlad. Yn ystod mis Hydref, cafodd tiwmor ei dynnu o’i ymennydd. Roedd ei flog ar farwolaeth wedi ei lunio a’i gyhoeddi ymhell cyn iddo fod yn ymwybodol o’r cancr, yn dilyn cyfres o flogiau a luniodd yn trafod galar rai blynyddoedd yn ôl. Gallwch ddilyn Pavlovitz ar Facebook, neu trwy ei flog cyson.

Ar ddiwrnod fy marwolaeth, gan John Pavlovitz (On the day I die, 2016)

Y diwrnod y byddaf yn marw bydd llawer yn digwydd.
Bydd llawer yn newid, ac mae’n debyg y bydd yn ddiwrnod prysur.

Y diwrnod y byddaf yn marw, bydd yr holl apwyntiadau pwysig sydd wedi hawlio lle pwysig yn fy nyddiadur yn cael eu gadael heb eu cyflawni.
Bydd y cynlluniau niferus nad oeddwn cweit wedi’u cwblhau yn parhau i fod heb eu cwblhau gennyf, a hynny nawr am byth.

Bydd y calendr sydd wedi rheoli cymaint o’m dyddiau nawr yn amherthnasol i mi.
Bydd yr holl bethau materol yr oeddwn yn eu hel a’u gwarchod a’u trysori yn cael eu gadael yn nwylo pobl eraill i benderfynu naill ai gofalu amdanyn nhw, neu eu taflu i’r sgip.
Bydd geiriau fy meirniaid, a fu’n gymaint o faich i mi tra oeddwn byw, yn peidio â’m brifo na llenwi fy meddwl mwyach. Ni fydd hyd yn oed un o’m beirniaid yn amharu arnaf mwyach.
Ni fydd y dadleuon yr oeddwn yn credu i mi eu hennill yma ar y ddaear o unrhyw help i mi mwyach, na’r buddugoliaethau hynny’n rhoi unrhyw foddhad i mi.

Bydd fy holl hysbysiadau Facebook, y negeseuon testun a’r galwadau sy’n pingio mor swnllyd ar fy ffôn yn mynd heb eu hateb. Bydd eu brys mawr yn gwbl ddiystyr.
Bydd fy mhryderon niferus i gyd yn cael eu gosod yn ddiogel i’r gorffennol, lle dylent fod wedi bod wastad, beth bynnag.
Bydd yr holl bryderon arwynebol am fy nghorff y bûm i wastad yn becso amdanyn nhw, maint fy mol, neu foelni fy mhen, neu’r bagiau dan fy llygaid, yn pylu’n llwyr.

Bydd y ddelwedd ohonof, yr un rwyf wedi’i saernïo mor ofalus, yr un y gweithiais mor galed i’w siapio, yn cael ei gadael i eraill ei chloriannu a’i gorffen.
Ni fydd yr enw da y gweithiais mor galed i’w gynnal yn peri llawer o bryder i mi mwyach.
Bydd yr holl bryderon bach a mawr a’m cadwodd yn effro yn yr oriau mân nawr yn gwbl ddi-rym.

Bydd y dirgelion dyfnion ac enfawr hynny am fywyd a marwolaeth a oedd yn destun chwilfrydedd mawr i mi yn cael eu hamlygu a’u datrys o’r diwedd mewn ffordd nad oedd yn bosib tra oeddwn yn fyw.

Bydd y pethau hyn i gyd yn wir ar y diwrnod y byddaf farw.

Ac eto, er y cyfan fydd yn digwydd ar y diwrnod hwnnw, bydd rhywbeth arall hefyd yn digwydd.

Y diwrnod y byddaf yn marw, bydd yr ychydig bobl sy’n wirioneddol yn fy adnabod ac yn fy ngharu yn galaru’n fawr.
Byddant yn teimlo gwacter.
Byddant yn teimlo’u bod wedi eu twyllo.
Ni fyddant yn teimlo’n barod am yr hyn sydd wedi digwydd.
Mae’n debyg y byddant yn teimlo fod rhan ohonyn nhw wedi marw hefyd.

A’r diwrnod hwnnw, yn fwy na dim yn y byd, byddan nhw yn dymuno cael mwy o amser gyda mi. Gwn hyn o brofiad y rhai yr wyf wedi eu caru ac yn dal i alaru amdanynt.

Ac felly, er fy mod yn dal yn fyw, mae angen i mi gofio’n ddyddiol fod terfyn pendant ar fy amser gyda fy nghydnabod, ac y gall yr amser hwnnw fod yn fyr, ac yn werthfawr iawn – a rhaid i mi wneud fy ngorau i beidio â gwastraffu eiliad ohono.

Rhaid i mi beidio â gwastraffu eiliadau amhrisiadwy yn poeni am yr holl bethau eraill a fydd yn digwydd ar y dydd y byddaf yn marw, oherwydd nid fy mhroblem i yw llawer o’r pethau hynny ac maen nhw tu hwnt i’m rheolaeth.

Gyfeillion, mae gan y pethau eraill hynny ffordd ryfeddol o’ch cadw rhag byw’n llawn hyd yn oed tra ydych chi’n fyw; maen nhw’n brwydro am eich sylw ac yn cystadlu am eich hamser.
Maen nhw’n gallu dwyn llawenydd a phosibiliadau’r bywyd hwn. Maent yn anweddu eich pleser a’ch gallu, ac yn eich dwyn yn ddyddiol oddi wrth y rhai sy’n eich caru chi ac am rannu eu bywyd â chi.

Peidiwch â cholli’r cyfle i ddawnsio gyda nhw tra gallwch chi. Mae’n hawdd gwastraffu cymaint o olau dydd yn y dyddiau a’r blynyddoedd cyn i chi farw.

Peidiwch â gadael i’ch bywyd gael ei ddwyn bob dydd oddi wrthych gan bethau ry’ch chi’n credu sy’n bwysig. Achos, y ffaith yw, ar y diwrnod y byddwch farw, bydd cymaint o’r pethau hynny yn gwbl ddibwys.

Byddwn. Byddwn ni i gyd farw ryw ddydd.
Ond, cyn i’r diwrnod hwnnw ddod: gadewch i ni fyw!

John Pavlovitz