Cylch cythreulig y gellid bod wedi’i rag-weld

Dim ond gonestrwydd a thrafodaethau heddwch fydd yn atal y trais
Cylch cythreulig y gellid bod wedi’i rag-weld

Yn ystod yr wythnos a aeth heibio gwyliodd y byd mewn braw wrth i drais dorri allan ac ymledu yn nwyrain Caersalem, rhwng Israel a Gasa, ar draws y Lan Orllewinol ac mewn trefi yn Israel ei hun. Yn ôl Gweinyddiaeth Iechyd Gasa, erbyn 16 Mai (fe fydd yn llawer mwy pan fyddwch yn darllen yr erthygl hon) yr oedd 140 o bobl a 39 o blant wedi’u lladd yn Gasa, a 900 wedi’u hanafu. Mae o leiaf wyth o farwolaethau wedi bod yn Israel, gan gynnwys dau blentyn a menyw oedrannus ar ei ffordd i gysgodfa. 

Ac eto, nid rhywbeth newydd yw’r trais yma, ond yr enghraifft ddiweddaraf o gylch treisgar cythreulig a ddechreuodd 73 mlynedd yn ôl gyda’r Nakba (trychineb) yn 1948. Bryd hynny, gyrrwyd y rhan fwyaf o bobl Palestina o’u cartrefi; dinistriwyd eu trefi a’u pentrefi, a chwalwyd eu cymdeithas. Mae Palesteiniaid ar y Lan Orllewinol wedi bod yn byw o dan orthrwm milwrol am dros 53 o flynyddoedd ac yn gwybod yn iawn beth mae hyn yn ei olygu yn nhermau trais beunyddiol a diffyg hawliau dynol. Yn aml, byddant yn gorfod aros am oesoedd wrth reolfannau milwrol, yn cael eu trin yn sarhaus, yn colli tir a’r hawl i adeiladu, ac yn cael mynediad cyfyngedig yn unig at wasanaethau addysg ac iechyd … Mae dros bum miliwn o Balesteiniaid heddiw yn dal yn ffoaduriaid ac yn dibynnu ar UNRWA (Gwasanaeth Cymorth y Cenhedloedd Unedig) i ddiwallu eu hanghenion.

Yn ôl adroddiad diweddar gan Human Rights Watch: ‘Mae cau ffiniau Gasa, sydd bellach wedi digwydd ers 12 mlynedd, … yn cyfyngu ar gyfleoedd addysgol ac economaidd, gofal meddygol, dŵr glân a thrydan ar gyfer yn agos at ddwy filiwn o Balesteiniaid sy’n byw yno. Mae 80% o bobl Gasa yn dibynnu ar gymorth dyngarol.’

Mae’r rhan fwyaf o’r troseddau hyn, sy’n groes i hawliau dynol, yn digwydd o’r golwg, ac nid ydynt yn dod i sylw pobl yn gyffredinol. Nid yw bygythiadau i symud teuluoedd Palesteinaidd o’u cartrefi yn nwyrain Caersalem a gosod ymsefydlwyr Israelaidd yn eu lle yn beth newydd chwaith. Pan oeddwn yn Hebryngwraig Eciwmenaidd ar y Lan Orllewinol yn 2012, cymerais ran mewn gwrthdystiadau yn Sheikh Jarrah ar y cyd â heddychwyr Palesteinaidd, Israelaidd a rhyngwladol. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio y gall y bygythiadau hyn i droi trigolion o’u cartrefi gael eu hystyried yn droseddau rhyfel. (Goresgynnwyd dwyrain Caersalem gan Israel yn ystod rhyfel 1967 a’i chyfeddiannu yn 1980 – gweithred a gondemniwyd gan y gymuned ryngwladol.)

Gellir dadlau, felly, y byddai wedi bod yn bosib rhag-weld y trais presennol. Dim ond gwreichionen oedd ei hangen i’w danio. Digwyddodd hyn pan ddefnyddiodd heddlu a lluoedd arfog Israel nwy dagrau a grenadau llonyddu ar safle mosg Al-Aqsa wrth i Fwslemiaid ddod at ei gilydd i addoli ar ddiwedd Ramadan. 

Ymateb Cristnogol:

Sut y dylem ni, Gristnogion, ymateb i’r sefyllfa dorcalonnus hon?   

Yn gyntaf, dylem gondemnio’r defnydd o drais ar y ddwy ochr. Dim ond gwneud pethau’n waeth fydd tanio rocedi ar hap o Gasa i mewn i Israel a chyrchoedd ‘manwl’ o’r awyr gan Israel ar ardaloedd poblog Gasa. Bydd dinasyddion diniwed yn colli’u bywydau a chan fod arfau Israel yn gymaint cryfach ac yn fwy soffistigedig, mae’n anochel taw trigolion Gasa a fydd yn cyfrif y gost i raddau helaeth. 

Yn ail, dylem fod yn barod i siarad yn ddiflewyn-ar-dafod yn erbyn yr hyn sydd wrth wraidd y trais presennol. Dylem alw ar Israel i dynnu ei lluoedd arfog o’r Lan Orllewinol, rhoi terfyn ar y gwarchae ar Gasa ac ar adeiladu treflannau anghyfreithlon ar dir Palesteinaidd. Dylem fynnu bod trafodaethau heddwch yn ailddechrau, rhai sydd o ddifrif ac yn seiliedig ar barch tuag at hawliau dynol, cydraddoldeb ac urddas i bawb. Mae’r YWCA ym Mhalesteina eisoes wedi galw ar y gymuned ryngwladol i ‘ddwyn Israel i gyfrif am ei throseddau parhaus yn erbyn hawliau dynol yn unol â deddfau rhyngwladol a’r cytundebau rhyngwladol perthnasol’.

Ar ddiwedd gosodiad cryf am y sefyllfa, fe wnaeth Paul Parker, Clerc y Crynwyr ym Mhrydain, annog arweinwyr ffydd ac arweinwyr gwleidyddol i godi eu llais: ‘Tra byddwn yn dewis aros yn fud a chamu yn ôl o eiriau a gweithredoedd anghyffyrddus,’ meddai, ‘rydym ni oll yn rhannol gyfrifol am i barhad y trais. Nid oes a wnelo hyn ddim â gwrth-Semitiaeth. Mae’n ymwneud â sefyll yn erbyn cylch cythreulig o drais a dial sydd yn niweidiol i bawb yn yr ardal – Israeliaid a Phalesteiniaid fel ei gilydd. Mae hefyd yn golygu sefyll dros heddwch parhaol, yn seiliedig ar gydraddoldeb, cyfiawnder a pharchu hawliau dynol. 

Ym mis Ebrill 2016 fe dreuliais amser yn Gasa, lle cynhaliwyd gweithdai AVP (Alternatives to Violence Project) ar gyfer myfyrwyr ym mhrifysgol Gasa. Roeddem yn dîm o ddau Americanwr a menyw o Brydain. Cawsom groeso cynnes gan y myfyrwyr. Yn ystod y gweithdy cyflwynom ni nifer o elfennau a all fod yn ddefnyddiol ar gyfer datrys gwrthdaro mewn ffordd ddi-drais. Yna, fe wnaethon ni ofyn iddynt pa un fyddai anoddaf iddynt. ‘Gobeithio’r gorau,’ meddai’r rhan fwyaf ohonynt, gan leisio’u hargyhoeddiad y byddai rhyfel yn dychwelyd i’w hardal a’i bod hi, felly, yn anodd dychmygu dyfodol gwell. Rwy’n meddwl am y myfyrwyr nawr. Beth fedrwn ni ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc yr ardal –Israeliaid a Phalesteiniaid fel ei gilydd – yn medru edrych ymlaen at ddyfodol heb drais? 

Jane Harries

Nodiadau:


Human Rights Watch, Adroddiad ar Israel a Phalestina, 2021: World Report 2021: Israel and Palestine | Human Rights Watch (hrw.org)

Datganiad gan y Crynwyr ym Mhrydain:
https://www.quaker.org.uk/news-and-events/news/quakers-call-for-end-to-violence   

Datganiad gan Pax Christi:
https://paxchristi.net/2021/04/27/pax-christi-international-calls-on-un-to-oppose-sheikj-jarrah-silwan-evictions/

Ymateb gan Gymorth Cristnogol i’r sefyllfa yng Nghaersalem a Gasa: Christian Aid responds on Jerusalem and Gaza – Ekklesia

Datganiad ar y cyd gan EAPPI, y Crynwyr ac 14 o elusennau eraill yn y Deyrnas Unedig:
https://www.quaker.org.uk/news-and-events/news/coalition-stands-up-for-rights-of-palestinian-people

Datganiad gan benaethiaid eglwysi yng Nghaersalem:
https://www.lpj.org/archives/latin-patriarchate-reacts-to-recent-violence-in-jerusalem.html

Datganiad gan Gyngor Eglwysi’r Byd (WCC):
https://www.oikoumene.org/news/wcc-calls-for-end-to-violence-urges-respect-of-status-quo-of-holy-sites-in-jerusalem