E-fwletin 2 Ionawr, 2022

Gwyrdroi Hanes?

Rydym eisoes wedi cyhoeddi dwy erthygl deyrnged i’r diweddar Desmond Tutu yn y cylchgrawn Agora ar wefan Cristnogaeth 21 (gweler y ddolen isod). O gofio dylanwad aruthrol y cyn-Archesgob, go brin y byddwch yn synnu gweld mai dyna drywydd yr e-fwletin hwn hefyd. Ond y tro hwn, ceisio edrych y tu hwnt i’r teyrngedau y byddwn, er mwyn gweld beth yw’r her i ni fel Cristnogion heddiw yng ngwaddol geiriau a gweithredoedd Tutu.

Teimlad chwithig a dweud y lleiaf oedd darllen y negeseuon o gydymdeimlad gan rai o arweinwyr gwledydd y Gorllewin, gan wybod pa mor ddeifiol y bu’r Archesgob yn ei feirniadaeth ohonynt. I rai, roedd canmol safiad Tutu dros hawliau dynol fel pe bai’n gyfle i ail-ysgrifennu hanes, drwy anwybyddu ei eiriau miniog ar adegau.

Mynnodd Barack Obama ei alw’n “fentor a chwmpawd moesol” iddo, heb gyfeirio o gwbl at y cyhuddiad difrifol gan Tutu fod defnydd yr Unol Daleithiau o awyrennau drôn yn tanseilio eu holl foesoldeb mewn modd annynol.

“Caiff ei gofio am ei arweiniad ysbrydol”, meddai Boris Johnson. Eto, daeth llywodraeth gwledydd Prydain dan y lach ganddo ar sawl achlysur.

Yn 1989, tra ar ymweliad â Birmingham, cyfeiriodd yn ddi-flewyn-ar dafod at annhegwch y sefyllfa lle mae nifer anghyfartal o bobl dduon mewn carchardai yn y gwledydd hyn. Bu’n feirniadol iawn o Tony Blair, Theresa May, David Cameron a Boris Johnson yn eu tro am iddyn nhw wrthod gweithredu sancsiynau masnachol yn erbyn Israel oherwydd eu bod yn gorthrymu’r Palestiniaid, a disgrifiwyd hynny gan Tutu ei hun fel ffurf ar apartheid. Cythruddwyd yr Israeliaid pan aeth ati i gymharu tynged yr Arabiaid ar y Llain Orllewinol ac yn Gaza â dioddefaint y bobl dduon yn Ne Affrica. Mynegodd wrthwynebiad chwyrn i benderfyniad Donald Trump i gydnabod Jerwsalem fel prifddinas Israel.

Yn aml iawn, mae’r sawl sy’n beirniadu llywodraeth Israel am gam-drin y Palestiniaid mewn perygl o gael ei alw’n wrth-Semitig. Roedd Tutu, fodd bynnag, yn gwbl deg gyda’r ddwy ochr, yn galw ar y Palestiniaid i gydnabod gwladwriaeth Israel, tra ar yr un pryd yn mynnu bod Israel yn cydnabod hawl y Palestiniaid i’w llywodraeth a’u gwlad eu hunain.

Ymhlith ei rinweddau niferus, roedd ei ddewrder a’i barodrwydd i sefyll dros y gwirionedd, costied a gostio. Galwodd am i Tony Blair a George W. Bush gael eu rhoi ar brawf yn yr Hague am droseddau rhyfel yn dilyn y rhyfel anghyfreithlon yn Irac, a gwrthododd ymddangos mewn uwchgynhadledd ar gyfer arweinwyr y byd yn Johannesburg pan glywodd  y byddai Blair yn gyd-siaradwr.

Ar ddechrau blwyddyn fel hyn, mae’n weddus ein bod yn ymateb i her barhaus Desmond Tutu i sefyll dros y gwir. Wrth ystyried beth yw ei waddol i ni heddiw, bydded i ni gydnabod ein dyletswydd fel eglwysi i godi ein llais yn groch ble bynnag y gwelwn ni anghyfiawnder. Gallwn fod yn gwneud hynny gyda geiriau Tutu yn canu yn ein clustiau: “Mae’r sawl sy’n dewis bod yn ddi-duedd mewn sefyllfa o anghyfiawnder wedi dewis ochri gyda’r gormeswr.”

(Medrwch ddarllen y ddwy erthygl am Desmond Tutu drwy glicio YMA)

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd