Y Sgwrs
Ymysg y lluniau mwyaf difyr o wasanaeth Nadolig y plant ein capel ni’r Sul d’wetha, mae llun o fugail a dyn doeth yn sgwrsio efo’i gilydd yn y cefndir wrth i’r ddrama fynd rhagddo. Llun annisgwyl sbardunodd fy nychymyg!
Un o’r plant lleiaf ydi’r bugail – bachgen bach pedair oed wrthododd wisgo i fyny ar gyfer y gwasanaeth gan ei fod isho mynd ‘fel fi fy hun’. Mae na rhywbeth yn hynny’n does! – ‘gan y gwirion ceir y gwir’ efallai.
Roedd y gwr doeth ychydig yn hŷn – yn llai anystywallt ac yn teimlo mwy o bwysau i gydymffurfio o bosib – ac mi roedd wedi gwisgo yn ei grandrwydd i gyd a’r goron balch yn styc ar ei ben.
Dyma edrych ar y llun a meddwl – tydi hynny ddim yn bosibl – yn un peth, os da chi’n cymryd yr hanes yn llythrennol, doedd y bugeiliaid a’r doethion ddim yno’r un pryd â’i gilydd – ac os mai edrych drwy sbectol dychymyg yr ydych mae’n llawn mor anodd gweld y ddau unigolyn yma’n llwyddo i gael sgwrs a hwythau’n dod o fydoedd mor wahanol i’w gilydd – eu diwylliant, eu hiaith, eu cefndir, eu safle mor ddieithr i’r naill a’r llall.
Ond, petaent wedi cael sgwrs mi fyddent yn siŵr o fod wedi siarad am angylion – a seren – a chanu – a Herod. Byddent wedi rhannu’r daith a’r bwrlwm – yr ofn a’r cyffro. Byddent, o bosibl, wedi trafod y gwahaniaethau rhwng camelod a defaid. Byddent wedi trafod Mair a Joseff. Byddent wedi sôn am yr olwg gyntaf o’r baban – y cadachau a’r preseb – a rhannu’r profiad o syrthio ar eu gliniau i’w addoli. Byddai’r profiad cyffredin hwnnw wedi chwalu pob rhagfur oedd rhyngddynt a byddent, fwy na thebyg, yn gyfeillion oes.
Gwyrth y preseb – gwyrth bywyd Iesu ar ei hyd oedd dwyn pobl wahanol at ei gilydd. Hyd yn oed yn hanes y croeshoelio llwyddodd i dynnu dau elyn i fod yn gyfeillion! – ‘daeth Herod a Philat yn gyfeillion i’w gilydd y dydd hwnnw’ (Luc 23:12).
Pa gyfleon am sgyrsiau annisgwyl gawn ni yn y flwyddyn newydd, tybed?
Blwyddyn Newydd Dda!