E-fwletin 9 Mai 2021

Curo ar y Drws

‘Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato a bydd y ddau ohonom yn cyd-fwyta gyda’n gilydd’. (Dat. 3:20)

Drws: y bwlch yr eir i mewn drwyddo i adeilad, dôr, cyfrwng mynediad neu gyrhaeddiad, agoriad, cyfle.

Mae’r dystiolaeth archeolegol yn dangos fod drysau wedi eu gosod ar gytiau crwn ein hynafiaid dros 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd eu defnydd pryd hynny, fel heddiw, i’n cadw’n ddiogel gyda’r hwyr, i gadw’r byd mawr led braich tu draw i’r rhiniog, i amddiffyn y teulu oedd yn swatio rownd y tân, cyfle i anwybyddu’r hyn oedd yn digwydd o’u cwmpas.

Mae pobl wastad wedi bod yn barod i gau’r drws ar realiti’r hyn sy’n digwydd yn eu milltir sgwâr neu ymhellach i ffwrdd. Saffach o lawer yw swatio rownd y tân gan wybod fod y drws wedi ei gloi.

Mae’n siŵr fod pawb yn wybyddus â gwaith yr arlunydd Holman Hunt, ‘The Light of the World’. Mewn perllan saif ffigwr sy’n gwisgo coron o ddrain ac yn cario lamp sy’n taflu ei goleuni ar ddrws caeedig nad oes modd ei agor o’r tu allan. Mae’n amlwg fod y drws wedi bod ynghau ers amser. Mae’r iorwg wedi prysur dyfu a gorchuddio’r drws.

Iesu wrth gwrs yw’r ffigwr sydd wrth y drws. Mae ar fin curo arno. Dyna sy’n denu sylw’r mwyafrif sy’n craffu ar y llun. Ond mae yna un manylyn arall yn y llun nad oes pawb wedi sylwi arno. Pan welwch y llun y tro nesaf, edrychwch ar draed Iesu. Maent wedi eu darlunio fel petai Iesu ar fin cerdded i ffwrdd. Yr awgrym yw ei fod wedi blino aros. Mae wedi blino ar guro’r drws a methu cael ateb.

Nod y darlun yw ein herio. Ydyn ni’n mynd i agor y drws cyn ei fod yn rhy hwyr? Ydyn ni’n mynd i gadw’r drws ar gau oherwydd ein bod yn ofni’r dyfodol? Ydyn ni’n mynd i gadw’r drws ar gau oherwydd bod hi’n well gennym swatio rownd y tân a throi ein cefn ar realiti’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas?

Es i am dro’r diwrnod o’r blaen. Roedd yna fwriad penodol i’r daith. Fy mwriad oedd cyfrif faint o gapeli’r cylch, sy’n dal i gynnal gwasanaethau, oedd â hysbysfwrdd ger eu drysau – hysbysfwrdd a fyddai’n nodi rhif ffôn cyswllt, cyfeiriad e-bost, amserau’r gwasanaethau ac ati.

Ymwelwyd ag ugain capel. ‘Sbin’ bach braf! O’r ugain dim ond chwech oedd yn cynnig unrhyw fath o wybodaeth – boed hynny’n rhif cyswllt neu’r amserau pryd fyddai’r drws ar agor i groesawu’r addolwyr. Roedd un deg pedwar yn amlwg yn glybiau preifat i’r detholedig rai.

Eglurodd Holman Hunt mai’r hyn oedd yn ceisio ei gyfleu yn y llun oedd ‘the obstinately shut mind’. Onid yw hyn yn ein hatgoffa o aelodau ac arweinwyr eglwysig ar hyd a lled Cymru heddiw. Does dim gwahoddiad yn y rhelyw o’r capeli i’r dieithryn, yr ymwelydd, y cymydog, y newydd ddyfodiad – dim gwahoddiad i droi’r bwlyn a dod drwy’r drws. Mae’r ‘obstinately shut minds’ wedi penderfynu mai gwell yw swatio rownd y tân ac anwybyddu’r gymdeithas tu hwnt i’r drws. Gwell ganddynt gadw pawb lled braich mewn adeiladau ac achosion sy’n prysur ddadfeilio ac aros yn y tywyllwch.