Hanes Gobeithiol

Hanes Gobeithiol

Cefais fy nenu yn y cyfnod mynachaidd sydd ohoni gan deitl cyfrol yr Iseldirwr Rutger Bregman, Humankind: a Hopeful History (Bloomsbury Publishing 2020), a ddisgrifir fel “The Sunday Times Bestseller”. Roedd yr awdur yn gwbl ddiarth i mi er ei fod wedi cyhoeddi ‘bestseller’ gyda chyfrol flaenorol â’r teitl Utopia for Realists. Cyfieithad yw honno fel y gyfrol hon. Fel y gwelir oddi wrth y naill deitl a’r llall, optimist llawn gobaith yw’r awdur.

Fel athronydd, mae’n dewis rhwng dau ddehongliad o’r natur ddynol: dehongliad pesimistaidd Thomas Hobbes ar y naill law, fod y natur ddynol yn hanfodol ddrwg, a dehongliad optimistaidd Rousseau ar y llaw arall, fod y natur ddynol yn hanfodol dda. Yr ail ddehongliad a gyflwynir yn y gyfrol hon. Cred fod gwareiddiad wedi ei seilio ar y dehongliad pesimistaidd sy’n cymryd yn ganiataol fod pobl yn hanfodol ddrwg, gan greu amgylchiadau croes i’r natur ddynol, sy’n hanfodol dda. Gan hynny, adweithio i safbwynt pesimistaidd y canrifoedd a wna, gan gynnwys y traddodiad Cristnogol a ddechreuwyd gydag Awstin Sant (354–430), safbwynt a gafodd ei barhau gyda diwinyddiaeth John Calvin. Dadleua hefyd fod cyfnod yr Ymoleuo wedi parhau â’r besimistiaeth hon. Un o blant yr Ymoleuo oedd Hobbes. Diflannodd y Duw dialgar a daeth y Wladwriaeth i gymryd y swyddogaeth a oedd gynt yn eiddo Duw. Yn sgil hynny, daeth yr eglwys Gristnogol yn fwy cyfeillgar, yn eglwys ‘chwyldro o dynerwch’ yn hytrach na Chrwsâd.

Barn yr awdur yw fod dynoliaeth yn y cyfnod crwydrol yn glir o’r holl besimisiaeth ddiweddarach a ddaeth gyda gwareiddiad. Gwêl hanes Tŵr Babel yn y Beibl yn ddarlun o`r newid hwn (a stori Cain ac Abel, o ran hynny).

Haera’r awdur fod ei safbwynt ef yn realistig yn ogystal â chwyldroadol. Mae ei gyfrol yn llawn o hanesion lle gwelir daioni’r ddynoliaeth ar waith mewn amgylchiadau drygionus a thrychinebus sydd yn gynnyrch gwareiddiad. Un enghraifft ymhlith eraill sydd yr un mor gyfoethog yw hanes milwyr Prydain a’r Almaen yn 1914 yn rhoi eu harfau heibio i ddathlu’r Nadolig gyda’i gilydd. A’i ddadl fawr yw mai amgylchiadau gwareiddiad ar ei gwaethaf yw rhyfel, ond ei fod yr un pryd yn datguddio daioni sylfaenol y ddynolryw. Mae ganddo un enghraifft hanesyddol ar ôl y llall mewn sefyllfaoedd gwahanol sy’n cadarnhau ei ddadl ac yn cyfoethogi ei gyfrol. Geiriau Pope sydd yn dod i’r cof: ‘Hope springs eternal in the human breast’.

Fe ymddengys hefyd ei fod yn tynnu’n helaeth ar ei gefndir eglwysig cynnar. Mae’n ymgynghori â’r Ysgrythur droeon, ac mae ei bennod olaf yn arwyddocaol: ‘Troi’r Foch Arall’. Yn yr adran hon cyffesa ei fod, yn ei ddyddiau cynnar, yn ystyried yr anogaeth hon yn un ar gyfer eneidiau dethol fel M. L. King, Gandhi a Mandela. Ond bellach mae’n credu ei fod yn anogaeth i`r ddynolryw. Mae’n derbyn yr egwyddor: os byddwn yn drugarog wrth y person arall y bydd hwnnw’n ymateb yn yr un modd. A bod hynny’n wir wrth ymateb i elyn honedig. Mae’n trafod ‘maddeuant’, ‘empathi’ a thosturi, ac yn rhoi sylw manwl i’r Rheol Euraid sy’n perthyn i bob athroniaeth, bron, mewn gwahanol ffurfiau, gan gynnwys y Testament Newydd: ‘Gwnewch i eraill yr hyn a fynnwch i eraill ei wneud i chi’, ac yn ei ffurf negyddol: ‘Peidiwch â gwneud i eraill yr hyn na fynnwch i eraill ei wneud i chi’. Eto, cred fod yr egwyddor hon yn dibynnu ar y cynnwys a roir iddi.

Mae amwysedd yn y teitl, â charedigrwydd (kind-ness) yn gynhenid i’r natur ddynol. Ac ar sail hwnnw y dylid adeiladu ein bywyd ac nid ar besimistiaeth. Dwy feirniadaeth ar ei gyfrol yw ei fod wedi cysylltu hanes â’r Gorllewin ac wedi anwybyddu’r ferch (Byddai Man-kind yn fwy cywir!). Fodd bynnag, mae ei neges sylfaenol, hyd y gwelaf, yn cael ei chadarnhau gan amgylchiadau’r flwyddyn ddiwethaf pan welson ni’r ddynolryw ar ei gorau mewn amgylchiadau anodd. Ond eto, fe welson ni’r ddynoliaeth ar ei gwaethaf hefyd!

John Owen
Rhuthun