E-fwletin Ionawr 9fed, 2022

Yr Anwylyd

Yn ôl y calendr eglwysig heddiw yw Sul coffau Bedydd Iesu Grist. Fel mae’n digwydd, mae gen i oedfa fedydd wedi ei threfnu ar gyfer heddiw. 

Mae bedydd, fel troad y flwyddyn, yn adeg o ddechrau newydd, ac hefyd i wneud addunedau. Ac mewn oedfa fedydd fe’n hanogir i gofio ac ail-ymrwymo i’r addunedau a wnaethom naill ai adeg ein bedydd ni’n hunain neu wrth gael ein derbyn yn aelodau mewn eglwys.

Yn ôl efengyl Luc roedd Ioan Fedyddiwr yn ‘cyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau’. Doi pobl allan ato i’r anialwch i wrando arno ac i gael eu bedyddio ganddo. Yn Luc 3. 21-22, un o’r darlleniadau swyddogol ar gyfer heddiw, cawn hanes yr olaf o’r rhain, sef Iesu, mab i saer o Nasareth.

Mae Luc yn dweud wrthym ar ôl i Iesu gael ei fedyddio ‘agorwyd y nefoedd a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno .. a daeth llais o’r nef: “Ti yw fy Mab, yr anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”’ Byddai rhai wedi holi efallai beth oedd i gyfrif am y fath anrhydedd. Nid yw Iesu wedi dechrau ar ein weinidogaeth hyd yma, ac eto mae Duw yn ei garu, mae’n ymhyfrydu ynddo fel ei anwylyd.

Yr ydym ninnau wedi ein creu ar lun a delw Duw, ac fel Iesu Grist, ry’ ni’n aelodau o’r teulu dynol, yn blant i Dduw, yn rhai y mae Duw yn ein caru. Fe fyddwn ni weithiau yn ceisio ennill ffafr a chariad Duw, efallai trwy wneud addunedau ar ddechrau blwyddyn i weddïo’n amlach neu ddarllen y Beibl yn fwy mynych, Ond tra bo hynny’n mynd i fod yn help i’n bywyd defosiynol bydd Duw yn dal i’n caru ni ac yn ymhyfrydu ynom. Dyna yw rhyfeddod cariad Duw tuag atom.

Mae’n anodd dirnad y fath gariad di-amod, yn enwedig pan fod ein cariad ni at eraill mor ynghlwm wrth amodau! Ond fe fyddai’n llesol i ni yn ysbrydol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol petae ni’n gwneud ymdrech eleni i gofio bod Duw yn ei gariad yn ymhyfrydu ynom. Nid oes dim ry’ ni wedi ei wneud na’i ddweud yn y flwyddyn a aeth heibio, na dim a wnawn nac a ddywedwn yn y flwyddyn newydd yma yn mynd i newid dim ar hynny.

Gadewch i ni felly ddiolch i Dduw am iddo ein caru, ac am iddo ymhyfrydu ynom. Boed i ni gael y nerth i fyw ein bywydau yng ngwres y cariad hwnnw, ac ymdrechu i’w rannu gydag eraill ar ein taith drwy’r flwyddyn.