Sylwadau ar gelfyddyd eglwysig, wedi ymweliad â Santiago de Compostela

 

Sylwadau ar gelfyddyd eglwysig, wedi ymweliad â Santiago de Compostela

O fewn milltir i’r gadeirlan ysblennydd, ceir dros ugain o eglwysi plwyf, a phob un o’r rheiny yn rhyfeddod ynddi ei hun. Ar gyfer pob cwpwl o strydoedd yn yr hen ddinas, ceir eglwys ‘fach’ – gan amlaf gyda’r gofod i gynnal oedfa i ryw 200 o bobl. Ym mhob un o’r eglwysi hyn ceir celfyddyd gain, gyda delweddau godidog, nodweddiadol o gyfnod y dadeni a’r cyfnod baróc o’r Iesu gwyn a’i angylion.

Un o nodweddion Cristnogaeth fodern yw’r ffaith mai geiriau (ac yn y traddodiad Cymreig, efallai, geiriau ar ffurf ambell emyn a cherdd) sydd yn costrelu ein gweledigaeth neu ein dealltwriaeth o’r ffydd. Fodd bynnag, i’r oesoedd a fu, fel y gwelir yn eglwys Teilo Sant yn Sain Ffagan, neu eglwys hynafol Llancarfan, roedd delweddau a darluniau yn hollbwysig. Y rhyfeddod i anghydffurfiwr wrth ymweld ag Ewrop Gatholig yw parhad statws y delweddau gweledol. Maen nhw weithiau’n bethau syml mewn eglwysi gwledig, ond weithiau’n furluniau llachar a soffistigedig o aruchel mewn corneli cwbl annisgwyl. A hynny er i Moses dderbyn gorchymyn ar y mynydd i beidio gwneud delweddau o bethau’r goruchaf.

Mae meistri mawr celfyddyd Ewrop Gristnogol (fuodd ’na feistres?) wedi gadael eu hôl, nid yn unig ar ein waliau a’n nenfydau eglwysig, ond hefyd ar ein psyche crefyddol. Gan amlaf, darluniwyd y Drindod fel yr hen ddyn barfog yn yr awyr, y dyn croen golau iawn oedd yn edrych gan amlaf fel fersiwn ifanc o’r hen ddyn barfog, ac wedyn y golomen wen i gwblhau’r teulu o dri. O’u hamgylch yn y delweddau ceir y darlun o nefoedd gymylog, yn aml yn cynnwys symbolau oedd yn pwyntio at gymeriadau mawr y ffydd. Roedd y lluniau’n cael eu comisiynu i fynegi diwinyddiaeth y dydd, gyda briff penodol iawn gan amlaf gan yr eglwys i’r artist ar gomisiwn.

Un o broblemau’r math hwn o gelfyddyd i bobl sy’n rhan o draddodiad deallusol ac ysbrydol fel C21 yw ei fod bron bob tro yn creu darlun o Dduw theistaidd – y Bod sy’n llwyr y tu allan i’r byd, sydd ddim yn rhan o’r byd, ond bod ganddo’r gallu i newid patrymau mecanyddol y byd, yn aml mewn ymateb i weddi gan fodau dynol. Mae awduron ein Beibl yn osgoi’r delweddu yma – ac yn sôn am dduw fel ysbryd, neu wynt, neu hyd yn oed yn cael ei rym wedi darlunio fel tân mewn perth. Yn y canoloesoedd fe ddyluniwyd Duw fel hen ddyn gwyn, ac iddo ddwylo, pen a thraed dynol. Dyma’r ddelwedd sydd gan drwch pobl y gorllewin (a’r de a goloneiddiwyd) o Dduw o hyd. Anaml iawn y cyflwynir Duw fel dyn du, a hyd y gwn, nis cyflwynwyd fel merch. Ddim hyd yn oed fel menyw ddoeth, oedrannus. Wrth grwydro dinas Santiago, roedd hi’n amlwg fod Iesu hefyd yn wynnach na phawb o’i gwmpas, ac roedd hyn yn codi cwestiwn i mi am natur stereoteipio hiliol ein traddodiad Cristnogol. Does dim arlliw o liw haul arno, er gwaetha’r ffaith iddo grwydro yn yr awyr agored yn y Dwyrain Canol gydol ei weinidogaeth, a phregethu yn yr awyr agored heb het (mor belled ag mae’r lluniau sydd gennym ohono yn ei awgrymu!).

Wrth grwydro eglwysi Santiago de Compostela, mae’r gelfyddyd hon yn peri problem i mi. Rwy wedi fy magu mewn traddodiad ac eglwys sy’n gweld y dwyfol fel egni di-ffurf, yn rym bywyd o fewn ein bydysawd, neu, fel y dywed Spong, fel sail neu hanfod ein bodolaeth (the ground of our being). Mae’r miliynau o ddelweddau o’r hen ddyn barfog yn achosi diogi ymenyddol, a hefyd yn gwneud ein ffydd yn destun hawdd i’w wrthod, neu hyd yn oed i’w ddychan. Efallai fod mwy gan Gristnogion modern i’w ddysgu o waith Picasso neu Gaudi nag sydd gennym i’w ddysgu oddi wrth artistiaid a diwinyddion canoloesol oedd yn gweld Duw yn yr awyr uwchben ein byd fflat, a’r tân tragwyddol yn llosgi o dan y byd fflat hwnnw. Hefyd, ydy’r ffaith ein bod erbyn hyn yn gallu cadw ar record sŵn a delweddau o fath gwahanol wedi newid y gelfyddyd y gallwn ei defnyddio i ddarlunio Duw? Pren, carreg a phaent oedd yr unig bethau parhaol oedd ar gael i artistiaid yr Oesoedd Canol. Erbyn hyn, gallwn gadw ar record ein mynegiant o egni Duw, a’n hangen am lonyddwch a chyffro drwy gelfyddyd lawer mwy amrywiol – fel dawns, cerddoriaeth a theatr. A diolch am hynny. Mae’n bosib y gallwn ddiosg yr hen ddyn gwyn, cymylog, oni bai fod y presenoldeb hwnnw eisoes wedi gwneud cred yn amhosib i’r genhedlaeth sydd wedi eu geni yn y ganrif hon.

Yng ngoleuni’r perygl hwnnw, byddai’n dda troi at Matthew Fox. Pwysleisiodd ef fod ein ffordd o fyw yn gelfyddyd ynddi’i hun. Gall bywyd sy’n cael ei fyw’n dda gyfleu llawenydd, rhyfeddod a gobaith i bobl sy’n teimlo’u bod yn byw bywyd arwynebol mewn oes o anobaith. Efallai mai her fawr ein hoes ni yw fod angen inni ymroi i saernïo bywydau sy’n dangos celfyddyd ysbrydol o ansawdd.

“A lifestyle is an art form. It brings life and wonder, joy and hope to persons otherwise condemned to superifical living. Our times call for the creation of lifestyles of spiritual substance” yw geiriau Matthew Fox yn ei lyfr Cosmic Christ.

 

Geraint Rees
31 Hydref 2021