E-fwletin 2 Mai 2021

Cydradd yng Nghrist

Ydych chi wedi sylwi cymaint mae straeon am fenywod wedi bod yn hawlio’r penawdau yn ddiweddar? Dyna chi’r digwyddiad erchyll yna am Sarah Everard yn cael ei chipio a’i llofruddio yn Llundain a’r protestiadau a ysgogodd hynny ynghylch diogelwch menywod. Yna cafwyd y stori am y modd yr honnir i’r Dywysoges Latiffa gael ei cham-drin gan ei theulu yn Dw-bai. Stori ddiddorol i mi (ac eraill ohonon ni sydd wedi bod yn gwylio’r gyfres ‘The Queen’s Gambit’ ar Netflix mae’n siŵr) oedd honno am Anna Muzychuk, y bencampwraig gwyddbwyll o Wcrain, sydd wedi gwrthod amddiffyn ei choron byd drwy chwarae gwyddbwyll yn Saudi. Sail ei gwrthwynebiad yw y byddai, o fynd i Saudi, wedi cael ei thrin yn eilradd, fel pob merch arall yn y deyrnas hynod gyfoethog honno.

Bu’n Sul y Gymanfa Bwnc yn ein capeli ni yn ddiweddar. Ond oherwydd yr haint digwyddiad rhithiol ar Zoom a gafwyd eleni. Gwahoddwyd Arfon Jones (Beibl.net) atom i drafod agweddau ar ei lyfryn dadlennol, ‘Y Beibl ar… Ferched’. Cafwyd gwledd o wybodaeth gan Arfon wrth iddo olrhain seiliau Beiblaidd cydraddoldeb y rhywiau o’r Creu drwy’r Hen Destament i’r Efengylau a llythyrau Paul. Bu hefyd yn herio rhai o’r rhagdybiaethau simsan a ddefnyddiwyd yn hanesyddol i gyfiawnhau safle eilradd menywod mewn byd a betws.

Cawsom glywed ganddo am agwedd flaengar Iesu yn ei ddydd, yn torri confensiynau diwylliannol Iddewig, Groegaidd a Rhufeinig, ac yn herio patriarchaeth yr oes. Clywsom pa mor feiddgar oedd Iesu i fentro siarad gyda’r wraig o Samaria, i addysgu Mair ‘wrth ei draed’ ym Methania ac i amddiffyn gwraig odinebus. Roedd y ffaith fod menywod yn amlwg ymhlith disgyblion Iesu hefyd yn nodwedd anarferol yn ei ddydd. O dderbyn mai dynion oedd y Deuddeg, fel arall, mae’n ymddangos bod Iesu yn trin menywod â pharch anghyffredin yn ei ddydd ac yn ystyried menywod mor gydradd a bo modd o fewn hualau diwylliannol a chymdeithasol yr oes.

Nawr, meddech chi, does dim byd newydd yn y bregeth honno. Mae menywod wedi hen ennill parch a statws o fewn ein prif enwadau anghydffurfiol. Mae hyd yn oed yr Eglwys Anglicanaidd wedi unioni’r dafol yn y degawdau diweddar. Efallai wir, ond mae’n werth i ni atgoffa ein hunain bod yr egwyddor sylfaenol o gydraddoldeb rhwng dynion a menywod yn nodwedd ganolog a chwyldroadol o’n Cristnogaeth ni.

Ac mae hynny’n ots i’r cyffredin, achos, fel mae penawdau’r newyddion yn tystio, dydy normau cymdeithasol y byd seciwlar heddiw – ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach – ddim bob amser yn cefnogi nac yn adlewyrchu hynny. Mae’r byd yn un llai diogel i fenywod, yn llai llewyrchus i fenywod, yn llai llwyddiannus i fenywod, yn llai cydradd i fenywod. Mae hanes diweddar Sarah Everard a’r Dywysoges Latiffa wedi ein hatgoffa o hynny. Mae safiad Anna Muzychuk wedi ein hatgoffa o hynny. Mae’r ‘Batriarchiaeth’ mor fyw ag erioed.

Felly, pan ddaw rhyw stori i’n sylw ar y newyddion neu’r cyfryngau cymdeithasol ynghylch safle menywod mewn cymdeithas, peidied i ni Gristnogion ddilyn ‘normau’ cymdeithasol normadol y Batriarchiaeth gyfoes. Dilynwn Iesu. Byddwn flaengar. Safwn dros gydraddoldeb pawb yn ddiwahân. Rydym oll yn un – ac  yn gydradd – yng Nghrist Iesu.