“Mentor, ffrind a chwmpawd moesol.”

“Mentor, ffrind a chwmpawd moesol.”

Teyrngedau i’r diweddar Desmond Tutu

Adroddiad Emlyn Davies

Drannoeth marwolaeth Desmond Tutu, roedd y wasg Brydeinig yn hael eu teyrngedau iddo, a’r tudalennau blaen yn llafar eu hedmygedd. “Collodd y byd un o amddiffynwyr mwyaf hawliau dynol” meddai’r Guardian, a disgrifiodd y Daily Telegraph ef fel “un o gewri’r frwydr gwrth-apartheid”. I’r Daily Mirror roedd yn “eicon o heddwch,” ac yn un a fedrai “swyno arweinwyr y byd gyda’i gynhesrwydd a’i chwerthiniad heintus.” Dewisodd papur newydd yr i ei ddisgrifio mewn dau air cryno: “Cawr moesol”.

“Offeiriad gwrthryfelgar De Affrica” oedd pennawd y deyrnged gan y BBC ar eu gwefan newyddion, gan fynd ymlaen i ychwanegu “Llwyddodd ei wên a’i bersonoliaeth anorchfygol i ennill ffrindiau ac edmygwyr iddo ledled y byd.” Mae’r deyrnged yn tanlinellu dylanwad arweinwyr eglwysig croenwyn arno’n fachgen ifanc, yn enwedig rhai fel Trevor Huddleston, oedd ei hun yn un o wrthwynebwyr mwyaf apartheid. Pwysleisir hefyd y byddai Tutu’n arfer dweud mai cymhellion crefyddol oedd ganddo, ac nid gwleidyddol.

Llun: Wikipedia

Llun: Wikipedia

Mae’n addas iawn bod y deyrnged hon gan y BBC yn defnyddio sawl enghraifft i bwysleisio annibyniaeth barn Desmond Tutu, ac ambell un o’r enghreifftiau yn peri i rai carfanau deimlo’n bur anesmwyth, siŵr o fod. Ym mis Ebrill 1989, bu’n ddeifiol ei feirniadaeth o’r ffaith bod llawer gormod o bobl dduon mewn carchardai ym Mhrydain. Yn ddiweddarach, cythruddodd yr Israeliaid pan aeth ar bererindod i Fethlehem adeg y Nadolig, a mynd ati i gymharu tynged yr Arabiaid ar y Llain Orllewinol ac yn Gaza â dioddefaint y bobl dduon yn Ne Affrica.

Yn 2017, daeth Aung San Suu Kyi dan y lach pan gafwyd datganiad gan Tutu yn gresynu bod un a gai ei chydnabod fel symbol o gyfiawnder yn arwain gwlad lle roedd y lleiafrif Mwslemaidd yn wynebu hil-laddiad.

Yn yr un flwyddyn, mynegodd wrthwynebiad i benderfyniad Donald Trump i gydnabod Jerwsalem fel prifddinas Israel. “Mae Duw yn wylo,” meddai, “o ganlyniad i weithred mor ymfflamychol a gwahaniaethol.”

I droi at y teyrngedau o ffynonellau eraill, mae’n ddiddorol gweld sut mae arweinydd ei wlad ei hun yn gweld colli Tutu. Yn ei deyrnged ef, dywedodd yr Arlywydd Cyril Ramaphosa fod ei farwolaeth yn cloi pennod arall o brofedigaeth yn hanes ei wlad, wrth iddynt ffarwelio ag un o’r ffigurau amlycaf o blith y genhedlaeth a fu’n gyfrifol am saernïo’r Dde Affrica newydd, rydd. “Roedd Desmond Tutu yn wladgarwr heb ei ail”, meddai, “ac yn arweinydd o egwyddor a oedd yn ymgorfforiad o’r gwirionedd Beiblaidd bod ffydd heb weithredoedd yn farw.”

Cyfeiriodd at ei ddeallusrwydd a’i allu rhyfeddol, a’i benderfyniad di-ildio yn wyneb grymoedd apartheid, ond pwysleisiodd ei fod hefyd yn ŵr tyner ei dosturi tuag at y rhai a oedd wedi dioddef gormes, anghyfiawnder a thrais o dan apartheid, a’i fod yn dal i deimlo poen y rhai bregus sy’n cael eu cam-drin, ble bynnag y bônt, ledled y byd.

“Fel Cadeirydd y Comisiwn Gwirionedd a Chymodi, rhoes lais i ddicter y ddynoliaeth gyfan ynghylch effeithiau hyll apartheid, a dangosodd wir ystyr ubuntu, cymod a maddeuant. Defnyddiodd ei allu academaidd helaeth i hyrwyddo’r achos dros gyfiawnder cymdeithasol ac economaidd ledled y byd. O balmentydd y gwrthsafiad yn Ne Affrica i bulpudau’r eglwysi cadeiriol ac i addoldai mawr y byd, a hyd at leoliad mawreddog seremoni Gwobr Heddwch Nobel, disgleiriodd ‘yr Arch’ fel lladmerydd a hyrwyddwr ansectyddol, cynhwysol, yn amddiffyn hawliau dynol ymhob cwr o’r byd.

Aeth yr Arlywydd ymlaen i sôn am effaith hyn i gyd ar ei fywyd personol. Bu’n ddigon ffodus i oresgyn y diciâu, a safodd yn gadarn yn erbyn creulondeb y lluoedd apartheid a’u hymdrechion parhaus i’w sigo. Ond ni allai bygythiadau’r asiantaethau diogelwch a’u holl rym milwrol ei ddychryn na’i atal rhag ei ​​gred ddiysgog yn rhyddid ei wlad.

“Arhosodd yn driw i’w argyhoeddiadau drwy gyfnod y trawsnewid a bu’n egnïol yn ei ymdrechion i ddwyn yr arweinyddiaeth a’r sefydliadau newydd i gyfrif yn ei ffordd ddihafal ei hun, a hynny er mwyn atgyfnerthu’r sefyllfa.”

Yn ôl Cyngor Eglwysi’r Byd, er bod yr Archesgob yn arweinydd allweddol yn y frwydr foesol yn erbyn y system apartheid yn Ne Affrica, roedd effaith ei weinidogaeth a thystiolaeth ei fywyd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau ei wlad ei hun a thu draw i’w gyfnod ei hun hyd yn oed. Parhaodd ei ymrwymiad egwyddorol a’i sêl ddiwyro dros gyfiawnder i bawb wedi i apartheid ddod i ben. Credai Tutu yn angerddol fod y ffydd Gristnogol yn gynhwysol o bawb, a bod y cyfrifoldeb Cristnogol er lles pawb. Bu ei arweinyddiaeth a’i esiampl yn fodd i’n trwytho i gyd yn y gred honno ac mae’n parhau i’n galw i weithredu ar yr argyhoeddiad hwnnw. Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol dros dro Cyngor Eglwysi’r Byd, y Parchg Athro Dr Ioan Sauca, “Rydyn ni’n diolch i Dduw am roi’r Archesgob Tutu i ni am 90 mlynedd. Drwy ei fywyd a’i weithiau mae wedi dod yn symbol o urddas a rhyddid i bob bod dynol ac wedi ysbrydoli llawer i ddefnyddio eu rhoddion a’u doniau yng ngwasanaeth eraill ac yng nghenhadaeth a thasg broffwydol yr eglwys. Heddiw, gyda Desmond Mpilo Tutu wedi’n gadael, mae’r byd yn lle tlotach o lawer. Ymunwn â phobl De Affrica i alaru ar ôl un o hoelion wyth y frwydr yn erbyn apartheid.” Un arall a siaradodd yn huawdl am y diweddar Archesgob oedd y Parchg Frank Chikane, Cymedrolwr Materion Rhyngwladol Cyngor Eglwysi’r Byd: “Yn yr Archesgob Desmond Tutu rydym wedi colli proffwyd mawr a oedd yn byw yn ein plith ac a safodd dros gyfiawnder – cyfiawnder Duw i bawb – yma yn Ne Affrica, ar gyfandir Affrica, a ledled y byd, gan gynnwys sefyll yn erbyn anghyfiawnderau a gyflawnwyd yn erbyn Palestiniaid yn Israel-Palestina, mewn sefyllfa lle na fyddai eraill yn meiddio codi llais.” 

Yma yng Nghymru cafwyd sawl teyrnged gan arweinwyr eglwysig ac yn eu plith eiriau’r Parchg Aled Edwards ar wefan BBC Cymru Fyw, lle mae’n rhestru’r meysydd y bu Tutu mor arloesol ynddynt, ac yn ein hatgoffa o’r berthynas agos rhyngom ni yng Nghymru a’r cawr o Dde Affrica, drwy’r ymweliadau i’n plith a’r ffaith iddo gael ei anrhydeddu gan y Cynulliad am ei waith blaengar.  

Ond fe rown y gair olaf i’r cyn-Arlywydd Barack Obama a ddisgrifiodd Tutu fel “mentor, ffrind a chwmpawd moesol.” Go brin bod angen dweud rhagor.