Pa fath ddiwygiad (4)

Pa fath ddiwygiad (4)

(Rhan olaf erthygl John Gwilym Jones)

Beth oedd yr emynau a genid yn y cyfarfodydd? Mae Sydney Evans yn sôn am frawd ym Mlaenannerch yn adrodd y pennill, “Dyma Geidwad i’r colledig.” Ym  Mhentre Estyll, ger Abertawe, mae Pennar Griffiths yn sôn am rywun yn sefyll ac yn adrodd, “Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd”. Mae J T Job yn sôn am gynulleidfa ym Methesda yn canu ac ailganu a thrydydd ganu “Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion”. Roedd Maud Davies a Florrie Evans yno hefyd, a’r rheini’n canu “O anfeidrol rym y cariad”.

Mewn cyfarfod gyda’r Bedyddwyr yn Hermon, Sir Benfro, fe gyfeiriodd rhywun at Ganiad Solomon 2.12: “oherwydd, edrych, aeth y gaeaf heibio, ciliodd y glaw a darfu; y mae’r blodau’n ymddangos yn y meysydd, daeth yn amser i’r adar ganu, ac fe glywir cân y durtur yn ein gwlad.”

Ni ellid cael gwell disgrifiad. Roedd adar ifanc Cymru i gyd yn canu, hyd yn oed yn y Coleg Diwinyddol. Yno, ar ganol darlith ar Athroniaeth, clywyd rhyw ganu yn dod o rywle. Meddai un yn y dosbarth, “Mae’r Diwygiad wedi torri allan.” “Ymhle?” gofynnon nhw. “Yn yr ystafell smygu.” A phawb yn tyrru nes oedd y lle yn orlawn, yn canu heb neb yn arwain. Ac wedi canu un emyn, canu un arall. Roedd yna ddau yno a oedd wedi bod yn feirniadol iawn o deimladrwydd y Diwygiad, ond roedden nhw wedi eu dal. Ac fe aeth y cyfarfod hwnnw ymlaen am oriau, gan ailganu yn arbennig “Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion”.

Roedd y gohebwyr a fynychai’r cyfarfodydd ledled y wlad yn dweud mai canu oedd tri chwarter y cyfarfodydd. Wrth gwrs, roedd ifanc a hen yn gwybod yr emynau. Mewn un cyfarfod, os teimlai’r gynulleidfa fod rhywun yn siarad am fwy na rhyw bum munud, byddent yn troi i ganu er mwyn ei foddi. Yn wir, mae un sôn am fod mewn Cymanfa Ganu ym Mlaengarw a’r Gymanfa’n troi yn oedfa ddiwygiad: “Fe gawson ni y fath ganu yn oedfa’r prynhawn nes bod yr arweinydd yn ceisio’i orau i’n ffrwyno ni, rhag i ni ladd ein hunain cyn oedfa’r nos, ond i ddim pwrpas. Roedd fel petai llen y deml wedi rhwygo.”

Un enghraifft o oedfa ddiwygiad oedd honno ym Mryn-teg, Gorseinon, nos Iau, 10 Tachwedd 1904. Yr oedd yna weddïo a gweiddi a phenlinio ac ochneidio. Un yn darllen o’r Beibl o’r galeri, merch yn torri allan i ganu ar y llawr. Gweddïau byrion, tystio, a phan fyddai un wedi codi a chyhoeddi iddo dderbyn iachawdwriaeth, torrai’r gynulleidfa i ganu, “Diolch iddo, byth am gofio llwch y llawr”. Digwyddodd hyn lawer gwaith yn ystod yr oedfa honno, a barodd am naw awr. Un wraig yn gweddïo ac yn llewygu. Rhywun yn dod a chynnig dŵr iddi. “Na,” meddai, “yr unig beth y carwn i ei gael yw maddeuant Duw.” Yna wrth gwrs, rhywun yn taro’r geiriau, “Pa Dduw sy’n maddau fel tydi / yn rhad ein holl bechodau ni”.

Yn Libanus, Clydach, y Rhondda, aeth Evan Roberts i sôn am y disgyblion yn cysgu. Ac y maent yn awr yn cysgu yng Nghymru, meddai, gannoedd a miloedd ohonyn nhw. “Amen,” gan bawb drwy’r capel. Yn sydyn, dyma wraig yn canu, “O na bawn i fel efe.” Yna, pan oedd y nodyn ola wedi distewi, merch fach yn canu, “Dyma gariad fel y moroedd, / Tosturiaethau fel y lli.” Hwnnw, meddai D M Phillips, oedd emyn mawr y Diwygiad. Fe’i canwyd yn Tonna, Castell-nedd, ac yn union ar ei ôl, y gynulleidfa yn canu’n dawel, “Gad im deimlo / awel o Galfaria fryn”, ac Evan Roberts yn dweud, “Canwch y geiriau hyn yn weddigar a thyner oherwydd gweddi ydyw. Awel o Galfaria yw’r unig beth,” meddai, “y gall meidrolion ei ddal. Allan nhw ddim dal tymestl o Galfaria.” Aeth hi’n Fabel o leisiau yno, ond Babel melodaidd gyda phobl yn torri allan yn fyrfyfyr i weddïo a chanu. Ac un llais wedyn yn canu:

Paid a’m gadael, dirion Iesu,
paid a’m gadael i,
pan ar eraill rwyt yn gwenu,
paid â’m gadael i.

Ym Maesteg, wrth ganu “Diolch iddo, / Byth am gofio llwch y llawr”, fe ddyfeisiwyd geiriau newydd gan weinidog Bethania yn y man a’r lle:  

Rho dy galon, rho dy galon
Iddo am gofio llwch y llawr.

Roedd gŵr a alwai ei hun yn “Awstin”, sef T. Awstin Davies, mab i weinidog Bedyddwyr o Bontypridd, yn ysgrifennu i’r Western Mail. Beth oedd yn llesteirio’r ysbryd, meddai hwnnw, oedd gormod o bobol, cateceiddio a defnyddio pobol penodedig i drefnu oedfa a threfnu “cynghori”. Ond roedd canu’r unawdwyr yn bwysig, a’r canu cynulleidfaol.

Nos Sadwrn olaf 1904, yng nghapel Penuel, Rhosllannerchrugog, fe ofynnwyd i ryw hen ŵr ledio emyn. Pan gododd a ledio’r geiriau,

Gwasgara’r tew gymylau
oddi yma i dŷ fy Nhad,
datguddia imi beunydd
yr iachawdwriaeth rad,
a dywed air dy hunan
wrth f’enaid clwyfus, trist
dy fod yn maddau ’meiau
yn haeddiant Iesu Grist,

fe welodd pawb pwy oedd e, a sylweddoli nad oedd yn aelod eglwysig. Fe’i heriwyd e gan rywun a gofyn iddo a oedd, ac yntau’n ateb nad oedd. Gofynnwyd iddo a oedd am ildio’r noson honno. “Na,” meddai, yn wylaidd a hollol onest, “’dwy i ddim yn barod.” Fe aeth y lle yn ddistaw fel y bedd, nes i’r gynulleidfa hanner adrodd a hanner canu’r geiriau:

A dywed air dy hunan
wrth f’enaid clwyfus, trist,
dy fod yn maddau ’meiau
yn haeddiant Iesu Grist,”

a hynny yn llawn cydymdeimlad ato, am na allai ef ildio. Cyhoeddwyd oedfa am 11 y nos, ac yn honno gofynnwyd a oedd yno ddychweledigion. Dyma nhw’n dechrau codi ar y galeri. Am ysbaid, neb ar y llawr wedi codi ond wedyn dyma un llaw yn codi, llaw rhywun adnabyddus yn y fro, a’r si yn mynd drwy’r capel fod hwnnw wedi dod at Grist, er syndod i bawb. Yna fe welwyd llaw arall ganol y capel. Yr hen frawd o’r oedfa cynt wedi penderfynu ildio. Sgubwyd y gynulleidfa gan deimlad. Dyma fab a merch yn neidio ar eu traed, a’r ferch yn gweiddi, “Nhad ydi o!” gan ffrwydro wedyn allan i weddïo.

Yn ystod cyfarfodydd Gorseinion roedd pump o ferched wedi dod ymlaen i gynnig eu gwasanaeth i’r Arglwydd, ac fe ddilynodd y rhain Evan Roberts i ymgyrchoedd Morgannwg. Wedi Nadolig 1904 dychwelodd rhai adre. Fe fu dynion hefyd yn cynorthwyo, fel Tom Roberts o Dowyn ac Emlyn Davies o’r Cefn,ger Rhiwabon.

Ond o’r unawdwyr i gyd, Annie Davies a’i chwaer Maggie o deulu cerddorol ym Maesteg oedd yr amlycaf. Roedd Annie Davies wedi ei hyfforddi gan Madame Clara Novello Davies a Harry Evans, Dowlais. Defnyddiai dechnegau megis sibrwd canu. Roedd ei hunawdau yn toddi i mewn yn weddi gan y gynulleidfa, yn union fel petai hi’n cyfeilio iddyn nhw, Wethiau byddai’n cyfeilio i Evan Roberts tra oedd yn pregethu. Gwnaeth hynny unwaith yn y Rhondda ac fe oedodd Evan Roberts. Wedi iddi orffen y gân, ailddechreuodd ef. Yn fuan roedd hi eto’n canu, ond dan deimlad dwfn, “Dim ond Iesu”. Ond yna, fe dorrodd i lawr i wylo, a llefain nes peri i’r gynulleidfa oll fynd yn foddfa o ddagrau.

Dylwn gyfeirio hefyd at Sam Jenkins o Lanelli, dyn 25 oed. Fe’i galwyd e’n Sankey Cymru, a byddai’n canu gyda Sydney Evans mewn trefi yng Ngwent ganeuon megis “Y Ddafad Golledig” neu “A glywaist ti sôn am Iachawdwr y byd”. Tra oedd yn Beaufort fe arhosodd yng nghartre’r Parchg Llynfi Davies. Dangosodd ryw gân Saesneg iddo, cân a soniai am “a sinner like me”. Bu Llynfi Davies wrthi drwy’r nos yn ei chyfieithu iddo, a chafwyd y llinell “i achub pechadur fel fi”. Ond gofynnodd Sam Jenkins i Llynfi Davies newid y gair “pechadur” yn rebel: “I achub hen rebel fel fi”. Ac yna, meddai Sam Jenkins, “Rwy’n cofio yng Nghalfaria, Porth, y Rhondda, fel y tynnwn at derfyn y gân, a’r geiriau, “Mi ganaf ei glod yn oes oesoedd”, yn gafael ynof pan oeddwn yn eu canu am y drydedd waith, nes bod y pen blaenor yn neidio ar ei draed a gweiddi, “Mi gana inne hefyd” a throi’r capel i gyd yn wenfflam o ganu.

Sonia W S Jones o Rosllannerchrugog fel y daeth Elfed â’r geiriau “Y gŵr ar ffynnon Jacob” i’r Rhos ar ddechrau 1905. Roedd yn awyddus i’r pennill hwn gael bywyd newydd yn y Diwygiad. “Fel popeth arall, roedd yr hen benillion,” meddai, “yn dod yn ôl fel colomennod Noa.” Fe ofynnodd Elfed i’r gynulleidfa ei ganu ar ‘Bryniau Casia’, ac mae acenion dwys a buddugoliaethus yr hen dôn yna o gasgliad Y Salmydd (1892) wedi canu yn ein clustiau byth oddi ar hynny. “Pwy all anghofio yr effaith nefolaidd,” meddai, “pan arweiniodd Caradog Roberts ni yr eilwaith ar yr organ, mor dyner, mor ddwys ac mor orchestol?”

Ni chafwyd tonau newydd o werth. A rhaid cyfaddef na chafwyd emynau newydd o werth arhosol ychwaith. Beth oedd yno oedd cyfuniad o’r hen benillion cyfarwydd, ar donau cyfarwydd, a chyfieithiadau Ieuan Gwyllt o Sŵn y Jiwbili.

Fe ofynnir y cwestiwn weithiau: a ddaw Diwygiad yn ôl? O feddwl mor ganolog oedd y canu, mae yna un rhwystr mawr heddiw i Ddiwygiad fel hwn ddod yn ôl: dyw’r ieuenctid ddim yn gwybod emynau am Dduw i’w heneidiau nhw dorri allan i’w canu. A dyna golli sbarc y Diwygiad dros ganrif yn ôl.

Byddai Evan Roberts ei hun weithiau’n gresynu am y canu’n ymyrryd, ac eto fe amddiffynnai gyfraniad y gân. Rhaid cyfaddef fod canu yn aml iawn yn cael ei ddefnyddio i gyffroi teimladau. Ond roedd y peth mor rhyfedd o naturiol a digymell. O edrych ar brofiadau fel hyn a ddigwyddai dros ganrif yn ôl, byddwn yn holi a fyddai’r peth yn bosib heddiw. Un ystyriaeth drist yw na fyddai’r genhedlaeth ifanc heddiw yn gwybod geiriau emynau addas i ysbrydoli cyfarfodydd emosiynol. A chwestiwn pwysicach o lawer yw: pa mor fuddiol i waith y Deyrnas fyddai diwygiad arall o’r un natur?

 

D M Phillips Evan Roberts a’i waith
Brynmor P Jones Voices from the Welsh Revival
Noel A Gibbard Caniadau’r Diwygiad
Eifion Evans The Welsh Revival of 1904
Eifion Evans Revival comes to Wales
Tudur Jones Ffydd ac Argyfwng Cenedl

Rhan 1 

Rhan 2

Rhan 3