E-fwletin 28 Gorffennaf 2019

Capeli’n Cau

Cafwyd adroddiad yn y newyddion yn ddiweddar am ganfyddiadau arolwg a wnaed i agweddau cymdeithasol pobl yng ngwledydd Prydain. Yn ôl yr arolwg roedd dros hanner y boblogaeth yn dweud nad ydy nhw’n arddel unrhyw grefydd.

Mae’r lleihad yma wedi cyd-fynd â’r trai ymhlith y rhai sy’n perthyn neu’n mynychu ein capeli a’n heglwysi, gan arwain at gau cannoedd ohonynt.

Mewn cyfweliad yn trafod yr arolwg ar Radio Cymru roedd gan Cynog Dafis sylwadau diddorol iawn ar y mater. Yn eu plith honnai fod mesur helaeth o’r bai am y trai crefyddol ar y ffordd y mae’r Ffydd Gristnogol yn cael ei chyflwyno. “Caiff crefydd” meddai, “ei gweld fel hen beth ceidwadol, yn haearnaidd eu syniadau, ac sy’n barod iawn i feirniadu pobl â’u hymddygiad yn wahanol i ymddygiad traddodiadol”

Gobeithio y daw cyfle cyn hir i Cynog ymhelaethu ar ei sylwadau ar y pwnc amserol hwn ar wefan Cristnogaeth 21. Yn y cyfamser dyma fyfyrdod wedi cau capel.

 

Y Tŷ Cwrdd

Mae drysau’r Tabernacl wedi’u bolltio,
Y dŵr a’r trydan wedi’u troi i ffwrdd,
Aroglau pȋn y corau’n dal i’w glywed,
Ond neb yn t’wllu’r fan i gynnal cwrdd.

Bu’r storm yn bylchu’r to trwy gipio’r llechi,
Mae’r muriau llaith yn rhedeg gan chwys oer,
Llythrennau cysegredig wedi crawnu
Ac yn glynu wrth y morter fel hen boer.

Mae’i hyd a’i led a’i uchder wedi’u mesur
Daw rhywrai i fwrw golwg a’u boddhau,
Ond er troi’r lle yn dŷ, yn siop neu’n dafarn
Bydd rhywbeth o’r hyn oedd eto’n parhau.

Ond mae mam sydd heno’n dal i ddweud ei phader,
A rhywrai’n cynnau cannwyll ar y stryd;
Mae dau yn caru’n dyner ar y cyrion
A’u hiraeth am gael bod yn wyn eu byd,
Oes mae hiraeth am gael bod yn wyn eu byd.

*                  *                  *                  *

Dywed Leonard Cohen yn ei gân ‘Anthem’:

“There is a crack in everything,
That’s how the light gets in.”

Mae pobl yn dal i chwilio ac yn ‘hiraethu am gael bod yn wyn eu byd’ yn y dyddiau ol-Gristnogol (os nad ol-gapeli) hyn. A thra bo’r eglwys yn mynnu dal gafael ym muchod sanctaidd y gorffennol fe aiff pobl i chwilio a dod o hyd i’r goleuni mewn mannau eraill. Efallai taw yn fanna mae’n gobaith ni!

“O! Eglwys, eglwys! Ti sy’n lladd y proffwydi ac yn llabyddio’r rhai a anfonwyd atat, mor aml y byddem wedi gadael i ti ein casglu ynghyd gyda’th blant, fel y mae giâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond fynnet ti ddim.”

(gw: www.nakedpastor.com/catoons)

Dyma’r e-fwletin ola tan fis Medi. Mwynhewch weddill yr haf, a chofiwch am encil Cristnogaeth 21yng nghapel Berea Newydd, Bangor, ddydd Sadwrn, Medi 21ain am 10:00 dan y teitl Y Cread a’r Cymod  yng nghwmni Gareth Lloyd Jones, Dyfed Wyn Roberts, Sioned Webb ac Ifor ap Glyn. Cost :  £20.00 (yn cynnwys cinio). Rhaid cofrestru erbyn Medi 14eg drwy anfon nodyn at: catrin.evans@phonecoop.coop neu ffonio 01248 680858.