Y daith ydi adra

Y daith ydi adra

Yn y misoedd ar ôl imi gael fy nhywys oddi wrth hunanladdiad, treuliais lawer o amser gyda Huw a Mair Wynne Griffith [Gweinidog Capel Seilo a’i briod] yn Aberystwyth. Eu cariad a’r modd yr oeddynt yn derbyn yn ddiamod yr hyn oedd yn wahanol amdanaf oedd yr angor a ddaliai’n gadarn ar adeg pan mai’r unig beth y medrwn obeithio amdano oedd gallu dal ati trwy’r ychydig oriau nesaf. Ac felly llwyddais i ‘ddal ati’ am ddyddiau, a’r dyddiau yn troi’n wythnosau, a’r wythnosau’n fisoedd. Weithiau byddai Huw yn cynnig llyfr yr oedd wedi ei ddarllen imi – Is the homosexual my neighbour? gan Mollenkott a Scanzoni a Time for consent gan Norman Pittenger. Byddai Mair yn aberthu dyddiau ar eu hyd i wneud dim mwy nag eistedd efo fi. ‘Y daith ydi adra,’ fyddai hi’n ei ddweud, ‘ac weithiau, pan mae pethau’n anghyfforddus neu pan ’dan ni yn teimlo ar goll, mae angen cwmni ar y daith honno.’

Roedd hi’n hoff o chwarae casét o ganu yr oedd un o’r merched wedi dod ag o adref o Taize … canu o symlrwydd cynhwysol. Roeddwn yn arbennig o hoff o ‘Ubi caritas, et amor, Deus ibi est’ – ‘Lle bo graslorwydd a chariad, yno y mae Duw’, a chredaf fod llafarganu y Brodyr o Taizé nid yn unig wedi tawelu fy meddwl cythryblus ond hefyd wedi gwneud fy synhwyrau yn agored i fyfyrdod a gweddi.
(tudalen 108)

O’r gyfrol Y daith ydi adra gan John Sam Jones (Parthian, 2021, £15.00). Dyma hunangofiant gonest – ar adegau, hyd yn oed yn boenus o onest – am fywyd a phrofiadau bachgen oedd yn ymwybodol yn ifanc iawn ei fod yn hoyw. Yn y gyfrol fe gawn hanes ei frwydr ag ef ei hun, ei ysgol a’i gymuned, ei eglwys ac â’i Dduw. Mae’n fwy na’r hunangofiant cyntaf o’i fath yn y Gymraeg. Mae’n bererindod ysbrydol gyfoes.

PLlJ