E-fwletin 24 Hydref, 2021

Mae’r Pab Francis, druan, wedi ei amgylchynu â phobl sy’n arddel awdurdod y Pab ond yn brwydro yn ei erbyn. Bu’n sgwrsio gydag aelodau o’i Urdd ei hun, yr Iesuwyr, gan gyfaddef bod yna aelodau o Eglwys Rufain oedd yn deisyf i’w salwch diweddar fod yn angheuol. “Mae ar bobl ofn rhyddid,” meddai. “Maen nhw am ffoi i’r gorffennol gan feddwl bod yno ddiogelwch di-sigl”.

Beth wnaeth e? Cyfyngu ar ddefnydd o’r hen Offeren, ‘Dridentaidd’.

Ers cyfnod adnewyddiad Fatican 2 mae ffurf yr offeren wedi ei chymhwyso’n ddiwinyddol a bellach yn cael ei gweinyddu yn ieithoedd y bobl heddiw. Ond mae ‘na offeiriaid ifanc, newydd eu hordeinio, sy’n awyddus i ddefnyddio’r hen wasanaeth. Gofynnodd dau ohonyn ‘nhw i’w hesgob am ganiatâd i astudio Lladin. Dywedodd yr esgob wrthynt fod angen iddyn nhw ddysgu Sbaeneg yn gyntaf, gan fod cymaint o bobl yn eu hesgobaeth yn siarad yr iaith honno. “Wedyn” meddai “dewch nôl ata’i, ac fe ddywedai wrthoch chi faint o bobl yn eich esgobaeth sy’n siarad iaith Fietnam. A phan fyddwch chi wedi dysgu’r iaith honno dewch yn ôl ata’i am yr hawl i astudio Lladin.” Ychwanegodd bod angen ar yr offeiriaid ifanc i gadw’u traed ar y ddaear.

Mae cadw traed ar ddaear yn anodd am fod yr amgylchiadau ar hyn o bryd mor heriol, a gwawd y di-ffydd yn dibynnu ar yr hyn y gellir ei brofi’n wyddonol a materol.

Pleser felly yw darllen traethodau gan Marilynne Robinson, y nofelydd hynod o America, yn llefaru’n ddi-dderbyn-wyneb dros ei ffydd yn wyneb dirmyg y deallusion balch. Mae hi’n cymryd yn ganiataol nad ydi’r asgell dde geidwadol – a Trump pan fu’n chwifio’i Feibl o gwmpas – yn ddim ond llurguniad o’r ffydd. Yn ei chyfrol ddiweddaraf What are we doing here? (Gwasg Virago £9.99) mae hi’n herio ‘hanes’ poblogaidd America mewn ffordd ddeifiol iawn: “Beth bynnag yw ‘realiti hanes’, gwelwn pa mor bwysig yw hanes pan yw’r stori a adroddir ynddo yn ffug”.

Mae’n demtasiwn i bawb, y crefyddol a’r seciwlar eu bryd, i wrthod ail-ddehongli eu hanes a glynu wrth fytholeg sy’n cyfiawnhau eu rhagfarnau. Rydyn ni’n pigo a dewis ein ‘hanes’ i gyfiawnhau’n teyrngarwch, ein gwleidyddiaeth, ein moesau neu’n henwad.

Yn ei chyfrol ar O. M. Edwards mae Hazel Walford Davies yn dinoethi casineb O.M. at Eglwys Rufain. Ond mae propaganda Oes y Tuduriaid yn dal yn gryf yn ein bryd. Ymladd hen ddadleuon – ac roedd angen diwygio’r Babaeth yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r pymthegfed. Ond mae angen cofio mai un o sgil effeithiau rhoi rhyddid i ddehongli’r Beibl i’r bobl fu dau gan mlynedd o ryfel yn Ewrop. Bu’r casineb a enynnwyd yn wenwyn hyd ein hoes ni.

Bu Cristnogaeth yn arf yn llaw’r rhai oedd yn hapus i elwa ar feddiannu caethion. Darllener nofel ddeifiol newydd Jerry Hunter Safana.

Awn ni ddim ar ôl problemau’r Pab Francis druan, ond mae ei anawsterau ef yn ddameg i agweddau digon tebyg ymhlith Protestannaidd. Sut mae diwygio heb gynnau coelcerth o gweryl?