Yn dawnsio o flaen yr allor

Yn dawnsio o flaen yr allor

Go brin fod Cân Nadolig Simeon wedi bod yn fwy addas i neb erioed nag yr oedd i Desmond Tutu drannoeth y Nadolig, ‘Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd, O Arglwydd, mewn tangnefedd, yn unol â’th air, oherwydd mae fy llygaid wedi gwedd dy iachawdwriaeth’ (Luc 2:29). Heb wybod am amgylchiadau ei farwolaeth yn 90 oed, fe fyddai Tutu wedi marw gyda gwên, fel y llun ar glawr ei gyfrol An African Prayer Book. Nid gormodiaith yw dweud, o fewn ychydig oriau i’w farwolaeth, yr oedd y wasg, llywodraethau ac arweinwyr eglwysig ledled byd yn galaru. Ond ni fyddai Tutu ei hun yn gweld ei farwolaeth fel testun galar.

Cyfrol fechan iawn yw ei lyfr gweddi Affricanaidd – prin 135 o dudalennau sydd iddi. Fe’i hargraffwyd ar bapur rhad a’i chyhoeddi gan Hodder & Stoughton am £7.99 yn 1995. Mae’r detholiad o weddïau wedi eu dewis gan Tutu (gan gydnabod cymorth dau arall) i gynrychioli hen, hen etifeddiaeth Gristnogol Affrica, o dystiolaeth Seimon o Gyrene drwy arweinwyr cynnar yr eglwys fel Awstin, Origen a Cyprian, ac i eglwysi hynaf y byd fel Ethiopia a’r Aifft. Mae’r detholiad hefyd yn cynnwys caneuon y caethweision, fel ‘There is a balm in Gilead’ a ‘Go down, Moses’, yn ogystal â nifer o weddïau gan y di-nod a’r anhysbys, fel gweddi’r pysgotwr neu weddi’r fam yng ngolau’r tân i’w theulu. Mae’n ddetholiad gan bobol o wahanol gefndiroedd a lliw a thraddodiadiadau o nifer o wledydd y cyfandir. Mae Desmond Tutu wedi ysgrifennu cyflwyniad pwysig, ac mae yna hefyd gyflwyniad i bob un o’r chwe adran yn y gyfrol ynghyd ag adnodau o’r Beibl sy’n sylfaen ac yn ffynhonnell gyson i weledigaeth Desmond Tutu.

O’r holl lyfrau ac erthyglau sydd wedi eu hysgrifennu ganddo ac amdano, efallai mai dyma’r gyfrol yr oedd ef fwyaf balch ohoni oherwydd iddo ymhyfrydu mewn etifeddiaeth mor hen a chyfoethog. Fe allwn ninnau, Gristnogion digon di-liw’r Gorllewin, ychwanegu mai dyma’r cyfandir sydd wedi cyfrannu fwyaf i’r dystiolaeth Gristnogol yn ein dyddiau ni.

Dyma ychydig ddyfyniadau o ragarweiniad y gyfrol, sy’n dweud llawer am Desmond Tutu ei hun, ei gred, ei dystiolaeth a’i gyfraniad.

We are made to live in a delicate network of interdependence with one another, with God and with the rest of God’s creation.

All life is religious, all life is sacred, all life is of a piece.

There is nothing you can do that will make God love you less. There is nothing you can do to make God love you more. God’s love for you is infinite, perfect and eternal. Tremendous stuff.

Dyna fynegiant o’i Gristnogaeth gynhwysfawr o’r Duw sydd â’i gariad yn ddiamod ac yn ddiderfynau. Dyma’r neges radical a dewr mewn byd rhanedig sydd wedi ei wneud yn llais proffwydol ein dyddiau ni .

Dim ond tri dyfyniad o’i waith ei hun sydd ganddo yn y gyfrol, ac mae un ohonynt yn ddienw! Mae’r cyfraniad dienw yn rhan o wasanaeth a gynhaliwyd ym mis Mai 1994 i nodi dechrau newydd a llywodraeth newydd yn Ne Affrica, a Mandela yn arlywydd. Tutu a Mandela oedd yn bennaf cyfrifol am y gwasanaeth, ond Tutu a glwir yn y geiriau hyn:

Fe fuom yn ymladd yn erbyn ein gilydd: bellach rydym yn cymodi er mwyn ymladd gyda’n gilydd; roeddem yn credu ei bod yn iawn i ni wrthwynebu ein gilydd: bellach rydym yn cymodi i ddeall ein gilydd; buom yn difoddef grym trais: bellach rydym yn cymodi i rym goddefgarwch. Buom yn codi rhwystrau rhyngom â’n gilydd: bellach fe geisiwn adeiladu cymdeithas cymod. Rydym wedi dioddef y gwahanu na lwyddodd i gyflawni dim: bellach rydym mewn cymod i gyflawni bod ynghyd. Roeddem yn credu mai gennym ni yr oedd y gwirionedd: bellach fe wyddom mai’r gwirionedd sy’n ein gwneud yn un. Rydym wedi ein cymodi i’r dyfalbarhad a’r amynedd sy’n gwneud heddwch; i’r tryloywder a’r tegwch sy’n gwneud cyfiawnder; i’r maddeuant a’r adferiad sy’n adeiladu harmoni; i’r cariad a’r ailadeiladu a fydd yn dileu tlodi a gwahanfuriau; i’r profiad o adnabod ein gilydd sy’n gwneud mwynhau ein gilydd yn bosibl; i rym ysbrydol yr un Duw – a’n gwnaeth o un cnawd ac un gwaed – sy’n ein caru.

Desmond Tutu oedd ‘proffwyd dymchwel apartheid’ ac un o arweinwyr pwysicaf (ond nid yr unig un o bell ffordd – bu eraill o’i flaen ac a ddylanwadodd arno) yr eglwysi a’r frwydr fyd-eang yn erbyn y gyfundrefn apartheid ym mhob rhan o’r byd, gan gynnwys yn arbennig frwydr y Palestiniaid. Fe ddaeth i Gymru sawl gwaith i ddangos gwerthfawrogiad o waith y mudiad gwrth-apartheid yn ein plith. Er iddo fod mewn swyddi dylanwadol oedd yn rhoi cyfle iddo godi ei lais, fel esgob ac archesgob, ac er iddo ennill clod a gwobrau fel Gwobr Heddwch Nobel, dewis uniaethu ei hun yn llwyr â thlodi ac amgylchiadau ei bobl a wnaeth. Pan oedd yn Esgob Johannesburg yr oedd yn byw yn ei gartref yn Soweto ar gyrion y ddinas yn hytrach nag ym ‘mhalas yr esgob’. Roedd Soweto, wrth gwrs, yn symbol i’r byd o ormes apartheid.

Tutu a Mandela oedd yn gyfrifol am greu’r cyfnod pwysig o ‘iacháu ein gorffennol’ wedi apartheid drwy gyfrwng y Comisiwn Gwirionedd a Chymod, 1995. Tutu oedd Cadeirydd y Comisiwn ac fe gyhoeddwyd saith cyfrol swmpus o waith y Comisiwn dros wyth mlynedd. Fe fu’r gwaith yn faich ac yn alar i Tutu wrth glywed am yr hyn oedd wedi digwydd yn ystod y cyfnod tywyll. Mae llun ohono yn ystod sesiwn o’r Comisiwn yn gorwedd ar wastad ei gefn wedi blino’n gorfforol ac yn emosiynol o fod wedi clywed tystiolaeth mor drist a dirdynnol. Bu ei ddylanwad yn allweddol yn sicrhau na fyddai’r cyfnod yn dilyn apartheid yn llithro i ryfel cartref yn Ne Affrica.

Roedd llawenydd a hiwmor ffydd Tutu yn ddigon i’w gadw ef a’r eglwys rhag anobaith. Os oedd yn clywed fod yna rai yn y gynulleidfa yn Cape Town neu Johannesburg fel ysbïwyr yn chwilio am achos i’w ddwyn yn ei erbyn a’i arestio – boed o’r llywodraeth apartheid neu, yn ddiweddarach, lywodraeth yr ANC – yr oedd Tutu yn gwneud yn siŵr y byddai’r addoli’n llawn llawenydd, heb falais na chasineb. Roedd hyn yn aml yn golygu bod yr Arch(esgob) yn dawnsio o flaen yr allor gyda’r côr. Gwên ddewr, gadarn, broffwydol oedd gwên a llawenydd Desmond Tutu. Roedd yn dewis ‘bod yn glown’ a oedd yn barod i ddioddef dros ei Waredwr.

Mae llawer ohonom yn falch o gael dweud i ni gyfarfod Desmond Tutu. Fe gefais innau gyfle i gael sgwrs ag ef i HTV yng Ngŵyl Teulu Duw (1986) ac fe gafodd Arwyn, yr ieuengaf o dri o blant teulu o Gapel y Groes, Wrecsam, gyfle i gyflwyno Beibl Cymraeg iddo. Ni fedraf gofio’n fanwl beth oedd ymateb Tutu. Wrth ei dderbyn, fe ddywedodd fod ‘pobl enfys Duw’ nid yn unig yn cyfeirio at Dde Affrica ond at yr eglwys hefyd, a bod y Beibl Cymraeg a Chymru yn rhan o’r enfys honno.

Geiriau a welir ar ddiwedd cyflwyniad Tutu i’w gyfrol An African Prayer Book ac a ddyfynnir hefyd yn y testun ei hun yw geiriau Awstin Sant o Affrica:

Fe fydd y cyfan yn Amen ac yn Halelwia:
fe orffwyswn ac fe welwn,
fe welwn ac fe fyddwn yn gwybod,
fe fyddwn yn gwybod ac fe garwn,
fe garwn ac fe folwn –
wele’r diwedd na fydd yn ddiwedd.

Ac yn Desmond Tutu mae’r weddi’n troi yn gân a’r gân yn ddawns a’r ddawns yn ddathliad o gariad Duw yng Nghrist.

PLlJ
Gweler hefyd adroddiad llawn Emlyn Davies o’r ymateb byd-eang i farwolaeth Desmond Tutu.