Y Pabydd Protestannaidd – cofio Hans Küng (1928–2021)

‘Y Pabydd Protestannaidd’ – cofio Hans Küng (1928–2021)
Trwy ganiatad Cenn@d

Küng3Pan glywais ar 6 Ebrill eleni am farwolaeth Hans Küng, y cawr o ddiwinydd pabyddol o’r Swistir, aeth fy meddwl yn ôl bron hanner can mlynedd. Gweinidog ifanc oeddwn i ar y pryd ym Mhenbedw, ac roeddwn newydd orffen darllen ei gampwaith, On Being a Christian. Fe’m cyfareddwyd yn llwyr gan y gyfrol, a gyfieithwyd i’r Saesneg gan Edward Quinn yn 1976, a chefais fy symbylu i anfon ysgrif ar Küng a’i waith i’r cylchgrawn Porfeydd. O bosibl mai dyna pryd y taniwyd fy niddordeb mewn diwinyddiaeth fel maes byw, cyffrous, oherwydd dilynodd nifer o erthyglau eraill o’m heiddo, ynghyd ag ambell ddarlith, a llawer ohonynt yn ymwneud yn uniongyrchol â Küng.

 

Nid On Being a Christian oedd cyfrol gyntaf Küng o bell ffordd, na hyd yn oed y gyntaf i’w ddwyn i sylw darllenwyr y tu allan i’r Eglwys Babyddol. Eisoes roedd wedi cyhoeddi cyfrolau o bwys â theitlau pryfoclyd, megis Infallible? An Enquiry (1971, cyfieithiad Saesneg), a Why Priests? yn yr un flwyddyn; ac roedd yna ddigon eto i ddod, megis Does God Exist? (1980) a Credo (1993). Dehongliad cyfoes o Gredo’r Apostolion yw Credo, a thros y blynyddoedd bu’n faes trafod buddiol iawn mewn seiadau yn fy eglwysi. Yn y gweithiau uchod ac eraill, fe heriai Küng bob sôn am ‘aberth yr Offeren’, y ddysgeidiaeth am wyryfdod parhaol Mair, a rhai agweddau ar y dehongliad traddodiadol o berson Crist. Does ryfedd i’r diweddar Athro Harri Williams gyfeirio ato fel ‘Y Pabydd Protestannaidd’!

Yn 1960 cafodd Küng ei benodi’n Athro Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Tübingen yn yr Almaen, ac yn 1963 yn bennaeth cyntaf y Sefydliad dros Ymchwil Ecwmenaidd. Chwaraeodd ran flaenllaw yn y paratoadau ar gyfer Ail Gyngor y Fatican (1962–5), a phenododd y Pab Ioan XXIII ef yn peritus (ymgynghorydd) i’r Cyngor. Golygai hyn ei fod yng nghanol y gwrthdaro rhwng yr arweinwyr traddodiadol a’r diwygwyr o fewn yr eglwys, a thyfodd yn fwyfwy siomedig yn wyneb methiant yr eglwys i’w diwygio’i hun. O hynny ymlaen bu’n gynyddol feirniadol o’r eglwys a’i harweinwyr, a’r rhwystredigaeth honno a gafodd fynegiant yn ei lyfrau.

 Yn ystod y cyfnod hwn roedd y Babaeth yn wynebu her o gyfeiriad Diwinyddion Rhyddhad America Ladin, gyda’u syniadau cymdeithasol chwyldroadol. Ac roedd diwinydd arall, Edward Schillebeeckx o’r Iseldiroedd, wedi dechrau cynhyrfu’r dyfroedd gyda’i weithiau sylweddol yntau. Cafodd Küng ei lusgo gerbron y Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd (etifedd y Chwilys) sawl gwaith, ac yn On Being a Christian mae’n cwyno bod hyn wedi peri iddo golli llawer o amser, pryd y gallasai fod yn ysgrifennu. Meddai: ‘The tiresome disputes forced on me afresh by Rome cost me at least two months of working time and working energies … The section planned [on prayer] therefore had to be dropped: a victim of the Roman Inquisition.’

Pen draw’r gwrthdaro hwn oedd i’r Cynulliad atal ei drwydded fel Diwinydd Pabyddol, y missio canonica, ym Mhrifysgol Tübingen yn 1979, er iddo barhau yn ei swydd fel Athro ‘seciwlar’ yno hyd ei ymddeoliad yn 1996.

Yn ddi-os, ei gyfrol fwyaf dylanwadol oedd On Being a Christian. Hon a enillodd glod i’w hawdur ymhell y tu hwnt i ffiniau’r Eglwys Babyddol. Mae’n cyffwrdd â phob rhan o ffydd a bywyd y Cristion, a hynny ar gefndir y byd y mae’n ceisio byw a thystio ynddo. Bu’n hynod boblogaidd. Cyhoeddwyd hi mewn clawr meddal yn fuan wedi iddi ymddangos yn Saesneg, ac fe’i gwelid ar werth mewn siopau newyddiaduron ac ar stondinau mewn gorsafoedd rheilffordd. Roedd gan Küng y ddawn i lefaru’n glir ac yn berthnasol, gan dorri drwy ganrifoedd o ddogmâu, a phwysleisio gogoniant a pherthnasedd oesol Crist ei hun.

Yn adran gyntaf y llyfr, mae ei ddiffiniad o oes dechnolegol, seciwlar yn dal yn werth ei ddarllen o hyd. Credai fod gwyddoniaeth a thechnoleg wedi rhyddhau dyn oddi wrth lawer o’i hualau, ond yr un pryd wedi creu caethiwed newydd. Dyna ben draw Marcsiaeth hefyd, meddai. Ond nid oedd yn besimistaidd ynghylch lle crefydd mewn bywyd: ‘It is the legal constraints of the technocratic society itself … which threaten to crush man’s personal dignity, freedom and responsibility … The really other dimension cannot be found on the plane of the linear, the finite, the purely human.’

Yn yr ail adran, fe’n harweiniodd i ystyried y gwahanol ddarluniau a gawn o Grist yn y Beibl, yn addoliad yr eglwys dros y canrifoedd, mewn dogma, ac mewn llenyddiaeth. Ac yn y drydedd adran, fe bwysleisiodd le’r eglwys ym mywyd y Cristion a bywyd y byd. Er mor finiog oedd sylwadau Küng ar yr eglwys y perthynai iddi, er gwaethaf y driniaeth a dderbyniodd drwy ei llaw, ac er gwaethaf ei holl ffaeleddau, roedd yn caru’r eglwys yn angerddol, ac yn caru ei Phen. Ar y diwedd, cyflwynodd y gyfrol i bob un sy’n chwilio, neu sy’n ansicr ei ffydd.

Crist ei hun oedd sail a sylfaen ffydd Küng: nid unrhyw ddogmâu amdano, ond y Crist a fyddai ei hun yn herio awdurdodau crefyddol ei ddydd. Ef yw ein patrwm: ‘Jesus himself in person is the programme of Christianity … The distinguishing feature of Christianity is Christ himself … He is himself the wholly concrete truth of Christianity … For faith, the true man Jesus of Nazareth is the true revelation of the only true God.’

Roedd yna rywbeth iach a ffres yn y modd y byddai Küng yn condemnio’r duedd sydd yn yr eglwys (pob eglwys!) i anrhydeddu’r hyn sy’n hen am ei fod yn hen: hen arweinwyr, hen draddodiadau, hen gredoau. Dim ond y Crist byw oedd yn cyfrif yn ei olwg, y Crist atgyfodedig, ac am hwnnw y siaradai ac yr ysgrifennai heb flewyn ar dafod. Roedd yn ddiwygiwr digymrodedd ac yn eciwmenydd brwd, a hynny yng ngwir ystyr y gair, sef ‘byd-eang’; dywedodd yn 2009 na fyddai heddwch rhwng cenhedloedd y byd nes y ceid heddwch rhwng crefyddau’r byd.

Ond yn bennaf oll cofiwn amdano fel cyfathrebwr dawnus, un y mae ei weithiau’n para i’n hysbrydoli.

Glyn Tudwal Jones