E-fwletin 30 Mai 2021

Gorbryder

Mae pob un ohonom yn poeni am rywbeth neu rywun, mae hynny’n gwbl naturiol. Ond pan yw’r weithred o boeni’n broblem tymor hir sy’n effeithio ar eich byw bob dydd, mae’n troi’n anhwylder gorbryder.

A pha ffurf bynnag ar orbryder sy’n eich poeni (boed yn gymdeithasol, GAD: General Anxiety Disorder, OCD, PTSF) mae’n peri i chi wneud pob math o bethau gwirion.  Ofni lleisio eich barn mewn cyfarfod rhag ofn i eraill feddwl eich bod yn siarad trwy’ch het, ofni dweud y peth anghywir, neu ypsetio rhywun, neu’r ofn y bydd rhywun yn anghytuno â chi, ac y bydd pawb yn siarad amdanoch wedi’r cyfarfod. Dweud pob math o bethau twp er mwyn cynnal sgwrs, a phoeni am y pethau a ddywedwyd oriau ar ôl eu dweud.

Mae gorbryder yn peri i’ch calon lamu wrth glywed y postmon yn gwthio’r amlen drwy’r drws bob bore. Mae llythyr sy’n edrych yn swyddogol yn gwneud i chi ofni ei agor, rhag ofn – wn ni ddim rhag ofn beth ychwaith! Mae gorbryder yn peri i chi ofni agor ambell e-bost ac ofni ei ateb.

Mae gorbryder yn peri i chi fethu â phenderfynu beth i’w wisgo cyn mynd allan, a’r weithred o geisio dewis eich gwisg yn achosi i chi fod yn hwyr i’r cyfarfod. Haws yw aros gartref.  A sôn am fod yn hwyr, mae gorbryder yn peri i chi gyrraedd pobman yn ddiweddar gan nad ydych, mewn rhyw ffordd na ellir ei esbonio’n iawn, yn cael eich hunan yn barod i ddod mas o’r tŷ mewn pryd.

A oes gan Dduw gonsýrn am eich gorbryder? Credaf fod ganddo. Mae E’n gwybod taw llestri pridd digon bregus ydym. A yw Pedr yn dangos arwyddion o orbryder neu ddiffyg hyder wrth annog ‘Bwriwch eich holl bryder arno (Duw), oherwydd y mae ganddo ofal amdanoch’. (1 Pedr: 5:7)?   A yw Paul yn poeni am gyflwr iechyd meddwl y Philipiaid, ‘Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil.’ (Philipiaid 4:6).

Felly, mae Pedr yn dweud wrthym am beidio â phryderu – ydy hyn yn bosib tybed?  Fe fyddai unrhyw un sy’n dioddef o orbryder yn ei chael hi’n anodd dirnad yr anogaeth i beidio â phryderu o gwbl; yn wir, wn ni ddim faint o ddaioni y byddai clywed hynny’n ei wneud i ddioddefwr. Onid annog rhywun i ddelio â’r pryder sydd ei angen? Mae arbenigwyr yn cynnig pob math o ffyrdd o ddelio â gorbryder, a nifer ohonynt yn rhai llwyddiannus iawn.

Ond mae’r Beibl yn mynd â ni un cam ymhellach drwy sôn am ‘symud‘ y pryder, yn hytrach na pheidio â phryderu o gwbl. Dyna’n union yw ystyr ‘bwrw dy faich’, ei symud, fel symud pwysau, oddi ar ysgwyddau’r sawl sy’n ei gario ar Dduw.  A oes gan Gristnogaeth rywbeth arall i’w ddweud am orbryder tybed?

Yr hwn fo’n gaeth sy’n rhydd.