E-fwletin 31 Hydref 2021

Beth yw’r cysylltiad rhwng teisen a thrên a gweledigaeth?
Dewch gyda mi ar daith y meddwl!

’Sgen i ddim i’w dweud wrth Galan Gaeaf. Anwybydder y pantomeim a goleuo cannwyll ddweda’ i.

Ond sawl un ohonom sy’n cofio mynd ar drên bach ysbrydion mewn ffair a chael ofn enbyd? Yn y foment honno, roedd yr arswyd yn real, a’r cryndod ym mêr yr esgyrn yn rhywbeth cyffyrddadwy. Ar hyn o bryd rydym yn teithio drwy gyfnod o ofid. Mae gweld dirywiad yn nifer mynychwyr ein heglwysi yn destun pryder ac mae ceisio dirnad sut mae rhwydweithio cariad Duw, mewn modd byw a ffyddiog, yn daith yr ydym yn ymrafael â hi’n barhaol erbyn hyn. Wyddoch chi mai’r gair ‘gweddi’ oedd y gair mwyaf poblogaidd ar safle chwilio’r we yn ystod mis Mawrth 2020 a bod y nifer oedd yn chwilota ystyr y gair wedi codi dros 50% o fewn mis yn ystod dechrau’r cyfnod clo? Ydy, mae’r angen am Dduw yno o’n cwmpas ac mae’n wirioneddol real.

Clywais rywun yn ddiweddar, oddi fewn i furiau capel, yn dilorni’r syniad o ail-ddechrau cwrdd gweddi. Hawdd fyddai digalonni o glywed ebychiad o’r fath a phenderfynu neidio oddi ar drên ein teithio fel capelwyr. Gallwn fod wedi dyfynnu’r gân ‘The Warning’ sydd, gyda llaw, yn ymdebygu’n agos i’r gân ysbrydol ‘The Gospel Train’, – ‘Behold your station there, Jesus has paid your fare, Let’s all engage in prayer, Be in time!’

Ond mae digon o gecru’n digwydd ymysg ein gilydd fel pobl, fel enwadau, fel cyfranwyr gwefannau cymdeithasol, i lenwi trên i ebargofiant a pwy sydd eisiau bod ar y trên hwnnw? Nid y fi.

Adnabyddir Crewe yn Sir Caer fel tref ddiwydiannol ac mae’r gweithfeydd cynnal-a-chadw trenau yno’n enwog. Ar arfbais y dref yn wreiddiol yr oedd y geiriau ‘Never Behind’, ond penderfyniad cyngor y dref yn y saithdegau oedd ei newid i ‘Always Ahead’ neu ‘Semper Contendo’ fel sydd ar yr arfbais; yn ogystal penderfynwyd ychwanegu’r geiriau ‘Semper Progrediamur’ i arfbais bwrdeistref Crewe & Nantwich sef ‘Always Progress’ neu beth am hyn:  ‘Dewch bois bach! Gadewch inni symud ymlaen!’ Ebychiad arall sydd i’w glywed yn aml.

Dilyn yr hen arfer o ymweld â beddau hynafiaid ar Ddygŵyl Eneidiau, sef yr ail o Dachwedd, wna’r ffilm animeiddiedig ‘Coco’ gan Pixar/Disney; mae’n werth ei gweld, a byddwn yn argymell teuluoedd i eistedd a’i mwynhau gyda’i gilydd. Traddodiad Catholig ydyw yn fwy na dim wrth gwrs, ond mae’n parhau gyda’n cyfeillion Ewropeaidd hyd heddiw.

Dros Glawdd Offa hefyd, ers talwm, byddai Teisennau’r Enaid yn cael eu pobi ar gyfer y cantorion hynny a arferai deithio o gwmpas yr ardal ar Noswyl yr Eneidiau yn cynnig gweddïau am y danteithion. Beth bynnag a gredwch chi ynglŷn ag eneidiau ym mhurdan neu yn y nefoedd, mae modd inni i gyd gofio a rhoi diolch am yr hyn a gyflawnwyd gan ein hynafiaid a’r modd y bu iddynt ymdrechu ymlaen yn wyneb caledi o bob math.

Beth am i ninnau ymroi, wrth i’r clociau symud nôl a’r nosau’n hir, i ymddatod ein heneidiau oddi wrth ddigalondid, i osgoi beirniadu ein gilydd, ond yn hytrach i gyd-weithio, trafod yn ddi-ofn, cyd-weddïo, ac yn bennaf oll i barhau ar y daith.

Ymlaen ar y trên gyfeillion!