Pwy ydw i?
Yn ystod y dyddiau diwethaf fe ddaeth hi’n amlwg i mi fy mod yn ddyn estron wrth ymweld â harddwch Gwynedd. “Un o’r Sowth ‘da chi?” holodd cwpwl o bobl yn ystod yr wythnos. Mae pobl yn y gwaith yn fy ngalw’n ‘valleys boy’. Mae un person yn y gwaith, sy’n digwydd byw mewn ardal wledig iawn yng ngogledd Powys, yn cyfeirio ataf fel ‘city dweller’. Rwy wedi gweithio lawr yng Nghaerdydd yn y gorffennol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd cydweithwyr oedd yn meddwl amdanaf fel ‘country bumpkin’. Mae’n amlwg na all y cyfan uchod fod yn wir amdanaf ar yr un pryd, a byddwn i’n dweud mai dim ond un o’r disgrifiadau uchod sy’n gywir. Rwy’n un o’r Sowth.
Mae’r byd yn un rhyfedd iawn gyda phawb, mae’n debyg, yn frwd i roi label ymwybodol neu anymwybodol ar bawb arall.
Fel y mae amryfusedd am ddaearyddiaeth fy hunaniaeth, rwyf hefyd yn ymwybodol fod yr un aneglurder yn bodoli am fy mywyd crefyddol. Mae’n hysbys yn y gwaith fy mod yn weithgar mewn eglwys. Mae’r adborth sy’n gysylltiedig â hynny’n amrywio’n fawr. Mae ambell un yn gweld y peth fel gwendid ymenyddol. Y frawddeg orau a glywais i oedd “Am un sy’n credu mewn tylwyth teg a majic ar ddydd Sul, ti’n rhyfeddol o synhwyrol yn ystod yr wythnos”. Roedd cydweithiwr arall yn fy holi gyda’r bwriad o wybod a ydwyf yn Gristion go iawn. Roedd yr unigolyn hwnnw am wybod os yw fy eglwys yn credu yn y Beibl fel “gair Duw”. Rwy’n tybio fod y ffaith i mi orfod gofyn iddo “beth yn union wyt ti’n ei feddwl wrth hynny?” yn golygu fy mod, iddo ef, yn syth yn cwympo y tu allan i gylch y cadwedig.
I fi, rwy’n Gristion ac yn Gymro. Mae bod yn Gristion yn ddigon syml – sef rwyf wedi ymrwymo i geisio dilyn ffordd Iesu Grist a gwneud hynny yng nghwmni pobl sydd am wneud yr un peth. Mae’n biti erbyn hyn bod mwy o amrywiaethau o Gristnogion nag sydd o fwydydd gan Heinz. Fodd bynnag, gyda phêl-droed yr Ewros ar fin dechrau, o leia fydd dim angen i mi esbonio fy nghenedligrwydd i neb arall am fis. O deued y dydd pan fydd ein dealltwriaeth o fod yn Gristion yr un mor syml â’n dealltwriaeth o Gymreictod, a phan fydd dilyn Iesu a charu cyd-ddyn yn ddigon o esboniad i bawb arall.