“Heulwen dan gymylau”

“Heulwen dan gymylau”

Datod: Profiadau unigolion o ddementia. Gol: Beti George Y Lolfa £8.99

Adolygiad gan Emlyn Davies

Ar hyn o bryd, mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wrthi’n ddygn yn trefnu ymgyrchoedd i geisio creu eglwysi dementia-gyfeillgar. Mae’r Eglwys yng Nghymru gam ar y blaen yn hyn o beth, gyda chyfoeth o adnoddau eisoes ar gael. Mae’n briodol ein bod ninnau yn Agora hefyd yn rhoi sylw i’r pwnc, a hynny drwy gyfeirio at Datod, y  gyfrol ddirdynnol gan 17 o gyfranwyr gwahanol yn cwmpasu profiadau rhai yn byw gyda’r cyflwr, eu perthnasau, eu gofalwyr ac arbenigwyr  meddygol. Ar adegau mae’r ysgrifennu’n gignoeth, dro arall yn dyner a chynnes, ond bob amser yn onest a dewr ynghanol pob tristwch.

Fel y dywed Beti George yn y Rhagair, mae effaith y clefyd yn troi bywydau ben i waered, a hynny wedi ei grynhoi ganddi i un ymadrodd: “Datod ymennydd a datod cynlluniau bywyd.” Ar ben hynny, dagrau pethau yw bod yna ddiffygion difrifol yn y gwasanaeth gofal dementia, ac mae annhegwch y sefyllfa’n golygu bod yn rhaid talu am y gofal. “Dw i’n crefu am gymorth ond does neb yn gwrando,” meddai Mrs A yn ei hysgrif hi, “Mae gwir angen strwythur a chymorth ymarferol arnon ni.”  Dyna eiriau sy’n cael eu hadleisio droeon gan sawl cyfrannwr, a’r gri o’r galon sy’n britho’r tudalennau yw bod angen rhoi trefn ar y berthynas rhwng y sector iechyd a’r sector gofal. Mae’r naill gyfrannwr ar ôl y llall yn tystio i’r unigrwydd o orfod brwydro am bopeth, a hynny yn erbyn asiantaethau’r llywodraeth.

Beth felly yw gwerth cyfrol fel hon? Mae’n ddarllen digalon ar adegau, a ninnau’n cael ein sugno i mewn i’r anobaith creulon sy’n rhan o brofiadau sawl un. Ond ar y llaw arall, dyna pam ei bod mor bwysig, sef am ei bod yn tanlinellu’r annhegwch ac yn dangos y diffygion yn y ddarpariaeth a’r angen am gefnogaeth ymarferol ac ariannol.

Gwyddom i gyd beth yw realiti hyll dementia ond cawn glywed gan rai o’r arbenigwyr mwyaf blaenllaw yn y maes sy’n gwneud cyfraniad pwysig i ddysgu rhagor am y cyflwr. Mae cyfraniadau’r arbenigwyr yn drawiadol ac awdurdodol, ac mae’n galondid clywed am y gwaith ymchwil anhraethol bwysig sy’n digwydd yma yng Nghymru i wella ein dealltwriaeth a’n tywys tuag at ddarganfyddiadau pell-gyrhaeddol.

Cafodd y pandemig effaith dychrynllyd ar rai â dementia a’u teuluoedd, fel y gwelwn yn y mwyafrif o’r ysgrifau. Mae’r tynerwch a’r anwyldeb yng nghyfraniadau Efan Rhys a Ffion Heledd Fairclough yn ddigon i doddi’r galon galetaf: dau berson ifanc yn sôn am eu tad-cu, y cyn-farnwr Philip Richards, a’u straeon yn datgelu perthynas gariadus, glos, cyn profi’r hiraeth ar ôl colli cysylltiad drwy’r cyfnod clo.  Yr un oedd profiad Rhys ab Owen o golli gweld ei dad, Owen John Thomas, y cyn-aelod Cynulliad. Mae’r cyfeiriadau at y modd y collodd ei dad ei ddileit mewn ffigurau a mathemateg, a’r modd yr anghofiodd ei Gymraeg, ac yntau wedi ei dysgu a’i hyrwyddo mor angerddol, yn ofnadwy o drist. Ysgytwol oedd clywed hanes y cyfnod clo o safbwynt Jayne Evans, rheolwraig cartref gofal a ddaliodd yr aflwydd ei hun, ac a welodd farwolaethau yn y cartref.

Nid pawb sy’n suddo’n gyflym i grafangau’r dementia, fel y clywn ni gan Glenda Roberts, cyn-nyrs yn Ysbyty Bryn Beryl, a hithau’n mynd o gwmpas ysgolion i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr, ac wedi i chi ddarllen ei stori hudolus, mae’n werth troi at You Tube i’w gwylio gyda chriw o blant yn trafod dementia. Chwiliwch am Prosiect Anti Glenda. Sôn am falm i’r enaid!

Cyfraniad arall sy’n cyffwrdd rhywun yw’r hanes calonogol am y ddarpariaeth ardderchog yng Nghanolfan Gofal Dydd Capel Waengoleugoed, Llanelwy, lle y dylai’r weledigaeth fod yn ysgogiad i ni i gyd.

Un o gymwynasau mwyaf y gyfrol hon yw ein goleuo a’n hatgoffa o greulondeb dementia, boed hynny’n glefyd Altzheimer, math cyrff Lewy, dementia fasgwlaidd, dementia blaenarleisiol neu amrywiaeth arall. Mae’n bwysig ein bod yn clywed am brofiadau teuluoedd a gofalwyr heb gelu unrhyw beth, a diolch i Beti a’r cyfranwyr i gyd am rannu eu profiadau. Gobeithio y bydd clywed eu hanes yn ein hysgwyd i ymgyrchu ar eu rhan ac i gynnig yr adnoddau sydd ar gael o fewn ein heglwysi i’w cefnogi a’u cynnal.

Rhown y gair olaf i John Philips, sy’n adrodd am ei brofiadau yn gofalu am ei ddiweddar briod, Bethan, yr awdur a’r hanesydd:

Mae heulwen dan gymylau – a gwên
Yn gudd yn y dagrau;
Yna afiaith hen hafau
Ddaw’n ei dro i’r co’ – cyn cau.
                                                 J.P.