Reinhold Niebuhr

Reinhold Niebuhr

Ar 1 Mehefin 1971, hanner can mlynedd yn ôl, bu farw Reinhold Niebuhr yn 78 oed.

 

Ef oedd un o ddiwinyddion a phregethwyr enwocaf America yn ei ddydd, ond erbyn hyn anaml y clywir ei enw hyd yn oed. Ond, fel pob llais proffwydol, mae neges Niebuhr yn oesol ac mae’n werth nodi fod Barak Obama, yn ei gyfrol A promised land, yn sôn am baratoi ei anerchiad ar gyfer derbyn Gwobr Heddwch Nobel yn Oslo (2009) ac yn dweud ei fod wedi troi at weithiau Reinhold Niebuhr a Gandhi am ysbrydoliaeth. Mae wedi galw’r bennod honno yn ei gyfrol yn ‘The world as it is’, sy’n ddyfyniad o weddi enwog gan Reinhold Niebuhr.

O’r un gyfrol ar hugain a ysgrifennodd Niebuhr, y rhai pwysicaf – a ddarllenwyd yn eang yn ystod y cyfnod rhwng pedwardegau a chwedegau’r ganrif ddiwethaf – oedd Moral man and immoral society (1932) a Nature and destiny of man (dwy gyfrol, 1941–3 ).

Nid ysgrif o deyrnged i gyfraniad Niebuhr yw hon, ond cyfle i gynnwys dau ddyfyniad o’i waith ac i gyfeirio at un cyfnod arbennig yn ei fywyd.

Dyfyniad 1 – Gweddi gan Reinhold Niebhur

 Mae’r weddi yn un enwog ac yn dechrau â’r geiriau ‘Lord, give us the serenity to accept the things we cannot change’. Yn y cyfieithiadau sydd i’w cael yn Gymraeg, mae’r gair ‘serenedd’ wedi cael ei ddefnyddio’n gyson, ac er nad yw’n air a ddefnyddiwn yn aml, fe’i cysylltir erbyn hyn â’r weddi. Ond ychydig sy’n gwybod am awdur y weddi ac anaml iawn y mae’r weddi’n cael ei dyfynnu yn llawn:

Arglwydd, rho i ni’r serenedd
i dderbyn y pethau na ellir eu newid;
y dewrder i newid y pethau y dylid eu newid –
a’r doethineb i fedru gwahaniaethu rhyngddynt.

Gad i ni fyw un dydd ar y tro
a mwynhau pob munud o’r dydd,
gan dderbyn y rhwystrau ar y ffordd i heddwch
ac wynebu, fel Iesu,
y byd fel ag y mae,
nid fel yr ydym ni am iddo fod,
gan ymddiried y byddi Di
yn gwneud popeth fel y dylai fod
os ufuddhawn i’th ewyllys,
fel y byddwn yn weddol hapus ein byd
ac yn fythol lawen yn Dy dragwyddol fyd Di.

 Cafodd Reinhold ei eni yn Wright City, Missouri, lle roedd ei dad yn weinidog ar gynulleidfa fechan o Almaenwyr alltud. Yn 1915, yn dilyn addysg academaidd ddisglair, cafodd Reinhold ei anfon gan Genhadaeth Efengylaidd Almaenig i fod yn weinidog ar Eglwys Efengylaidd Bethel yn Detroit, Michigan. Pan ddechreuodd yno, 66 oedd nifer aelodaeth yr eglwys. Pan adawodd Detroit yn 1928, roedd yno 700 o aelodau. Beth, tybed, oedd yn egluro’r cynnydd?

Roedd Detroit yn ddinas oedd yn tyfu’n gyflym oherwydd y twf diwydiannol, a thwf y diwydiant moduron yn arbennig, gan ddenu mewnfudwyr du a gwyn o’r De yn ogystal â rhai Iddewig a Chatholig. Daeth yn bedwaredd ddinas fwyaf yn America. Ond daeth hefyd yn ganolfan bwysig i’r Ku Klux Klan (yr oedd cynifer ag 20,000 yno yn ystod cyfnod Niebuhr) a daeth yn ddinas o wrthdaro hiliol a chymdeithasol.

Roedd Niebuhr yn ymwybodol o amodau gwaith a chyflogau’r gweithwyr, oedd yn gweithio oriau maith fel y gallai Henry Ford ymelwa ar yr hyn a ystyriai Niebuhr yn ecsbloetio’r tlawd. Ar un achlysur dinesig yn ei eglwys, beirniadodd Henry Ford, ac yntau yn y gynulleidfa. Roedd y cyfalafwyr yn barod iawn i roi cynghorion i’w gweithwyr sut i fod yn ddarbodus ag arian a pheidio â’i wastraffu ar alcohol neu foethau. Cyhuddodd Niebuhr Ford o ragrith ac o bechod oherwydd amgylchiadau gwaith truenus, oriau meithion a chyflog isel y gweithwyr. Aeth y gweinidog mor bell â rhoi lle i arweinwyr yr undebau llafur i ymgyrchu dros y gweithwyr o’r pulpud. Nid oedd yn fodlon i’r eglwys leol fod yn dawel. Wedi’r cyfan, meddai, cyfiawnder ar waith yw cariad yn Detroit. Os nad yw’n gyfiawnder, nid yw’n ddim.

O ystyried trychineb y Rhyfel Byd Cyntaf, o gofio’r dirwasgiad yn y 30au a bod y rhan fwyaf o’r bobl gyffredin yn byw mewn tlodi, daeth yn amlwg i Niebuhr nad oedd gan y Gristnogaeth a goleddai ef – Cristnogaeth lipa, ryddfrydol, gyfforddus, barchus – ddim i’w gynnig i fyd oedd yn dyheu am newyddion da o obaith. Y tristwch mawr oedd fod y Gristnogaeth a’r eglwys honno’n adlewyrchu rhyddfrydiaeth dawel a hawdd arweinwyr gwleidyddol a Christnogol. Roedd Karl Barth yn cyflwyno’r un neges yn yr Almaen, a does ryfedd fod neges Niebuhr yn America a Barth yn Ewrop yn cael ei galw’n ‘ddiwinyddiaeth argyfwng’.

Dyfyniad 2 – Teyrnas Dduw ar y ddaear

A dyma ddod at yr ail ddyfyniad, nad yw mor adnabyddus â’r dyfyniad cyntaf ond sydd, efallai, yn bwysicach o gofio cyfraniad Reinhold Niebuhr. Mae ail hanner y dyfyniad yn yr iaith wreiddiol er mwyn i rym y geiriau a her y neges gael eu clywed.

Daw’r geiriau o’i gyfrol The Kingdom of God in America (1957). Fe fydd rhan o’r dyfyniad yn gyfarwydd i’r rhai hŷn ohonom a ddarllenodd rai o gyfrolau Niebuhr ac o gofio hanes yr eglwys a’i diwinyddiaeth yn y cyfnod hwnnw.

Yr oedd rhyw syniad rhamantaidd o Deyrnas Dduw ar y ddaear, ond teyrnas ydoedd heb argyfwng na thristwch nac aberth na cholled na chroes nac atgyfodiad. Yr oedd moeseg y deyrnas honno yn cyfuno a chymodi diddordebau a buddiannau cymdeithas â’r hyn fyddai orau i’r unigolyn. Ond mewn gwleidyddiaeth ac economeg yr oedd yn anwybyddu rhaniadau cenedlaethol a dosbarth, gan weld dim ond rhyw undod arwynebol gan anwybyddu’r ecsbloetio a’r haerllugrwydd moesol.

In religion it reconciled God and man by deifying the latter and humanising the former … Christ the Redeemer became Jesus the Teacher or the spiritual genius in whom the religious capacities of mankind were fully developed … Evolution, growth,development, the culture of religious life, the nurture of kindly sentiments, the extension of humanitarian ideals, and the progress of civilation took the place of the Christian revolution. A God without wrath brought men without sin into a kingdom without judgement through the ministration of a Christ without a cross.

Dylid pwysleisio mai beirniadaeth gweinidog proffwydol ar arweinwyr gwleidyddol ac eglwysig ei ddydd oedd neges Niebuhr yn ei bulpud yn Deroit ac yn nes ymlaen yn ei lyfrau, ‘yng nghanol y byd fel ag y mae’. Fel Eseia yn Jerwsalem. Y Gristnogaeth ryddfrydol, ddiogel, bietistaidd a gadwai’n glir o’r hyn ‘a ddywed yr Arglwydd’. Cristnogaeth hawdd, ddigynnwrf, lugoer a’i dehongliad a’i thystiolaeth o’i ffydd yn annheilwng o Iesu.

Mae angen cofio cyfraniad Niebuhr heddiw – ac nid yw’r erthygl hon yn ddim mwy na chyfeiriad at ran yn unig o’i waith a’i fywyd.

Mae’r eglwysi traddodiadol/enwadol (er yn effro i gyfrifoldebau elusennol ac yn barod eu cyfraniad fel erioed) yn parhau yn y meddwl rhyddfrydol yr oedd Niebuhr yn ei feirniadu. Naill ai ni allant – neu nid ydynt – yn mynd i’r afael ag argyfwng gwleidyddol ac ysbrydol ein hoes, boed hynny’n argyfwng cymunedol y gymdeithas Gymraeg, neu maent yn dewis ymwrthod â’r byd-olwg sy’n gwbwl angenrheidiol yn yr 21ain ganrif. Hyd yn oed yn yr argyfwng, gwarchodol a thraddodiadol i’r eithaf yw’r Gristnogaeth ryddfrydol hon.

Mae’r eglwysi a’r Cristnogion sy’n arddel y label Efengylaidd / Beiblaidd / Uniongred yn credu mai afiechyd personol yw pechod ac mai trwy achub yr unigolyn y mae achub y byd. (Rhaid cofio bod ‘eglwysi efengylaidd’ America ar chwâl erbyn hyn ac yn newid mewn rhannau eraill o’r byd – dylanwad Niebuhr o’r diwedd, efallai?) Er mwyn gallu newid y byd, roedd Niebuhr yn credu bod angen wynebu pechod strwythurol a gwleidyddol, a chamddarllen y Beibl yw peidio â gwybod hynny. Anfon ei fab i ‘achub y byd’ a wnaeth Duw, ac er bod angen dathlu am ‘bob pechadur sy’n edifarhau’, mae gan Duw a’i eglwys waith pwyiscach i’w wneud na chyfrif y cadwedig.

Galwad i radicaliaeth Iesu sy’n boenus o bersonol, yn anghyfforddus o ysgrythurol ac yn aberthol o ymrwymiad i Deyrnas Dduw ar y ddaear – dyna oedd galwad Niebuhr yn ei ddydd. Nid rhyw iwtopia o deyrnas a ddaw yw’r deyrnas honno, ond Duw ar waith yn y ‘byd fel ag y mae’. Mae ei ddilynwyr mor radical ag Iesu yn eu hagwedd tuag at y grymoedd sy’n teyrnasu, mor radical ag Iesu yn eu darllen o’r ysgrythur, ac mor radical ag Iesu yn eu hymrwymiad i ewyllys Duw ar gyfer ei fyd.

Beth yw bod yn Gristion ac yn eglwys radical heddiw? Dyna gwestiwn Niebuhr i ni.

A dyna pam ei bod yn werth cofio’i farwolaeth 50 mlynedd yn ôl.

Mae cyfrol E. R. Lloyd-Jones, Niebuhr, yng nghyfres Y Meddwl Modern (1989) yn cynnig dadansoddiad manwl, clir a byr o fywyd a gwaith Reinhold Niebuhr. Mae ei bennod olaf, ‘Gwerthfawrogiad a Beirniadaeth’ yn edrych yn feirniadol ar ei gyfraniad dan y penawdau: Cristnogaeth Berthnasol, Y Syniad o Ddyn, Crefydd a Gwleidyddiaeth, Heddwch a Rhyfel.

PLlJ