Argraffiadau o Santiago de Compostela, dinas y pererinion

Argraffiadau o Santiago de Compostela, dinas y pererinion

Mae hi’n ddiwedd mis Hydref 2021, ac mae arwyddion boreol bod gaeaf ar ddod i’r ardal hon o Galisia, gogledd Sbaen. Fodd bynnag, yn haul lled gynnes y prynhawn mae Santiago dan ei sang wrth i gadwyn o grwpiau bach o bererinion gyrraedd y ddinas fu’n nod iddyn nhw. Wrth eistedd o flaen y gadeirlan gwelaf fod pedwar neu bump o bobl newydd yn cyrraedd bob awr, pob un yn arddangos emosiwn – rhai’n chwerthin yn llawen, rhai’n gwenu o glust i glust ac ambell un mewn dagrau wedi’r ymdrech. Beth bynnag yr ymateb, mae maint eu tasg yn dangos yn eglur ar eu hwynebau, ac mewn ambell achos mae’n dangos ar eu traed wedi iddyn nhw ddiosg eu hesgidiau.

Mae’n braf gweld pererinion ysbrydol a cherddwyr mentrus yr unfed ganrif ar hugain yn mwynhau profiad canoloesol y Camino de Santiago, a syndod oedd clywed mai gweithgaredd diweddar fu adfer traddodiad oedd, i bob pwrpas, wedi marw. Wedi Expo mawr yn Seville ar ddechrau’r 1990au a thwf sydyn twristiaeth i Madrid a Barcelona yn y blynyddoedd wedi marwolaeth Franco, heb sôn am y pererindota gan y miliynau i’r Costas del Haul o’r 1970au ymlaen, fe sylweddolodd arweinwyr Galisia eu bod yn mynd i fod yn fythol dlawd oni bai eu bod yn ymateb i’r her a’r cyfle twristaidd. Yn 1992, cwpwl o gannoedd yn unig a gerddodd ar y Caminio de Santiago mewn blwyddyn gyfan. Yn dilyn cyhoeddiad mawr un o uwch-weinidogion Galisia am eu bwriad i adfer y Caminio yn 1993, fe gerddodd cwpwl o filoedd y llwybr. Yn y flwyddyn cyn y pandemig, fe amcangyfrifwyd i 350,000 gerdded y Camino, ac o ganlyniad mae Santiago yn ferw dan gyffro’r twristiaid. Mae hi’n fenter ddefosiynol sydd wedi ei hatgyfodi gan gymhelliant masnachol pur! Ac wrth gwrs, dyna hanes cymaint o’n gwyliau crefyddol.

Yn y gadeirlan yn Santiago, fe welir yr arogldarthydd ysblennydd sy’n hedfan ar raff fawr drwy’r gadeirlan i rhyddhau mwg sawrus, i lenwi’r adeilad â pherarogl nefolaidd. Mae dau beth gwerth ei nodi am hwnnw. Fe sefydlwyd yr arfer o ddefnyddio arogldarthydd mawr o achos y drewdod oedd ar gymaint o bererinion y Canoloesoedd, oedd yn mentro i Santiago i geisio maddeuant am eu pechodau. Roedd yr arogldarthydd yn llenwir’r gadeirlan ag arogl oedd yn dderbyniol i dduw a dyn, yn hytrach nag arogl traed a cheseiliau’r trueniaid chwyslyd a oedd wedi mentro i Santiago i geisio diogelu eu lle yn y nefoedd.

Yr ail fater sy’n werth ei nodi yw gallu’r eglwys i elwa o’r bererindod i Santiago. Ar hyd y ddinas, fe nodir pwy yw perchennog pob hen adeilad, a hynny gan symbol wedi ei gerfio uwchben y drws ffrynt. Symbol y gadeirlan yw’r gragen fylchog (scallop shell), sy’n symbol i’r Camino cyfan (gweler y llun), ac sydd wedi ei gosod ar y daith i Santiago, o’r ffin â Ffrainc, a phob cam o Madrid, a phob cam o Bortiwgal i Santiago. Wrth i’r werin Ewropeaidd deithio i Santiago i geisio maddeuant pechodau, roedd dawn arbennig gan yr eglwys o droi ei heiddo masnachol i letya’r teithwyr. Erbyn hyn, gwneir elw newydd o’r pererinion. Mae’r archarogldarthydd mawr yn segur am y rhan fwyaf o ddyddiau’r flwyddyn. Caiff ei ddefnyddio ar ddyddiau gŵyl mawr yr Eglwys yn unig. Oni bai … fod grŵp o bererinion yn barod i dalu 400 Ewro i sicrhau defnydd ohono pan fyddan nhw yn dod i offeren y pererinion ar y noson y byddan nhw’n cyrraedd pen eu taith i Santiago. 400 Ewro!

Mae hi’n ddinas hudolus a hyfryd. Ac fel pob lle arall yn y byd, mae’n gymysgwch arbennig o’r nefolaidd a’r daearol, y byd a’r betws, yr haelioni a’r elw. A dyna sydd wedi diogelu ei pharhad fel un o ryfeddodau Ewrop ganoloesol yn y cornel tawel hwn o Iberia.

Geraint Rees

Cregyn bylchog yw symbol y gadeirlan, ac fe’u defnyddir ar draws Sbaen i arwyddo’r ffordd i Santiago i’r pererinion

 

Mae’r tai niferus sy’n eiddo i’r gadeirlan yn dangos arwydd y cregyn bylchog uwchben y drws ffrynt

Arogldarthydd y gadeirlan, Santiago